Ymwadiad Prifysgol Cymru

Mae’r Ymwadiad hwn yn berthnasol i’r holl ffeiliau gwefan/gwefannau a/neu fewnrwyd a gyhoeddir gan y Brifysgol, neu gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, sy’n defnyddio amrywiad ar enwau parth Prifysgol Cymru yn y lleolydd adnoddau unffurf (URL) (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i *.wales.ac.uk/*, *.cymru.ac.uk/*).

Er i Brifysgol Cymru gymryd pob gofal rhesymol wrth ddarparu deunydd ar ffurf electronig, ni all y Brifysgol fod yn gyfrifol am gamgymeriadau, ansawdd na chywirdeb gwybodaeth a deunydd arall a ddarperir ar wefan/gwefannau a/neu fewnrwyd y Brifysgol.

Mae Prifysgol Cymru’n cadw’r hawl i wneud newidiadau i wefan/gwefannau a/neu fewnrwyd y Brifysgol yn ddirybudd.

Nid yw deunydd sydd ar gael ar wefan/gwefannau a/neu fewnrwyd Prifysgol Cymru’n sail i unrhyw gontract gyda’r sawl sy’n ei ddarllen a’i ddefnyddio. Ni fydd y Brifysgol yn atebol ar unrhyw achlysur am golled neu ddifrod i unrhyw unigolyn, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sy’n defnyddio neu’n dibynnu ar unrhyw ddeunydd a ddarperir ar wefan/gwefannau a/neu fewnrwyd y Brifysgol.

Nid yw Prifysgol Cymru’n gyfrifol am gynnwys, cyflwyniad a dolenni unrhyw wefannau allanol y gellir cysylltu â nhw ar ein gwefan/gwefannau a/neu fewnrwyd, gan gynnwys tudalennau allanol sydd â dolenni at wefan/gwefannau a/neu fewnrwyd y Brifysgol, neu’r rhai a grëwyd gan unrhyw sefydliad arall cysylltiedig â’r Brifysgol neu nad yw’n gysylltiedig â’r Brifysgol.  Ni all y Brifysgol warantu y bydd y dolenni hyn ar gael bob amser.

Datganiad Hawlfraint Prifysgol Cymru

Oni nodir fel arall mae hawlfraint yr holl ddeunydd a gyhoeddir ar wefan/gwefannau a/neu fewnrwyd Prifysgol Cymru yn eiddo i Brifysgol Cymru. Cedwir pob hawl.