Llongyfarchiadau i’r Athro Gary Beauchamp ar dderbyn Medal Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae tri golygydd Cylchgrawn Addysg Cymru wedi derbyn y wobr fawreddog erbyn hyn, yn dilyn yr Athro Enlli Thomas yn 2019 a’r Athro Tom Crick yn 2023, gan gydnabod eu cyfraniadau sylweddol at ymchwil addysgol.
Enwir Medal Hugh Owen er anrhydedd i Syr Hugh Owen (1804-1881), addysgwr, dyngarwr ac arloeswr addysg uwch yng Nghymru. Mae’n cael ei ddyfarnu i gydnabod ymchwil addysgol eithriadol, neu gymhwyso ymchwil i sicrhau arloesi sylweddol mewn polisi addysg a/neu arferion addysgol yng Nghymru.
Mae Cylchgrawn Addysg Cymru yn gyfnodolyn Mynediad Agored platinwm sy’n cyhoeddi ymchwil genedlaethol a rhyngwladol ar bolisi ac ymarfer addysg. Mewn rhifynnau ddwywaith y flwyddyn, mae’r cyfnodolyn yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a datblygu ymhellach y sylfaen ymchwil addysgol yng Nghymru a thu hwnt, gan sicrhau bod yr ymchwil ddiweddaraf yn hygyrch i bawb. Cyhoeddwyd rhifyn arbennig yn ddiweddar gydag awduron gwadd o bob cwr o’r DU yn pwyso a mesur chwarter canrif o addysg wedi’i datganoli yng Nghymru.
Yn ogystal, mae’r casgliad Ffocws ar Ymarfer yn annog cyfraniadau gan ymarferwyr ac ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa, gan gynnig llwyfan i ymarferwyr gyhoeddi eu hymchwil eu hunain. Mae’r Golygyddion i’w gweld ar Bodlediad Addysg Cymru hefyd, yn trafod y papurau diweddaraf gydag awduron, sy’n rhannu canfyddiadau a goblygiadau pwysicaf eu gwaith.