Dychmygu Iaith

Awdur(on) Mererid Hopwood

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2022 · 136 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Caled - 9781786839190
  • · eLyfr - pdf - 9781786839206
  • · eLyfr - epub - 9781786839213

Am y llyfr

Mae astudiaethau niferus wedi archwilio delweddaeth beirdd drwy ac mewn iaith, hynny yw, y modd y defnyddiant iaith i greu delweddau, ond nid felly’r ddelweddaeth am iaith ei hunan. Nod y llyfr hwn yw craffu ar sut y mae casgliad o feirdd o bob cwr o’r byd wedi dychmygu a delweddu iaith, a hynny er mwyn ceisio goleuni newydd ar y cwestiwn hynafol: ‘Beth yw iaith?’

Gan mai yng nghyd-destun dathlu canmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru yr ysgogwyd y llyfr, dewiswyd y testun gan ei fod yn gydnaws â dau o brif themâu cyhoeddiadau’r Wasg. Ar y naill law, mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith unigryw Cymru, ac ar y llall ehangu ein gwerthfawrogiad o ddiwylliant Ewrop a’r byd.

Mewn cyfuniad unigryw sy’n cwmpasu esiamplau o gerddi mewn ieithoedd dan fygythiad a rhai prif ffrwd, dyma lyfr sy’n ein hannog i ystyried o’r newydd gyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio’n feunyddiol.

Dyfyniadau

‘Meddwl athronyddol miniog, dawn y bardd i gyfannu, gorwelion eang yr ieithydd cymharol – daw’r cyfan ynghyd yn y gyfrol hon i’n harwain at y mannau dirgel hynny lle mae iaith a chreadigrwydd ynghlwm yng ngwraidd ein bodolaeth.’
-Ned Thomas

‘Astudiaeth fywiog, ddarllenadwy, eang ei chwmpas sy’n mynd â ni ar daith trwy sawl cyfandir wrth geisio canfod beth yw iaith. Mae’r drafodaeth drwyddi draw yn eglur ac egnïol, a’r corff o gerddi a gynhwysir yma, o Gymru ac o bedwar ban byd, yn ychwanegiad gwerthfawr at ein llenyddiaeth. Trwy’r cyfan, yn llinyn arian, rhed argyhoeddiad yr awdur bod delweddu iaith, trwy ailddychmygu, yn fynegiant o obaith. Dyma gyfrol loyw ac ysgogol sy'n deyrnged addas i waddol Gwasg Prifysgol Cymru ym mlwyddyn dathlu ei chanmlwyddiant.’
-Angharad Price

Cynnwys

Rhagair
Cydnabyddiaethau
Rhestr o ddarluniau
Byrfoddau
Cyflwyniad
1 Preswylfa ein Bod
2 Merch perygl
3 Cwrwgl
4 Cleddyf
5 Dillad benthyg
6 Gwaed fy ysbryd
7 Dyfnder, dyfnfor
8 Ein mam, ein tad
9 Dychwelyd o faes y gad
10 Proffwydoliaeth
11 Tiwnio llais yr iaith
12 Clo
Atodiad Cerddi
Mynegai

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Mererid Hopwood

Mae Mererid Hopwood wedi treulio ei gyrfa yn dysgu ac addysgu iaith a llenyddiaeth. Mae'n fardd ac awdur, ac yn Athro Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Darllen mwy