NATALIE WILLIAMS (Cyfarwyddwraig)

Daw Natalie â dealltwriaeth eang o’r byd cyhoeddi i’w rôl fel Cyfarwyddwraig y Wasg. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen. Yna symudodd i Nelson Thornes, lle bu’n Uwch Gyhoeddwr yn gyfrifol am y portffolio Mathemateg uwchradd a strategaeth gyhoeddi’r DU.

Cyn ymuno â GPC yn Ebrill 2017, bu Natalie’n rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun, gan weithio i gyhoeddwyr gan gynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Hodder Education, Pearson Education a HarperCollins, yn ogystal ag ymgymryd â Gradd Meistr Gweithredol mewn Gweinyddiaeth Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd, ac enillodd gyda Rhagoriaeth yn haf 2017. Mae Natalie yn darparu arweiniad cryf a strategaeth glir i’w thîm talentog, gan dynnu o’i 15+ mlynedd yn y diwydiant a’i brwdfrydedd am bopeth creadigol, i geisio am gyfleoedd newydd i’r Wasg.

SARAH LEWIS (Pennaeth Comisiynu)

Mae talent Sarah fel y ddolen rhwng cynnig dechreuol a’r llyfr cyhoeddedig yn amlwg yn ei chyfathrebu clir a’i sgiliau negodi craff gydag awduron, asiantau neu aelodau’r uwch dîm. Gyda’i huchelgais gadarn i wneud y gorau posib dros yr awdur a’r llyfr, mae Sarah yn parhau i ehangu safle arbenigol y Wasg.

Ymunodd Sarah â GPC yn 2003 fel Golygydd Comisiynu cyn iddi gael ei phenodi’n Bennaeth Comisiynu yn 2010. Mae ei blynyddoedd yn y byd cyfreithiol fel cyfreithiwr cymwys, a’i 15 mlynedd mewn golygu academaidd wedi rhoi sgiliau manylrwydd a negodi cytundeb i Sarah. Yn ogystal, caiff ei safbwynt personol fel awdur ei adlewyrchu yn ei chyfraniadau ysgrifenedig i Time Out, Rough Guides a chyhoeddiadau teithio eraill; cefndir i’w chariad parhaus tuag at deithio a diwylliant y byd yn ei holl ffurfiau.

VICKI ALEXANDER (Rhelowraig Cyllid a Busnes)

Mae gan Vicki dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn cyllid. Mae ganddi gymhwyster o gorff proffesiynol cyfrifwyr ym Mhrydain (AAT) ac mae’n astudio’n rhan amser ar hyn o bryd ar gyfer cymhwyster ACCA a gradd BSc mewn Cyfrifeg Gymhwysol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae ganddi sgiliau rheoli a dadansoddi ariannol da, ac mae’n cefnogi cydweithwyr trwy ddatblygu systemau cyllid effeithiol a thrwy fagu dealltwriaeth ddyfnach o gyllid ym mhob agwedd o’r busnes.

Mae Vicki wedi gweithio’n flaenorol o fewn elusennau a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal â diwydiannau masnachol. Mae ganddi gyfoeth o wybodaeth am gyfrifeg o fewn ystod eang o sectorau, ynghyd â llygad dda am fanylion a chywirdeb.

MARIA VASSILOPOULOS (Rheolwraig Gwerthiant Rhyngwladol)

Maria Vassilopoulos yw Rheolwraig Gwerthiant Byd-eang y Wasg a phennaeth yr adran Werthiant a Marchnata, sy’n sicrhau bod llyfrau GPC i’w gweld a’u darllen ledled Cymru, gweddill y DU a’r byd. Mae Maria yn rheoli ein cynrychiolwyr gwerthiant a chwsmeriaid, boed yn gyflenwyr eLyfrau neu siopau llyfrau annibynnol, ac yn canolbwyntio ar feithrin perthnasau masnachol llwyddiannus ar gyfer ein holl gyhoeddiadau.

Cyn ymuno â GPC yn Hydref 2021, bu Maria yn rheoli gwerthiant a marchnata’r cwmni cyhoeddi British Library Publishing a chyn hynny gweithiodd i gylchgrawn The Bookseller, Abrams & Chronicle Books a bu am gyfnod o wyth mlynedd yn gwerthu llyfrau yn Waterstones Caerfaddon a Llundain. Mae Maria yn hanesydd masnach lyfrau ac yn ysgrifennu PhD yn UCL ar hanes gwerthu llyfrau. Hithau hefyd yw archifydd The Book Society ac mae’n ysgrifennu llyfr i nodi eu canmlwyddiant.

STEVEN G. GOUNDREY (Rheolwr Cynhyrchu)

Mae Steve yn goruchwylio prosesau cynhyrchu a golygyddol holl lyfrau a chyfnodolion GPC, gan reoli pob cam o daith cyhoeddiad o’r dechau pan gaiff llawysgrif terfynol ei gyflwyno hyd at y dosbarthiad print ac eLyfrau gyda’n dosbarthwyr.

Dechreuodd Steve ei yrfa ym myd cyhoeddi gyda GPC yn ôl yn 2005, cyn ymuno â’r adran Gynhyrchu a Golygyddol fel Cynorthwyydd Cynhyrchu a mwyhau 11 mlynedd fel aelod tîm. Daeth i oruchwylio portffolio o gyhoeddiadau newydd gan ennill cyfoeth o brofiad mewn cynhyrchu, dylunio, argraffu a nifer o agweddau eraill o gyhoeddi academaidd. Cyn dychwelyd at GPC yng ngwanwyn 2021, roedd Steve yn aelod o athrofa ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, lle gweithiodd fel rheolwr prosiect am 5 mlynedd. Fel rheolwr prosiect a chynhyrchu llawrydd, gweithiodd gyda chyhoeddwyr niferus gan gynnwys Sage, Bloomsbury, Emerald ac Edward Elgar ac mae ganddo wybodaeth a dealltwriaeth eang o gyhoeddi academaidd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

DAFYDD JONES (Golygydd y Wasg)

Hanes celf a theori feirniadol modern a chyfoes yw cefndir a maes ymchwil barhaus Dafydd; fel darlithydd mewn celfyddyd gain (1995–2012), bu’n ymchwilydd preswyl yn Archif Ryngwladol Dada ym Mhrifysgol Iowa, gan gyfrannu at ymyrraeth feirniadol wrth ddogfennu’r avant-garde hanesyddol – yn amlwg felly gyda Phrosiect Avant-Garde prifysgolion Caeredin a Glasgow (2000–7) a’r gyfres arloesol ‘Crisis and the Arts: The History of Dada’ (1996–2005). Ef oedd golygydd y gyfrol Dada Culture (2006), ac awdur y monograffau ymchwil Dada 1916 in Theory: Practices of Critical Resistance (2014) a The Fictions of Arthur Cravan: Poetry, Boxing and Revolution (2018). Fel Golygydd Gwasg Prifysgol Cymru, bydd Dafydd yn arolygu holl weithgaredd golygyddol a chysondeb ansawdd allbwn testunol GPC, yn gweithio rhwng adrannau’r wasg ac yn agos ag awduron wrth i’w cyfrolau symud ar hyd y drefn broflennu a chynhyrchu, hyn oll er sicrhau cyhoeddiadau o safon yn gymwys â’u hawduraeth.

LLION WIGLEY (Uwch Olygydd Comisiynu, Cymraeg a Phynciau Cymreig)

Yn ei waith, mae Llion yn blaenoriaethu’r cydweithio hanfodol hynny gydag awduron wrth ddatblygu cyhoeddiadau’n ymwneud â Chymru (yn y Gymraeg a’r Saesneg). Mae ei wybodaeth academaidd o hanes a diwylliant Cymru yn fantais amlwg wrth fagu’r berthynas briodol ag awduron ac wrth adnabod potensial syniadau i’w datblygu ar gyfer cyhoeddi gyda Gwasg Prifysgol Cymru.

Ymunodd Llion â’r Wasg yn 2013 wedi degawd o brofiad yn y sector gyhoeddus yn gweithio i Mencap Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, lle datblygodd wybodaeth fanwl o anghenion arwyddo gwybodaeth ar draws ystod helaeth o ddefnyddwyr. Ynghyd â’r gwaith pwysig yma, enillodd Llion radd doethur o Brifysgol Aberystwyth am ei draethawd hir ar Gymru a diwylliant iaith Gymraeg yn y 1960au.

ELIN WILLIAMS (Rheolwraig Marchnata a Digwyddiadau)

Graddiodd Elin o Brifysgol Caerdydd yn 2015 gyda gradd MA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, cyn ymuno â’r Wasg yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Fel Rheolwraig Marchnata a Digwyddiadau, Elin sydd yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth farchnata’r Wasg gan sicrhau bod pob cyhoeddiad yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol. I gyflawni hyn, mae mewn cyswllt cyson gydag awduron, ynghyd â chysylltiadau allanol yn y cyfryngau a chydweithwyr yng Ngwasg Prifysgol Chicago. O ddydd i ddydd, gweithia’n agos gyda holl adrannau’r Wasg, a’r adran Gomisiynu yn benodol wrth gynorthwyo i lunio rhaglen gyhoeddi Cymraeg ac astudiaethau Cymreig GPC. Hithau hefyd sydd yn rheoli’r rhaglen ddigwyddiadau, gan drefnu lansiadau a phresenoldeb awduron mewn gwyliau llenyddol yng Nghymru a thu hwnt.

CHRIS RICHARDS (Golygydd Cynorthwyol Cyfnodolion a Chomisiynu)

Mae Chris yn cefnogi’r adrannau Comisiynu a Golygyddol trwy’r gwahanol gamau yn y broses gomisiynu, ac mae’n gyswllt allweddol ar gyfer awduron newydd. Mae’n delio gydag amserlennu a pharatoi cyfnodolion, gan weithio gyda golygyddion a chyfranwyr er mwyn trosglwyddo rhifynnau newydd i’w cynhyrchu. Mae Chris yn gyfrifol am freindaliadau a rheoli data GPC, a sicrhau bod awduron yn derbyn eu taliadau trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â thasgau eraill, mae hefyd yn delio gyda cheisiadau caniatâd a Mynediad Agored ar gyfer cyhoeddiadau GPC.

Cyn ymuno â’r Wasg yn 2016, roedd Chris yn gynorthwyydd llyfrgell, ac astudiodd Lenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abersytwyth a Phrifysgol Warwick.

AMY FELDMAN (Cyhoeddwr – Calon)

Amy yw Cyhoeddwr argraffnod masnach newydd GPC (a lansiwyd yn 2022), Calon, sydd yn rhannu straeon am Gymru a chyfoeth ei diwylliant i gynulleidfa eang. Mae’n benodol yn mwynhau meithrin perthynas gydag awduron ag ystod eang o brofiadau, a’u llywio i fedi ffrwyth llafur eu syniadau.

Cyn ymuno â GPC yn 2021, roedd Amy yn Olygydd yn adran gyhoeddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chyn hynny bu mewn swyddi marchnata gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Bloomsbury Publishing a Polity. Enillodd radd MA mewn Astudiaethau Cyhoeddi o Brifysgol Dinas Llundain, a gradd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caerdydd. Mae Amy hefyd yn awdur ffeithiol cyhoeddedig, gyda Dear Damsels a National Trust Books, ac wastad yn ceisio cymhwyso ei phrofiad a dealltwriaeth o ochr hon o’r broses gyhoeddi i’w gwaith fel Cyhoeddwr.

ADAM BURNS (Cynorthwyydd Cynhyrchu a Golygyddol)

Fel Cynorthwyydd Cynhyrchu a Golygyddol, mae Adam yn cynorthwyo’r Rheolwr Cynhyrchu a Golygydd y Wasg i hwyluso’r broses gynhyrchu. Yn y swydd hon, mae’n ofynnol i greu a chynnal perthynas gyda chyflenwyr gan gynnwys dylunwyr, argraffwyr a chysodwyr, eu briffio ar holl rannau’r broses gynhyrchu, a chydweithio gyda chyflenwyr, awduron a’r adran gynhyrchu yn fewnol i sicrhau cyfathrebu cyson a chwblhau swyddi o fewn terfynau amser. Yn ogystal, mae’n gyfrifol am brosesu anfonebau i gyflenwyr; canfod, trwyddedu a gwirio ansawdd lluniau; a chynnal yr amserlen gynhyrchu i sicrhau bod cyhoeddiadau’r Wasg yn parhau o’r ansawdd gorau.

Gyda diddordeb brwd mewn Llenyddiaeth Gymreig, mae gan Adam radd MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Bangor, gyda thraethawd hir yn manylu ar Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg y 1960au. Cyn ymuno â’r Wasg, cwblhaodd gyfnodau profiad gwaith gyda chyhoeddwyr Little, Brown Book Group, Parthian Books a Penguin Random House.

GEORGIA WINSTONE (Cynorthwyydd Gwerthiant a Marchnata)

Mae Georgia yn cefnogi’r adran Werthiant a Marchnata i sicrhau bod pob llyfr a chyfnodolyn yn cyrraedd y gynulleidfa darged a’i botensial gwerthiant llawn. Fel Cynorthwyydd Gwerthiant a Marchnata, mae’n bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gwerthiant a marchnata, yn dosbarthu copïau adolygu, mynychu cynadleddau academaidd, gofalu am gywirdeb metadata, ac yn rheoli presenoldeb y Wasg a Calon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cyn ymuno â GPC yn 2022, graddiodd Georgia o Brifysgol Efrog gyda BA (Anrh) mewn Saesneg a Llenyddiaeth Gysylltiedig yn 2019, gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth ganoloesol. Aeth ymlaen i dderbyn MA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caerdydd yn 2020 gan edrych ar Lenyddiaeth Gymraeg yn Saesneg. Mae ganddi brofiad o weithio mewn siopau llyfrau ac mewn marchnata cynnyrch, ac mae hefyd wedi gweithio ar leoliadau gyda Penguin Random House a Gŵyl y Gelli.

.