gan Geraldine Lublin, awdur Memoir and Identity in Welsh Patagonia: Voices from a Settler Community in Argentina

Mewn cyfweliad diweddar ar BBC Radio Cymru, gofynnwyd imi a ddylai’r Cymry ymddiheuro i bobloedd frodorol Patagonia am gymryd eu gwlad. Roedd hwn yn gwestiwn anodd a chymhleth I’w  ateb yn llawn o fewn yr ychydig funudau oedd gen i ar yr awyr. Pan laniodd y fintai gyntaf o sefydlwyr Cymreig ym Mhatagonia yng Ngorffennaf 1865, roeddynt wedi cytuno gyda’r llywodraeth ym Muenos Aires y byddent yn ymsefydlu yn y tiriogaethau o amgylch Afon Chubut ar ran yr Ariannin. Roedd y Cymry yn ymwybodol bod y tiriogaethau hyn yn perthyn i frodorion Patagonia: yn Llawlyfr y Wladychfa Gymreig roeddynt yn cydnabod ‘hawliau yr Indiaid ar y wlad’. Serch hynny, roedd yr awdurdodau canolog wedi dweud wrth arweinwyr yr ymfudwyr bod cytundeb wedi cael ei arwyddo gyda’r grwpiau brodorol lleol a fyddai’n ildio’r tiriogaethau hyn i’r llywodraeth ac yn gwarchod y wladychfa newydd mewn cyfnewid am ddefaid, dognau rheolaidd a lwfans misol i’r gwahanol grwpiau a lofnododd y ddogfen. Ar y sail honno sefydlodd y ddwy garfan gysylltiad a fyddai o fudd economaidd i’r naill ochr a’r llall ac a weithiodd yn dda iddynt nes amharu arno gan ‘Goncwest yr Anialwch’ gwaedlyd byddin yr Ariannin rhwng 1878 a 1884. Er nad oeddynt yn gyfrifol am y cyrchoedd ofnadwy hyn – ac yn wir, mae digon o dystiolaeth yn dangos eu cwynion i’r llywodraeth ganolog – y ‘clirio’ ac agor y tiriogaethau ar gyfer sefydlwyr (gwynion) a alluogodd y Cymry i fynd tua’r gorllewin ac i boblogi ardal yr Andes yn 1885.

O hynny ymlaen, byddai’r gymuned Gymreig yn Chubut yn troedio’i llwybr troellog tuag at fagu hunaniaeth Archentaidd, taith a fyddai’n gorffen gyda mabwysiadu’r ‘Orchest Gymreig’ honedig fel naratif sylfaenol Talaith Chubut yn 1958. Y siwrnai honno gan y sefydlwyr Cymreig sy’n troi yn Archentaidd sy’n cael ei olrhain yn Memoir and Identity in Welsh Patagonia, gan archwilio ei goblygiadau ar gyfer yr Ariannin ei hun fel ffrwyth gwladychu gan ymsefydlwyr. Yn y cyd-destun cyfredol, lle gall yr ymgodi brodorol arwain at luosogaeth wirioneddol, mae ymddiheuriadau llawn yn ddyledus i’r bobloedd frodorol a gollodd eu tir, os nad gan y disgynyddion Cymreig fel y cyfryw yna’n sicr gan y sawl sydd wedi elwa o’r gyfundrefn a greodd y gwladychu gan ymsefydlwyr.

Mae Geraldine Lublin yn Ddarlithydd mewn Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe.