Fel cyhoeddwr academaidd, mae lledaenu gweithiau ysgolheigaidd i fodloni gofynion y gymuned academaidd fyd-eang yn rhan sylfaenol o’r hyn a wnawn. Rydym ni felly’n ymrwymo’n llwyr i egwyddor Mynediad Agored i’r awduron hynny sydd ei angen, boed oherwydd mandad cyhoeddwr, y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) neu am reswm arall. Rhowch wybod i ni wrth gyflwyno cynnig am lyfr bod mynediad agored yn opsiwn yr hoffech ei drafod.

Tra bod erthyglau mewn cyfnodolion wedi cael eu cynnwys yn REF 2021 ers rhai blynyddoedd, cyn belled â mae monograffau a chyfrolau wedi’u golygu yn y cwestiwn, rydym yn cadw llygad ofalus ar bolisïau’r UKRI a’r REF sydd ill dau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Cyhoeddodd UKRI ei bolisi Mynediad Agored ar gyfer cyfnodolion, monograffau, cyfrolau wedi’u golygu a phenodau mewn cyfrolau yn gynnar yn Awst 2021: https://www.ukri.org/news/ukri-announces-new-open-access-policy/

I awduron y DU, nodwch y bydd polisi mynediad agored cyfredol GPC ar gyfer monograffau yn agored i’w amrywio unwaith y bydd gofynion yr UKRI a’r REF ar bolisi a rheolau cadarn yn weithredol.

O ran mentrau mynediad agored hyd yma, mae GPC yn cyhoeddi cyfnodolyn mynediad agored llawn, yr International Journal of Welsh Writing in English, mewn cydweithrediad â’r llwyfan mynediad agored sefydledig, The Open Library of Humanities (OLH).

Sefydliad elusennol yw’r OLH a’i ddiben yw cyhoeddi ysgolheictod mynediad agored heb unrhyw daliadau prosesu erthyglau i’r awdur. Fe’i cyllidir gan gonsortiwm rhyngwladol o lyfrgelloedd yn ei genhadaeth i sicrhau bod cyhoeddi ysgolheigaidd yn fwy hygyrch ac yn cael ei gadw ar gyfer y dyfodol digidol. Caiff yr holl erthyglau academaidd yn yr IJWWE adolygiad cymheiriaid trylwyr, ac fe’u golygir a’u cynhyrchu i safon uchel GPC.

O ran monograffau, bu GPC yn rhan o brosiect OAPEN mewn cydweithrediad â JISC, oedd yn ceisio dadansoddi effaith mynediad agored ar fonogaffau. O ganlyniad, mae tri llyfr gan GPC ar gael yn llawn ar wefan OAPEN (www.oapen.org):

Mae GPC hefyd yn ymwneud â phrosiect Move-It-Forward, y prosiect a ddilynodd prosiect Pay-It-Forward a gyllidwyd gan Sefydliad Mellon y llynedd gyda Phrifysgol California, Davis, oedd yn ceisio ymchwilio sut beth fyddai amgylchedd Mynediad Agored Aur cyflawn i sefydliadau mawr, ymchwil-ddwys. Nod Move-It-Forward yw canfod dulliau a thargedau ymarferol, tymor byr i drosglwyddo cyfnodolion ysgolheigaidd mynediad caeedig presennol i fodelau mynediad agored.

Mae GPC hefyd wedi cyhoeddi penodau unigol mewn cyfrolau sydd wedi’u golygu fel mynediad agored (yn Understanding Celtic Religion a Crime Fiction in German) a nifer o erthyglau cyfnodolion dan y drefn mynediad agored Aur.

Yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi 3 teitl Mynediad Agored gyda chefnogaeth cyrff ariannu blaenllaw :

Dylai awduron deimlo’n sicr bod pob cynnwys mynediad agored yn wynebu’r un safonau uchel trylwyr â chynnwys arall GPC: wedi’i adolygu’n llawn gan gymheiriaid, y copi wedi’i olygu a’i brawfddarllen, cysodi a marchnata.


MATHAU O FYNEDIAD AGORED

Ceir dau fath o fynediad agored: Gwyrdd ac Aur                                

Gwyrdd: defnyddir ar gyfer hunan-archifo lle caiff Llawysgrif wedi’i Dderbyn gan yr Awdur (AAM)[1] ei adneuo mewn ystorfa pwnc prifysgol neu anfasnachol gyda chyfnod embargo, ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw bydd y cynnwys yn fynediad agored.

Aur: mae fersiwn y cyhoeddwr o’r cynnwys ar gael fel mynediad agored ar unwaith pan gaiff ei gyhoeddi ar ôl talu APC (Taliad Prosesu Awdur ar gyfer cyfnodolion) neu BPC (Taliad Prosesu Llyfr) ar gyfer monograffau.


TRWYDDEDU

Ar gyfer mynediad agored Gwyrdd ac Aur

Yn debyg i weisg prifysgol eraill, mae GPC yn argymell CC BY NC ND: Creative Commons By Attribition Non Commercial No Deriviatives. Dyma ddadansoddiad o ystyr hyn, a’r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud:

  • CC: gall unrhyw un rannu neu lawrlwytho eich gwaith
  • BY: rhaid i chi bob amser gael credyd awdur
  • NC: rhaid peidio â defnyddio na gwerthu’r fersiwn mynediad agored yn fasnachol
  • ND: Ni chaiff neb newid eich gwaith dan drwydded CC BY, cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC i drafod.
     


CYFNODOLION

Er mwyn bod yn gymwys i gael ei gyflwyno i’r FfRhY nesaf (2021), dywed polisi UKRI fod rhaid i lawysgrif wedi’i dderbyn gan awdur fod wedi’i adneuo mewn ystorfa sefydliadol neu bwnc. I weld manylion am y polisi, amseru’r adneuo a chwestiynau cyffredin, gweler https://www.ukri.org/files/funding/oa/oa-faqs-pdf/

Mae GPC yn cynnig modelau mynediad agored Gwyrdd ac Aur, a gellir defnyddio’r ddau gan awduron y DU i fodloni gofynion mynediad agored cyfnodolion ar gyfer FfRhY 2021.

Dyma beth i’w wneud:

Gwyrdd: ar gyfer hunan-archifo; gall awduron hunan-archifo AMM eu herthygl mewn ystorfa pwnc prifysgol/anfasnachol, neu wefan bersonol/gwefan adrannol.

Gall fod ar gael i’w lawrlwytho 18 mis ar ôl y fersiwn a gyhoeddwyd mewn cyfnodolyn GPC.

Dylai’r crynodeb gynnwys cyfeirnod llawn i’r erthygl a gyhoeddwyd (yn cynnwys enw’r awdur, enw a rhifyn y cyfnodolyn, blwyddyn, ISSN, dolen DOI, ac enw GPC fel cyhoeddwr).

Cyfrifoldeb yr awdur yw sicrhau bod unrhyw ganiatâd angenrheidiol ar gyfer deunydd hawlfraint trydydd parti wedi’i glirio ar gyfer mynediad agored. Bydd hefyd angen i chi farcio’r cynnwys hwn yn glir a nodi’r telerau y mae ar gael o danynt, er mwyn atal ailddefnyddio heb geisio caniatâd penodol y deiliad hawlfraint gwreiddiol. Os nad ydych chi’n gallu clirio caniatâd i ddefnyddio’r deunydd mewn fformat mynediad agored, ni chewch ei ddefnyddio’n gyfreithlon. Nid GPC sy’n berchen ar y deunydd hwn felly ni all roi caniatâd.

Aur: drwy dalu APC, gallwn gyhoeddi eich erthygl ar sail mynediad agored Aur, h.y. bydd yn fynediad agored ar unwaith pan gaiff ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn GPC. Ar wahân i’r International Journal of Welsh Writing in English, a gynhelir gan OLH, mae pob un o gyfnodolion eraill GPC yn gyfnodolion hybrid yn seiliedig ar danysgrifiad. Os oes angen mynediad agored Aur arnoch, cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC cyn i Olygyddion y cyfnodolyn gyflwyno llawysgrif y cyfnodolyn. Mae’r APC yn daladwy cyn i’r cyfnodolyn cyfan gael ei drosglwyddo’n ffurfiol i’r prosesau golygu a chynhyrchu.

Gellir uwchlwytho’r fersiwn a gofnodwyd i storfeydd anfasnachol o ddewis yr awdur. Bydd hefyd yn fynediad agored ar Ingenta, y llwyfan cynnal cyfnodolion a ddefnyddir gan GPC.

Trwydded ar gyfer mynediad agored Gwyrdd ac Aur: mae GPC yn argymell CC BY NC ND. Fodd bynnag, os yw mandad y cyllidwr yn mynnu trwydded CC BY gwahanol, cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC i drafod.


LLYFRAU

Fel y nodwyd uchod, mae mynediad agored ar gyfer monograffau wedi’i fandadu ar gyfer FfRhY 2027. Mae gweithgor Universities UK wedi bod yn ystyried heriau ymarferol y mandad, ac yn edrych ar beth sy’n wirioneddol bosibl yng nghyd-destun y DU. Disgwylir y bydd y canfyddiadau ar gael dros y misoedd nesaf, a bydd GPC yn eu monitro’n agos.

Mae’r model mynediad agored yn gymwys i fonograffau a chyfrolau wedi’u golygu’n unig (un bennod yn unig o bob un), ac nid yw’n gymwys i weithiau cyfeiriol neu werslyfrau.

Dyma beth i’w wneud

Gwyrdd: Monograffau

Ar gyfer hunan-archifo

  • Un bennod yn unig o’r fersiwn a dderbyniwyd gan yr awdur
  • Gellir adneuo’r bennod ar ôl cyfnod embargo o 36 mis ar ôl cyhoeddi’r fersiwn a gontractiwyd i GPC, sy’n gorfod cael cydnabyddiaeth yn y crynodeb
  • Mae cyfnod yr embargo o 36 mis yn rhedeg o ddyddiad cyhoeddi’r fersiwn diweddaraf o’r llyfr; os ceir clawr caled ac yna glawr meddal i ddilyn, mae’r cyfnod o 36 mis yn rhedeg o ddyddiad y clawr meddal
  • Gellir uwchlwytho’r fersiwn a dderbyniwyd gan yr awdur i lwyfan anfasnachol, dielw yn unig
  • Rhaid iddo gynnwys cyfeirnod at fersiwn cyhoeddedig GPC, a dolen at yr argraffiad a gyhoeddwyd ar wefan GPC
  • Ni chaniateir uwchlwytho’r bennod a gyhoeddwyd gan GPC
  • Ni chaniateir uwchlwytho’r fersiwn a dderbyniwyd gan yr awdur yn llawn yn unman, byth
  • Cyfrifoldeb yr awdur yw sicrhau bod unrhyw ganiatâd ar gyfer deunydd hawlfraint trydydd parti wedi’i glirio ar gyfer mynediad agored; bydd angen hefyd i chi nodi’r cynnwys hwn yn glir a datgan y telerau y mae ar gael o danynt, er mwyn atal ailddefnyddio heb geisio caniatâd penodol y deiliad hawlfraint gwreiddiol. Os nad ydych chi’n gallu clirio caniatâd i ddefnyddio’r deunydd o fewn fformat mynediad agored, ni chewch ei ddefnyddio’n gyfreithlon. Nid yw’r deunydd hwn yn eiddo i GPC, felly ni all roi caniatâd.
  • Cewch gyhoeddi metadata eich pennod yn unrhyw le (teitl/enw’r awdur/disgrifiad cryno/ISBN ac ati).


Gwyrdd: Penodau mewn cyfrolau a olygwyd

  • Gall pob cyfrannwr archifo ei bennod ei hun dan yr un amodau ag ar gyfer Monograffau (gweler uchod)
  • Ni chaniateir uwchlwytho’r fersiwn a dderbyniwyd gan yr awdur yn llawn yn unman, byth


Aur: Monograffau

Mae GPC yn caniatáu mynediad agored Aur i fonograffau yn eu cyfanrwydd ac ar gyfer penodau unigol mewn cyfrolau a olygwyd; nid yw caniatâd yn estyn at weithiau cyfeiriol na gwerslyfrau ac ati.

  • Mae polisi mynediad agored Aur GPC yn caniatáu i’r fersiwn o’r gwaith a gyhoeddwyd gan GPC gael ei uwchlwytho ar unwaith pan gaiff ei gyhoeddi mewn storfa sefydliadol, ac ar lwyfan mynediad agored fel Llyfrgell OAPEN
  • Bydd angen talu BPC ar gyfer mynediad agored Aur
  • Cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC ynglŷn â’r BPC, a gaiff ei gyfrif ar gwmpas geiriau’r llyfr, y nifer o ddelweddau lliw ac ati
  • Format: ffeil PDF fel y’i paratowyd gan GPC
  • Pennir cyhoeddi elyfr, er enghraifft Kindle a POD (argraffu ar alw), ar sail pob teitl unigol ar ddisgresiwn GPC, ar sail y galw am y fformatau hyn
  • Cyfrifoldeb yr awdur yw sicrhau bod unrhyw ganiatâd ar gyfer deunydd hawlfraint trydydd parti wedi’i glirio ar gyfer mynediad agored; bydd angen hefyd i chi nodi’r cynnwys hwn yn glir a datgan y telerau y mae ar gael o danynt, er mwyn atal ailddefnyddio heb geisio caniatâd penodol y deiliad hawlfraint gwreiddiol. Os nad ydych chi’n gallu clirio caniatâd i ddefnyddio’r deunydd o fewn fformat mynediad agored, ni chewch ei ddefnyddio’n gyfreithlon. Nid yw’r deunydd hwn yn eiddo i GPC, felly ni all roi caniatâd.
  • Caiff y fersiwn mynediad agored Aur ei uwchlwytho fel a ganlyn: unwaith y caiff y proflenni terfynol eu cymeradwyo, caiff y Fersiwn a Gofnodwyd ei osod ar OAPEN a llwyfannau eraill, gan gynnwys metadata.
  • Caiff yr awdur osod y Fersiwn a Gofnodwyd ar unrhyw storfeydd anfasnachol ychwanegol o’u dewis.


Aur: Penodau mewn cyfrolau

Mae GPC yn caniatáu mynediad agored Aur i benodau unigol mewn cyfrolau a olygwyd; nid yw’n gymwys i benodau mewn gweithiau cyfeiriol na gwerslyfrau.

  • Mae polisi mynediad agored Aur GPC yn caniatáu i’r fersiwn o’r gwaith a gyhoeddwyd gan GPC gael ei uwchlwytho ar unwaith pan gaiff ei gyhoeddi mewn storfa sefydliadol, ac ar lwyfan mynediad agored fel Llyfrgell OAPEN
  • Bydd angen talu BPC ar gyfer mynediad agored Aur
  • Cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC ynglŷn â’r BPC
  • Format: ffeil PDF fel y’i pratowyd gan GPC
  • Pennir cyhoeddi elyfr, er enghraifft Kindle a POD (argraffu ar alw), ar sail pob teitl unigol ar ddisgresiwn GPC, ar sail y galw am y fformatau hyn
  • Cyfrifoldeb yr awdur yw sicrhau bod unrhyw ganiatâd ar gyfer deunydd hawlfraint trydydd parti wedi’i glirio ar gyfer mynediad agored; bydd angen hefyd i chi nodi’r cynnwys hwn yn glir a datgan y telerau y mae ar gael o danynt, er mwyn atal ailddefnyddio heb geisio caniatâd penodol y deiliad hawlfraint gwreiddiol. Os nad ydych chi’n gallu clirio caniatâd i ddefnyddio’r deunydd o fewn fformat mynediad agored, ni chewch ei ddefnyddio’n gyfreithlon. Nid yw’r deunydd hwn yn eiddo i GPC, felly ni all roi caniatâd.
  • Caiff y fersiwn mynediad agored Aur ei uwchlwytho fel a ganlyn: unwaith y caiff y proflenni terfynol eu cymeradwyo, caiff y Fersiwn a Gofnodwyd ei osod ar OAPEN a llwyfannau eraill, gan gynnwys metadata.
  • Caiff yr awdur osod y Fersiwn a Gofnodwyd ar unrhyw storfeydd anfasnachol ychwanegol o’u dewis.

Trwyddedu ar gyfer mynediad agored Gwyrdd ac Aur:

Mae GPC yn argymell CC BY NC ND. Fodd bynnag, os yw mandad eich cyllidwr yn mynnu trwydded wahanol, cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC ymlaen llaw. Ar gyfer monograffau, bydd y dudalen hawlfraint yn y llyfr yn nodi CC BY NC ND oni nodir yn wahanol; ar gyfer penodau mewn cyfrolau a olygwyd, bydd y tudalennau rhagarweiniol yn cynnwys nodyn yn dweud bod y bennod wedi’i chynnwys dan drwydded CC BY NC ND.

Cwestiynau Cyffredin

Dyma ambell gwestiwn cyffredin – dydym ni ddim yn hawlio ein bod wedi cynnwys popeth, felly cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, ac fe wnawn ein gorau i ymateb mewn ffordd fydd yn eich helpu. Mae mynediad agored yn dir newydd, a gallai gymryd peth amser cyn i’r canlyniadau (bwriadol ac anfwriadol) ddod i’r amlwg.

  • Oes gwahaniaeth rhwng monograff ‘safonol’ heb fynediad agored a fersiwn mynediad agored?

Nac oes, maen nhw’r un fath, ar wahân i’r ffaith nad yw’r fersiwn mynediad agored yn cael ei argraffu ar adeg cyhoeddi. Mae’r prosesau a’r gweithdrefnau’r un fath. Mae holl fonograffau GPC, boed fynediad agored ai peidio, yn mynd drwy broses drylwyr o adolygiad gan gymheiriaid, golygu copi, prawfddarllen, dylunio ac ati. Nodwch serch hynny na chaiff llawysgrifau nad ydynt yn cael adolygiad cadarnhaol gan gymheiriaid eu cyhoeddi, hyd yn oed os yw’r awdur wedi sicrhau BPC.

  • Pryd ddylwn i roi gwybod i GPC fod angen mynediad agored arnaf i?

Yn ein Holiadur Cynnig, rydym yn gofyn cwestiwn am eich anghenion mynediad agored ar gyfer eich monograff, ac a oes gennych chi ofyniad hunan-archifo. Rhowch wybod i ni mewn egwyddor yn eich Cynnig, ac yna byddwn yn trafod eich gofynion gyda chi. Bydd o gymorth i ni gael cynifer o fanylion wrth law mor gynnar â phosibl.

  • Os bydd angen mynediad agored Aur arnaf i, pryd fydd angen talu’r APC/BPC?

Bydd angen ei dalu cyn i’r llawysgrif fynd i’w gynhyrchu.

  • Beth os wyf i wedi llofnodi contract am lyfr heb fynediad agored, ac ar ôl hynny rwy’n sylweddoli bod angen mynediad agored arnaf?

Gallwn ei drosi i’n rhaglen mynediad agored os nad yw wedi dechrau cael ei gynhyrchu, a bod y BPC yn cael ei dalu cyn i’r llawysgrif ddechrau cael ei gynhyrchu. Cysylltwch â ni i drafod ar y cyfle cyntaf.

  • A fyddaf i’n derbyn breindaliadau ar fersiwn mynediad agored?

Os yw’r gyfrol ar gael ar POD a/neu fel eLyfr, caiff breindal ei dalu i chi ar y fformatau hynny.

[1] Llawysgrif wedi’i Dderbyn gan yr Awdur (AAM) yw’r fersiwn a dderbynnir i’w gyhoeddi yn dilyn adolygiad gan gymheiriaid ond cyn golygu testun a cysodi