Pam na fu Cymru

Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg

Awdur(on) Simon Brooks

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Safbwyntiau

  • Mehefin 2015 · 250 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783162338
  • · eLyfr - pdf - 9781783162345
  • · eLyfr - epub - 9781783162352

Am y llyfr

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd y rhan fwyaf o wledydd bychain Ewrop i feithrin mudiadau cenedlaethol llwyddiannus a fynnai warchod eu hieithoedd. Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddigwyddodd hyn yn y wlad hon.

Pwyslais gwlatgarwyr Cymreig ar ryddfrydiaeth a radicaliaeth sy’n gyfrifol am y diffyg. Mae rhyddfrydiaeth yn hyrwyddo hunaniaethau mwyafrifol, ac mae’n rhan ganolog yng Nghymru o hegemoni Prydeindod. Roedd Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fwy rhyddfrydol nag odid yr un wlad arall yn Ewrop. Yn groes i’r dybiaeth gyffredin mai peth llesol oedd hyn i genedlaetholdeb Cymreig, dangosir yn Pam Na Fu Cymru mai hyn oedd yr union reswm am ei fethiant.

Dyfyniadau

‘Dadansoddiad meistrolgar, eang ei gwmpas, sy’n herio’r ystrydebau cyfarwydd am ein hanes gwleidyddol ac yn dangos pa mor hanfodol yw hi i gydio’r prosiect cenedlaethol wrth adferiad yr iaith Gymraeg.’
-Cynog Dafis

‘Dyma astudiaeth amlhaenog sy’n mynd i’r afael â chwestiynau mawr ynglŷn â chenedlaetholdeb, iaith a hunaniaeth. Mae’n trafod y gorffennol gyda golwg ar y presennol a’r dyfodol, a hynny mewn modd heriol a chyffrous. Mae Simon Brooks yn ysgolhaig sy’n cymryd Cymru o ddifrif, ac mae’r gyfrol newydd hon yn waith sy’n mynnu sylw.’
-Jerry Hunter

Cynnwys

1. Methiant annisgwyl cenedlaetholdeb Cymraeg
2. Cenedl Iaith
3. Rhyddfrydiaeth yn gorthrymu’r Cymry
4. Dadadeiladu rhyddfrydiaeth
5. Sut y gall Cymru fod
6. Terfyn

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Simon Brooks

Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe yw Simon Brooks. Hanes y diwylliant Cymraeg yw maes ei arbenigedd, ac mae ei weithiau blaenorol yn cynnwys O dan lygaid y Gestapo (2004), Yr Hawl i Oroesi (2009), Pa beth yr aethoch allan i’w achub? (2013), Pam na fu Cymru (2015) ac Adra (2018).

Darllen mwy