‘Mae’r Beibl o’n tu’

Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868)

Awdur(on) Gareth Evans-Jones

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig

  • Medi 2022 · 368 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786838834
  • · eLyfr - pdf - 9781786838841
  • · eLyfr - epub - 9781786838858

Am y llyfr

Hon yw’r astudiaeth gyntaf mewn unrhyw iaith sy’n archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i gaethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838–68, sef oes aur y wasg gyfnodol Gymraeg yno. Gan ddefnyddio’r wasg gyfnodol fel sail, cyflwynir trafodaeth wreiddiol am y modd y syniai’r Cymry Americanaidd am gaethwasiaeth, un o faterion mwyaf dyrys eu gwlad fabwysiedig, a hynny yng nghyd-destun disgwrs Feiblaidd. Asesir y modd y gwnaeth syniadaeth grefyddol a chyfeiriadaeth Feiblaidd dreiddio’r erthyglau, yr ysgrifau, y darnau o farddoniaeth a’r rhyddiaith greadigol a gyhoeddwyd yng nghyfnodolion Cymraeg yr Unol Daleithiau, gan gynnig mewnwelediad unigryw i’r farn gyhoeddus Gymraeg a Chymreig-Americanaidd am gaethwasiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dylanwadodd adnabyddiaeth y Cymry Americanaidd â’r Beibl yn ddwys ar eu meddwl, eu dychymyg a’u gweithgarwch o ddydd i ddydd, ac yn y gyfrol hon bwrir goleuni o’r newydd ar baradocs gwlad a goleddai gaethwasiaeth tra yn ymfalchïo yn ei rhyddid.

Dyfyniadau

‘Yn y gyfrol arloesol hon, mae Gareth Evans-Jones yn taflu goleuni llachar nid yn unig ar feddylfryd un dosbarth o’n cyd-Gymry ar adeg dyngedfennol yn ei hanes, ond ar gwestiynau oesol ynghylch moesoldeb cyhoeddus a chyfiawnder cymdeithasol. Yn ogystal â chyfrannu at hanes ein llên, mae’r gyfrol yn gyfraniad amhrisiadwy at wyddor esboniadaeth feiblaidd Gymraeg. Rhwng popeth, mae hon yn astudiaeth ddisglair iawn.’
Yr Athro Emeritws D. Densil Morgan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Cynnwys

Byrfoddau
Rhagymadrodd
Pennod 1: ‘Teulu Ham sy’n cael eu hymlid’
Pennod 2: ‘O henffych, henffych fore clir, Pryd na bydd gorthrwm yn ein tir!’
Pennod 3: ‘I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd’
Pennod 4: ‘Hyn ydyw crefydd Crist’
Pennod 5: ‘(D)ylwn ufuddhau i Dduw o flaen ufuddhau i ddynion’
Diweddglo
Nodiadau
Llyfryddiaeth

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Gareth Evans-Jones

Mae Gareth Evans-Jones yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor.

Darllen mwy