Yr Athro Robin Okey

Hoffai Wasg Prifysgol Cymru ymestyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Robin Okey yn eu profedigaeth ddiweddar. Ganwyd Robin Okey yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei addysg uwch ym Mhrifysgol Rhydychen cyn mynd ymlaen i ddarlithio hanes modern ym Mhrifysgol Warwick am dros ddeugain mlynedd. Roedd yn Athro Emeritws gyda’r Brifysgol

Darllen mwy

Cyhoeddi REF 2028

Mae cyrff cyllido addysg uwch y DU (CCAUC, Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon) wedi gwneud penderfyniadau cychwynnol ynghylch cynllun lefel uchel y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf. Ceir manylion pellach ynglŷn â’r camau nesaf yn y ddogfen hon:  https://www.hefcw.ac.uk/wp-content/uploads/2023/06/W23-13HE-Research-Excellence-Framework-2028-initial-decisions-and-issues-for-further-consultation-Cymraeg.pdf Os oes gennych unrhyw gwestiynau fel awdur, cysylltwch â’ch Golygydd

Darllen mwy

Llyfr cyntaf Gwasg Prifysgol Cymru, 1923

Yn ystod un o gyfarfodydd cyntaf Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru yn gynnar ym mis Ebrill 1923, nodwyd bod aelodau’r Bwrdd wedi derbyn copïau o’r llyfr cyntaf un a gyhoeddodd GPC union ganrif yn ôl, sef The Poetical Works of Dafydd Nanmor. Golygywd y gyfrol gan y diweddar Thomas Roberts o Borth-y-Gest ac fe’i chwblhawyd ar

Darllen mwy

Gweisg Prifysgol yn lansio menter EvenUP

Mae’n bleser gan brif weisg prifysgol y DU ac Iwerddon gyhoeddi lansio fframwaith cydweithio newydd. Mae EvenUP yn dangos ymrwymiad gweisg prifysgol y DU ac Iwerddon i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynwysoldeb a pherthyn yn ein gweithleoedd, gyda phwy rydym ni’n gweithio a’r hyn a gyhoeddwn. Gan gydnabod bod gan wahanol weisg a rhiant-sefydliadau eu mentrau cydraddoldeb,

Darllen mwy

Sylfeini Cyfieithu Testun

Ben Screen yn cyflwyno ei lyfr newydd, Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol. Gwlad ddwyieithog yw Cymru, er bod dealltwriaeth simsan o’r dwyieithrwydd hwnnw yn bell o fod anghyffredin ymysg ei phoblogaeth ei hun. Gall hyn fod ar ei fwyaf amlwg yn achos cyfieithu; oni all unrhyw un gyfieithu os yw’n ddwyieithog? Rhaid oedi

Darllen mwy

Lleiafrifoedd ethnig mewn cenedl leiafrifol

Simon Brooks yn cyflwyno Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg. Pwy yw’r Cymry? Wel, yn sicr, nid cenedl fonoethnig ydyn nhw. Roedd yr hen Gymry yn dathlu eu bod yn Frythoniaid, ac eto ar yr un gwynt byddent yn dweud eu bod yn blant i Rufain. Hyd yn oed heddiw, mae’r myth yn rhan

Darllen mwy

Diwinyddiaeth Paul

John Tudno Williams yn cyflwyno ei lyfr, Diwinyddiaeth Paul: Gan Gynnwys Sylw Arbennig i’w Ddehonglwyr Cymreig. Cysylltir enw’r Apostol Paul â thri ar ddeg o Epistolau’r Testament Newydd a gyfeiriwyd at eglwysi neu unigolion gwahanol. Buont dan drafodaeth ymysg Cristnogion ac eraill am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd, a chwaraeodd eu cynnwys ran

Darllen mwy

Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig

Huw L. Williams yn cyflwyno ei lyfr newydd Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig. Man cychwyn y llyfr hwn oedd cyfweliad ar gyfer swydd darlithydd Athroniaeth gyda’r Coleg Cymraeg, dros wyth mlynedd yn ôl. Gwyddwn ddigon bryd hynny i sylweddoli y byddai yna bosibiliadau difyr wrth ymgymryd ag athroniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal

Darllen mwy

Bwrdd Ymghynghorol newydd i Gylchgrawn Addysg Cymru

Rydym yn hynd o falch i gyhoeddi’r Bwrdd Ymghynghorol newydd ar gyfer Cylchgrawn Addysg Cymru. Ffurfir y Bwrdd Ymgynghorol o gynrychiolwyr allweddol ar hyd y sector addysg yng Nghymru, a byddant yn chwarae rhan bwysig mewn eirioli ar ran y Cylchgrawn yn ei gyfnod Mynediad Agored newydd, gan ymwneud yn agos â chyfeiriad y Cylchgrawn

Darllen mwy

Cyfri’n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg

Gareth Ffowc Roberts yn cyflwyno ei lyfr newydd Cyfri’n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg. Sut mae diffinio ein diwylliant fel Cymry? Ai fel gwlad y gân yn unig? Un o amcanion y gyfrol hon yw ehangu ein diffiniad i gwmpasu’r gwyddorau yn gyffredinol, a mathemateg yn benodol. Sawl canwr Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu

Darllen mwy

Golygyddion newydd Cylchgrawn Addysg Cymru

Pleser yw cyhoeddi ein bod wedi cadarnhau tîm Golygyddion Cylchgrawn newydd Cylchgrawn Addysg Cymru: Gary Beauchamp o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Thomas Crick o Brifysgol Abertawe ac Enlli Thomas o Brifysgol Bangor. Daw ein Golygyddion newydd â chyfoeth o brofiad addysgol, ac mae gan bob un hanes cryf mewn ymchwil addysgol a gyda’u harbenigedd cyfunol, eu

Darllen mwy

Cymdogion ar wahân: Barddoniaeth gynnar yn Gymraeg ac yn Saesneg

Gan David Callander, awdur Dissonant Neighbours: Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolheigion wedi dangos diddordeb cynyddol yn amlieithrwydd yr Oesoedd Canol. Mae astudio llyfrau a thestunau amlieithog, sy’n nodwedd gyffredin ddigon o lawysgrifau canoloesol, wedi esgor ar lawer o waith newydd a chyffrous, ac wedi braenaru’r tir ar gyfer

Darllen mwy

Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn falch o dderbyn dau enwebiad ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019. Llongyfarchiadau i’n hawduron Gethin Matthews a Lisa Sheppard, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Categori Ffeithiol Greadigol gyda’u cyfrolau. Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990 gan Lisa Sheppard Dyma’r gyfrol Gymraeg

Darllen mwy

Cymraeg yn y Gweithle

Gan Rhiannon Heledd Williams, awdur Cymraeg yn y Gweithle. Pan astudiais i am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dros ddegawd yn ôl, doedd dim sôn am ‘Gymraeg Proffesiynol’ na ‘Chymraeg yn y gweithle.’ Roedd yr un peth yn wir am brifysgolion eraill yng Nghymru. Ond yn y blynyddoedd diweddar, wrth i adrannau wynebu argyfwng

Darllen mwy

Swyddfa newydd GPC: Cofrestrfa’r Brifysgol

O’r 23ain o Awst 2018, fe fydd Gwasg Prifysgol Cymru wedi’i leoli yn Adeilad Cofrestrfa Prifysgol Cymru ym Mharc Cathays. Ein cyfeiriad newydd yw: Gwasg Prifysgol Cymru Cofrestrfa’r Brifysgol Rhodfa’r Brenin Edward VII Caerdydd CF10 3NS Ar gyfer ymholiadau cyffredinol: Ffôn: 44 (0) 29 2049 6899 E-bost: gwasg@gwasg.cymru.ac.uk Adeiladwyd Cofrestrfa’r Brifysgol yn 1903, yr adeilad

Darllen mwy

Meic Stephens (1938-2018)

Gwnaeth Meic Stephens, a fu farw yr wythnos hon, gyfraniad enfawr ac hollbwysig i hanes Gwasg Prifysgol Cymru fel awdur a golygydd. Ynghyd ag R. Brinley Jones, sylfaenodd Meic y gyfres arloesol ‘Writers of Wales’ ym 1970, a bu’n olygydd arni am dros ddeugain mlynedd – cyfnod a welodd gyhoeddi dros gant o gyfrolau. Ymhlith

Darllen mwy

Llongyfarchiadau M. Wynn Thomas

Hoffai’r Wasg longyfarch yr Athro M. Wynn Thomas ar ennill Gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2018 gyda’i gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas. Cyflwynir gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg, a chyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn y Tramshed

Darllen mwy

Performing Wales: People, Memory and Place

Gan Lisa Lewis, awdur Performing Wales: People, Memory and Place. Beth mae trafod diwylliant yn nhermau perfformiad yn ei gynnig i ni? Sut mae’r fath ddadansoddiad yn ein helpu i ddeall a chyfryngu’r profiad o ddiwylliant cyfrwng Cymraeg? Yn Performing Wales: People, Memory and Place ceir trafodaeth ar bedair agwedd ar ymarfer diwylliannol – yn

Darllen mwy

Cyfres o dan sylw: Safbwyntiau

Cyfres yw hon sy’n cynnig golwg annisgwyl a dadlennol ar rai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt; o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, ac o iaith i grefydd. Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg Awdur: Simon Brooks Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd

Darllen mwy

Cyfres o dan sylw: Gwyddonwyr Cymru

Mae Gwyddonwyr Cymru yn cynnig llyfrau ysgolheigaidd wedi’u hysgrifennu mewn ffordd hygyrch am wyddonwyr o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac arwyddocaol, yn y gorffennol a’r presennol, at ddatblygiadau ac arloesedd gwyddonol. Bu tueddiad yn hanesyddol i gyfyngu’r syniad o ddiwylliant Cymreig i’r hyn a gynhyrchwyd gan ei hawduron, ei beirdd, ei cherddorion a’i

Darllen mwy

Y Blaned Mawrth yn Siarad Iaith y Bobl

Gwasg Prifysgol Cymru’n cyfrannu at gyhoeddiad gan gyrch gweithredol NASA sy’n rhoi sylw i’r Gymraeg Gyda delweddau artistig o lechweddau sy’n erydu, crateri ardrawiadau, tirweddau pegynol anghyffredin, eirlithriadau a lluniau rhyfeddol o ddisgyniad chwilwyr fel y Phoenix Lander a Labordy Gwyddoniaeth Mawrth, mae cyhoeddiad newydd gan Wasg Prifysgol Arizona yn gwahodd y darllenydd ar daith

Darllen mwy

Eisteddfod Genedlaethol 2017

Bu Gwasg Prifysgol Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol – a gynhaliwyd ym Modedern, Sir Fôn rhwng y 4ydd a’r 12fed o Awst – unwaith eto eleni. Agorodd y Wasg siop am yr wythnos ym mhabell Prifysgol Cymru, gyda channoedd o lyfrau Cymraeg a Chymreig ar werth. Roedd llawer o’n hawduron hefyd ar

Darllen mwy

Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Gan Rhianedd Jewell, awdur Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière Pan es i am gyfweliad i astudio Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen, rhoddwyd dau fersiwn o’r un testun imi eu darllen ymlaen llaw: y naill yn y Ffrangeg a’r llall yn y Saesneg. Roedd yn rhaid imi benderfynu pa un

Darllen mwy

Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

Gan Rowland Wynne, awdur Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom Un bore, tra ar wyliau yn Copenhagen, penderfynodd ffrind a minne osgoi llwybrau poblogaidd y twristiaid ac ymweld ag archif ym mhrifysgol y brifddinas. I’r rhai sy’n ymddiddori mewn gwyddoniaeth, mae’r archif yn Copenhagen yn un hynod iawn oherwydd ei bod yn gartref i bapurau a

Darllen mwy

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

gan Noel A. Davies a T. Hefin Jones, awduron Cristnogaeth a Gwyddoniaeth Noel A. Davies Fy wythnos gyntaf yn Ysgol Ramadeg Llambed. Ar yr amserlen: ‘science’. A doeddwn i ddim wedi clywed y gair o’r blaen! Mynd i’r wers gynta (ffiseg, os wy’n cofio’n iawn). Ffeindio’r cyfan braidd yn annisgwyl, ond roeddwn yn dda mewn mathemateg

Darllen mwy

Cof ac Hunaniaeth yn y Wladfa

gan Geraldine Lublin, awdur Memoir and Identity in Welsh Patagonia: Voices from a Settler Community in Argentina Mewn cyfweliad diweddar ar BBC Radio Cymru, gofynnwyd imi a ddylai’r Cymry ymddiheuro i bobloedd frodorol Patagonia am gymryd eu gwlad. Roedd hwn yn gwestiwn anodd a chymhleth I’w  ateb yn llawn o fewn yr ychydig funudau oedd gen

Darllen mwy

Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad?

gan Rhiannon Heledd Williams, awdur Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad? Pennod goll yn hanes Cymru yw’r un am y Cymry a ymfudodd i Ogledd America yn y 19eg ganrif. Erbyn 1850, credir bod tua 30,000 o Gymry wedi ymgartrefu ar y cyfandir – mwy o lawer nag i Batagonia – er i’r Wladfa ennyn llawer

Darllen mwy

Cyfarwyddwr Newydd i Wasg Prifysgol Cymru

Mae Prifysgol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi bod Natalie Williams wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr newydd ar Wasg Prifysgol Cymru. Ganwyd a magwyd Natalie yng Nghaerdydd, a daw â dealltwriaeth eang o’r byd cyhoeddi i’r rôl. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd

Darllen mwy

Wythnos Adolygiadau Cymar 2016

19eg-26ain o Fedi yw Wythnos Adolygiadau Cymar ‘Scholarly Kitchen’; fel mae’r cogyddion yn nodi yn eu blog ar y 19eg o Orffennaf, “Roedd wythnos Adolygu 2015 yn ddigwyddiad bach, arbrofol. Ond fe wnaeth daro nodyn gyda llawer o unigolion a sefydliadau.” Felly, ar ôl yr arbrawf cyntaf, rydym yn falch iawn yma yng Ngwasg Prifysgol

Darllen mwy

Lansiad Yr Athrofa: Institute for Education

Lansiwyd menter bwysig ym myd addysg yng Nghymru ar y 15fed o Fehefin yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Mae arbenigwyr rhyngwladol blaengar ym myd addysg wedi estyn eu cefnogaeth i sefydlu Comisiwn Addysg Cymru i weithio ochr yn ochr â’r Athrofa: Institute for Education, a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn

Darllen mwy

XML ym Manceinion

Ar 15 Mawrth 2016, mynychodd tri ohonom o GPC gwrs undydd XML, sef ‘Extensible Markup Language’, wedi’i drefnu gan John Normansell o Wasg Prifysgol Manceinion. Ymunodd cynrychiolwyr o Wasg Prifysgol Caeredin a Gwasg Prifysgol Lerpwl gyda ni mewn ystafell yn Adeilad Renold. Mae’r adeilad hwn hefyd yn gartref i swyddfa GPM ar gampws y Brifysgol,

Darllen mwy

Paratoi ar gyfer Mynediad Agored a’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)

Bydd Mynediad Agored yn orfodol o eleni ymlaen i erthyglau mewn cyfnodolion ar gyfer REF, felly hoffwn atgoffa cyfranwyr a golygyddion ein cyfnodolion yn gyflym am hyn. Y dyddiad allweddol yw 1 Ebrill 2016, oherwydd fe fydd Mynediad Agored yn amod hanfodol ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a’u derbyniwyd i’w cyhoeddi ar ôl y dyddiad

Darllen mwy

Swydd Wag – Swyddog Datblygu Marchnata

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod sydd wedi ei lleoli yng Ngwasg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, i arwain a datblygu ymhellach ei gweithgareddau marchnata ar draws pob sianel gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma I gael ffurflen gais arlein, cliciwch yma Dyddiad Cau: 25 Ionawr 2016

Lansio hunangofiant Kenneth O. Morgan

Yn ei hunangofiant dadlennol, a gyhoeddwyd yn agos i’w ben-blwydd yn wythdeg, mae Kenneth O. Morgan yn adlewyrchu ar ei brofiadau o briodi a cholled, o ail-briodi a bod yn rhiant, cyfeillgarwch, crefydd a moesoldeb, a’i ymatebion i’r newidiadau hanesyddol mae wedi tystio iddynt, o fynychu ysgol bentref yng Nghymru wledig yn ystod yr ail

Darllen mwy

Ffair Lyfrau Frankfurt

Gall canol Hydref feddwl un peth yn unig: Ffair Lyfrau Frankfurt! Mae’r Frankfurter Buchmesse bron mor hen â’r llyfr printiedig, ac mae’n parhau i fod yn un o uchafbwyntiau calendr cyhoeddwyr pob blwyddyn. O’r 14-18 Hydref roedd Gwasg Prifysgol Cymru yn rhan o stondin yr ‘Independent Publishers Guild (IPG)’, gydag ein cyfeillion o weisg prifysgolion

Darllen mwy

Cynhadledd Llên Gwerin ac Anthropoleg

Ar Ddydd Gwener 16 Hydref mynychais gynhadledd ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llên Gwerin a’r Sefydliad Anthropolegol Brenhinol yn Llundain. Cynlluniwyd y gynhadledd er mwyn hybu cydweithrediad rhwng y ddwy ddisgyblaeth. Yn hanesyddol, mae aelodaeth y Gymdeithas a’r Sefydliad wedi gorgyffwrdd, sy’n tystio i’r agosatrwydd rhwng y ddau faes. Dangoswyd hynny’n glir yn y

Darllen mwy

Paratoi ar gyfer REF

Tra bod llawer o academyddion yn mwynhau eu gwyliau haf dros y moroedd, mae cwmwl ar ffurf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf yn prysur agosáu i’r lan. O gymryd y bydd yr amserlen yn dilyn un REF 2014, byddwn yn anelu i gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion ar gyfer REF 2020 erbyn Medi 2019 –

Darllen mwy

Digwyddiadau Medi 2015

5    10fed Cynhadledd MA ar gyfer Athrawon Mathemateg Uwchradd, Prifysgol Stirling 7    Rhwydwaith Modernaidd Cymru Cynhadledd 2015, Prifysgol Abertawe 7-9    Cymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, Cynhadledd Flynyddol Cangen Prydain, Prifysgol Efrog 8-10    Cynhadledd Flynyddol ASMCF 2015: ‘Myth Making’, Prifysgol Hull 10    Gweithdy MeCCSA, ‘Shared Solidarities’, Prifysgol Sheffield Hallam 11-12    Chwyldro, Ymneilltuaeth,

Darllen mwy

When Will Wales Be? Simon Brooks & Daniel Williams argue and debate

Informed by history, inspired by the Scottish revolutions, rolling debate about the future of Welsh nationalism. When was Wales, and when will it be? Opportunities for all to discuss. All welcome. Ymlaen mae Canaan! Ymlaen! #PrydBydd Mawrth, 7 Gorffennaf 7yh ABERYSTWYTH – Caffi MGs Cadeirydd: Jasmine Donahaye Noddwyr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mynediad: prynwch baned! Digwyddiad

Darllen mwy

Digwyddiadau Awst 2015

1-8    Eisteddfod Genedlaethol, Meifod 3-7    XVII Cyngres Hanes Economaidd y Byd, Canolfan Gynadledda Ryngwladol Kyoto, Japan 27-28    ECREA Cynhadledd Cyfathrebu Gwleidyddol 2015 ‘Newid cyfathrebu gwleidyddol, newid Ewrop?’, Prifysgol De Denmarc 27-29    Cynhadledd y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudiaethau Fictoraidd: Oes(au) Fictoraidd, Prifysgol y Drindod Leeds

Cyfnodolyn newydd: The Journal of Religious History, Literature and Culture

Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi cyfnodolyn rhyngddisgyblaethol newydd, The Journal of Religious History, Literature and Culture, o 2015 ymlaen. Bydd y cyfnodolyn, sy’n olynu The Welsh Journal of Religious History a Trivium, yn cynnwys erthyglau ar bob agwedd o hanes, llenyddiaeth a diwylliant crefyddau o bob rhan o’r byd. Saesneg bydd iaith y cyfnodolyn,

Darllen mwy

Cynhadledd Ôl-Raddedigion Canolfan Richard Burton, 8 Mehefin 2015

Mynychais gynhadledd flynyddol Canolfan Richard Burton ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe ar yr 8fed o Fehefin. Roedd safon y papurau a gyflwynwyd trwy gydol y diwrnod yn uchel iawn. Llên Saesneg Cymru oedd pwnc y sesiwn gyntaf, maes y mae Abertawe’n gryf iawn ynddo o ran staff ac ôl-raddedigion. Dechreuodd Liza Penn Thomas

Darllen mwy

Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Cynhaliwyd noson Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar 2 Mehefin, a drefnwyd gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Addysg CfBT, UCML Cymru a CILT Cymru. Cadeiriodd yr Athro Claire Gorrara, cyd-olygydd cyfres Ffrengig a Ffrangeg GPC, rhan gyntaf y noson i grynhoi

Darllen mwy

Digwyddiadau Gorffennaf 2015

2 Cynhadledd Wyddelig Canoloeswyr, Y Gegin Vintage, Dulyn 2-5 Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Hanes Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe 3-4 Cynhadledd Cymdeithas Haneswyr Busnes, Prifysgol Exeter 6-9 Cyngres Ryngwladol Ganoloesol, Prifysgol Leeds 9-10 Colocwiwm Canoloesol ac Oes Aur (Astudiaethau Sbaenaidd), Prifysgol Northumbria 10-11 47fed Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Ymchwil Cylchgronau Fictorianaidd, Prifysgol Ghent, Gwlad Belg

Darllen mwy

Cynhadledd Cymru a’r Mers, Prifysgol Caer

Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf Prifysgol Caer ar Gymru a’r Mers, Contest and Collaboration, Chester Conference on the March of Wales, yn ystod Ebrill. Roedd y gynulleidfa o dros gant a fynychodd y diwrnod yn dyst i’r diddordeb cyfredol yn hanes Cymru a’r Mers yn y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar ymhlith haneswyr ac aelodau o’r

Darllen mwy

FfugLen yn Arloesi

Mae Mynediad Agored (Open Access) yn bwnc sydd wedi ysgogi trafodaeth fywiog mewn cylchoedd academaidd ers cryn amser bellach, ac mae yna nifer o astudiaethau a phrosiectau peilot cyfredol sy’n ystyried y cwestiynau cymhleth a godir gan y model hwn o ledaenu gwaith ysgolheigaidd. Mae Mynediad Agored yn golygu gweithiau academaidd sydd ar gael yn

Darllen mwy

Dydd Dylan 2015

I ddathlu Dydd Dylan Thomas 2015, gallwch brynu’r llyfrau canlynol (fersiwn clawr papur ac electronig) gyda gostyngiad o 10% a chludiant am ddim yn ystod yr wythnos nesaf. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, dewiswch y fersiwn clawr papur neu electronig, cliciwch ‘Opsiynau Prynu’ wedyn ‘Prynwch’, a pan ofynnir, defnyddiwch y côd: DYLAN2015 Dylan Thomas gan

Darllen mwy

Cynhadledd Gwerthiant Gwasg Prifysgol Chicago ar gyfer Hydref 2015

Rhwng 28 Ebill–2 Mai, mynychodd Rheolwraig Gwerthiant a Marchnata’r Wasg, Eleri Lloyd-Cresci, Gynhadledd Gwerthiant Gwasg Prifysgol Chicago (UCP) ar gyfer Hydref 2015. Mae UCP yn dosbarthu llyfrau ar ein rhan yng Ngogledd a De America, Awstralia a Seland Newydd. UCP yw gwasg fwyaf ac un oweisg prifysgol hynaf yr Unol Daleithiau. Cynhelir dwy gynhadledd werthiant

Darllen mwy

Digwyddiadau Mehefin 2015

4-5    Yr Ardd Ganoloesol a Modern Cynnar: Amgáu a Thrawsnewid, Prifysgol Abertawe 5    Cynhadledd Gwerthiant Durnell Marketing, Caerdydd 10    Cynhadledd Gwerthiant Cyngor Llyfrau Cymru, Aberystwyth 10-12    Congreso Internacional ‘Ramon Muntaner: fets, dits i ‘veres veritats’ (1265-1336)’, Prifysgol Girona 15    Lansiad Pam na fu Cymru gan Simon Brooks, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai,

Darllen mwy

Teitlau Mai 2015

Adapting Nineteenth-century France: Literature in Film, Theatre, Television, Radio and Print The Gothic and the Carnivalesque in American Culture

Areithiau ac Erthyglau 1968- 2012, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Areithiau ac Erthyglau 1968- 2012, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Am y tro cyntaf, bydd areithiau Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar gael mewn set o ddwy gyfrol mewn prosiect cydweithredol gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Maryland a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r Athro David Cadman a’r Athro Suheil Bushrui wedi crynhoi detholiad o

Darllen mwy

Teitlau Ebrill 2015

Women’s Writing in Twenty-first-century France: Life as Literature (NiP) Liberty’s Apostle: Richard Price, His Life and Times Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century

Digwyddiadau Mai 2015

8-10    Cynhadledd Menywod yn Ffrangeg, Prifysgol Leeds 9    Symposiwm Ail-ddychmygu y Gothig, Sheffield 14-17     Cyngres Ryngwladol ar Astudiaethau Canoloesol, Prifysgol Gorllewin Michigan, Kalamazoo 20-22    Merched a Heneiddio: Safbwyntiau Diwylliannol a Beirniadol Newydd, Prifysgol Limerick 21-31    Gŵyl y Gelli, Y Gelli Gandryll 27-30    Cyngres Cymdeithas Astudiaethau America Ladin, San

Darllen mwy

Yr Athro Geraint Gruffydd: Atgofion Cyd-weithiwr gan Ann Parry Owen

Llun: Yr Athro R. Geraint Gruffydd a’r Athro J.E. Caerwyn Williams Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA, yn ei gartref yn Aberystwyth brynhawn Mawrth, 24 Mawrth, yn 86 oed. Ef oedd Cyfarwyddwr cyntaf Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, o 1985, pan fabwysiadwyd y Ganolfan

Darllen mwy

Barn o’r Brifysgol – Helgard Krause, Gwasg Prifysgol Cymru

Erthygl i’r Western Mail am y newidiadau cyflym mewn technolegau digidol, a’r penderfyniadau a’r prosesau sy’n rhan o’r gwaith o ddigido ôl-gatalog helaeth y Wasg. Mae’r newidiadau cyflym mewn technolegau digidol wedi cyflwyno llawn cymaint o gyfleoedd ag o heriau i gyhoeddwyr, a dyw Gwasg Prifysgol Cymru ddim yn eithriad. Ers peth amser rydym ni

Darllen mwy

Buddsoddwyr Mewn Pobl

Mae’n dda gan Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi parhau ei statws fel Buddsoddwr Mewn Pobl yn dilyn asesiad 2015. Dyfernir hyn i gyflogwyr sy’n ymrwymedig i’r arfer gorau, sy’n cydnabod cyrhaeddiad unigolion, ac sy’n arddangos gwerthfawrogiad o’u gweithluoedd. Am fwy o fanylion, gweler http://www.investorsinpeople.co.uk/

Digwyddiadau Ebrill 2015

11    ‘Contest and Collaboration’: Cynhadledd ar y Mers, Prifysgol Caer 13–15    Cynhadledd Cymdeithas HisbanegPrydain Fawr ac Iwerddon (AHGBI), Prifysgol Caerwysg 13–16    Cynhadledd Cymdeithas Anthropolegwyr Cymdeithasol, Prifysgol Caerwysg 14–16    Ffair Lyfrau Llundain, Kensington Olympia 16    Stefano Tura yn sgwrsio gyda Giuliana Pieri – Sefydliad Diwylliannol Eidalaidd, Caeredin 16    Darlith yr

Darllen mwy

Teitlau Mawrth 2015

Teitlau Mawrth 2015 Liberating Dylan Thomas: Rescuing a Poet from Psycho-Sexual Servitude A Tolerant Nation?: Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales

Digwyddiadau Chwefror a Mawrth

Bydd staff Gwasg Prifysgol Cymru yn mynychu’r cynadleddau canlynol yn ystod Chwefror a Mawrth: Chwefror 4-6      Cymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, Granada, Sbaen 7      Colocwiwm Eingl-Sacsonaidd, Norseg a Chelteg, Prifysgol Caergrawnt 18      Cymdeithas Athronyddol America, St Louis, Missouri   Mawrth 4-6      Cynhadledd IPG, Rhydychen 6      Cynhadledd Ursula

Darllen mwy

Teitlau Chwefror 2015

The Place Names of Wales  The North Wales Quarrymen Let’s Do Our Best For the Ancient Tongue Abbeys & Priories of Medieval Wales

Digideiddio Clasuron Gwasg Prifysgol Cymru

Dros y deunaw mis nesaf bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi fersiynau digidol o rai o’i chlasuron a restrwyd gan ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel gweithiau sydd o ddefnydd arbennig ar gyfer dysgu myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau – yn cynnwys Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Bwriad

Darllen mwy

Monograffau a Mynediad Agored

Mae canlyniadau Prosiect Monograffau a Mynediad Agored Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, a arweiniwyd gan Yr Athro Geoffrey Cossick, wedi cael eu cyhoeddi wythnos diwethaf. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ac amserol i’r drafodaeth ar Fynediad Agored yn y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn cydnabod yr her a’r cyfleoedd posib mae Mynediad Agored

Darllen mwy

Gwybodaeth Breindaliadau

Cliciwch yma os gwelwch yn dda i ddarllen ein Llythyr a Chanllawiau Breindaliadau

Astudiaethau Cymreig: y ffordd ymlaen – Gregynog, 26 Tachwedd 2014

Mynychais gynhadledd undydd yn ddiweddar wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, er mwyn trafod dyfodol Astudiaethau Cymreig. Roedd y trefnwyr wedi casglu rhestr nodedig o siaradwyr a chynadleddwyr ynghyd, yn cynnwys academyddion blaenllaw o feysydd hanes a llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Croesawodd Syr Emyr Jones Parry,

Darllen mwy

Cynhadledd ArchaeOrffennol 2014

Daeth cynulleidfa sylweddol at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd flynyddol archaeoleg Amgueddfa Cymru ar ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd, a hithau’n ddiwrnod o dywydd gwlyb. Cychwynnodd Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yr Amgueddfa, y diwrnod gyda sgwrs ddifyr ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, yn arbennig y tri sydd yng Nghymru eisoes: cestyll a

Darllen mwy

Seithfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol

Roedd y dyrfa gymysg o fyfyrwyr ac academyddion o bob oedran a ddaeth ynghyd ar gyfer y Seithfed Colocwiwm ar Gymru’r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor penwythnos diwethaf yn dystiolaeth huawdl o fywiogrwydd y maes yng Nghymru ar hyn o bryd. Diwrnod yn unig o’r gynhadledd y llwyddais i’w fynychu ond roedd hwnnw’n ddiwrnod gorlawn

Darllen mwy