Mae GPC o’r farn fod cyhoeddi a lledaenu gwaith ymchwil ysgolheigaidd o’r ansawdd uchaf yn allweddol i’w gylch gwaith. Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed cynigion gan y gymuned academaidd ar gyfer llyfrau, cyfnodolion a chyfresi newydd.

Cysylltwch â ni drwy e-bost neu dros y ffôn i gael trafodaeth gychwynnol cyn cyflwyno eich cynnig – byddwn yn falch o glywed gennych.

 

 

Gwybodaeth Breindaliadau

Cliciwch yma os gwelwch yn dda i ddarllen ein Llythyr a Chanllawiau Breindaliadau

 

Gostyngiad i awduron a thaliad adolygwyr

Nodwch nad yw’r gostyngiad i awduron ar bris llyfrau GPC yn ddilys ar gyfer llyfrau GPC a ddewisir fel taliad gan adolygwyr cais a theipysgrif.

Beth mae ein hawduron yn dweud amdanom ni:

“Cant a mil o ddiolch ichi’n bersonol ac i’r tîm cynhyrchu (a marchnata) cyfan. Newyddion cyffrous, ac fe rydw i wrth fy modd.”

Athro M Wynn Thomas, awdur R. S. Thomas: Serial Obsessive

“Llongyfarchiadau ar y gwaith campus y mae’r Wasg wedi’i wneud yn cyhoeddi’r gyfrol Parents, Personalities and Power.  Mae’n gyfrol hardd.  Y gobaith yw y bydd pobl yn ei phrynu, a’i darllen, a’i defnyddio yn gall er mwyn Cymru.”

– Huw S. Thomas, golygydd Parents, Personalities and Power

Mynediad Agored

Mae GPC yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes Mynediad Agored, ac yn cadw llygad agos ar ymgynghoriad diweddar Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ar fonograffau, a gorchmynion Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) ar gyfer cyfnodolion.

Byddwn yn cyhoeddi manylion polisi GPC ar Fynediad Agored yn fuan ond, yn y cyfamser, dylai golygyddion cyfnodolion fod yn ymwybodol o benderfyniad RCUK i’w gwneud yn ofynnol i gyhoeddi ar sail Mynediad Agored unrhyw erthyglau cyfnodolion sydd wedi’u seilio’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar waith ymchwil a ariannwyd gan RCUK. Gofynnir felly i olygyddion cyfnodolion sicrhau bod ymchwilwyr sy’n cyflwyno erthyglau i’w derbyn yn datgan yn eglur pa un a ariannwyd eu herthyglau gan RCUK ac yn hysbysu GPC; ar ôl eu derbyn i’w cyhoeddi yn y cyfnodolyn, ac ar ôl cyflwyno’r llawysgrif i GPC, dylai golygyddion cyfnodolion nodi’n eglur ar y tabl cynnwys pa erthyglau, os oes rhai, y mae’n ofynnol eu cyhoeddi ar sail Mynediad Agored.

Mynediad Agored ac Erthyglau Cyfnodolion yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ar ôl 2014

Dylai golygyddion a chyfranwyr fod yn ymwybodol o anghenion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl) ynglŷn â Mynediad Agored ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a dderbynnir ar gyfer cyhoeddi ar ôl 1 Ebrill 2016, a amlinellwyd yn nogfen polisi CCAULl Mawrth 2014 (cyf: 2014/07):

http://www.hefce.ac.uk/pubs/year/2014/201407/name,86771,en.html

Nodwch mai testun terfynol yr awdur wedi’i adolygu gan arbenigwr ddylai fod y fersiwn ar gyfer adnau.

Cynhwysir deunydd trydydd parti yn yr erthygl a adneuir ar risg yr awdur/sefydliad ei hun. Dylai awduron barhau i sicrhau’r hawliau i ddefnyddio deunydd trydydd parti mewn print ac ar ffurf electronig yn y ffordd arferol ar gyfer pwrpasau fersiwn cyhoeddedig Gwasg Prifysgol Cymru (GPC).

Polisi GPC yw gofyn am gyfnod embargo o 18 mis ar gyfer Mynediad Agored Gwyrdd, yn cychwyn o’r dydd olaf ym mis y cyhoeddiad o’r fersiwn print.

Mae GPC hefyd yn croesawu erthyglau ar gyfer Mynediad Agored Aur: os oes angen hynny arnoch, cysylltwch ag Adran Gomisiynu GPC er mwyn trafod Ffi Prosesu Erthygl (‘Article Processing Charge’, neu APC) ar gyfer eich erthygl.

Mae anghenion Mynediad Agored gan Gynghorau Ymchwil DU (CYDU) hefyd ar gyfer erthyglau sy’n cydnabod cyllid RCUK; am fwy o fanylion, gweler http://www.rcuk.ac.uk/research/outputs/

Nodwch y bydd cyfnodolion GPC yn parhau i dderbyn a chyhoeddi erthyglau gan awduron nad oes ganddynt anghenion ar gyfer yr Ymarferiad Asesu Ymchwil (RAE) o dan y trefniadau sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau at yr Adran Gomisiynu.

Mynediad Agored a Monograffau

Mae monograffau, casgliadau wedi’u golygu a chyhoeddiadau ffurf hir eraill yn rhan bwysig iawn o’r byd cyhoeddi academaidd, ac maen nhw’n arbennig o bwysig i ysgolheigion yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Ond dywed llawer o bobl wrthym fod cyhoeddi monograffau yn wynebu anawsterau – mae gwerthiant yn disgyn, costau yn codi, ac mae’n gynyddol anodd i ysgolheigion ganfod ffordd i gyhoeddi eu gwaith.

Wrth gynllunio ffordd ymlaen ar gyfer mynediad agored a’r REF nesaf, rydym wedi derbyn cyngor clir iawn nad yw’r byd cyhoeddi monograffau yn barod i gefnogi anghenion mynediad agored. Mewn ymateb i’r cyngor hwn, rydym yn cynnig na fydd cyhoeddi mewn ffurf mynediad agored yn angenrheidiol er mwyn i fonograffau gael eu hystyried yn y REF nesaf.

Ond rydym yn awyddus i ddeall y problemau’n well ac i gefnogi ymdrechion i’w datrys lle bynnag mae’n bosib. Rydym yn optimistaidd ynglŷn â’r potensial ar gyfer cyhoeddi mynediad agored i helpu cynnal cyfathrebu ysgolheigaidd yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, ac yn hyderus y bydd cyhoeddi monograffau mynediad agored yn parhau i dyfu o fewn y blynyddoedd nesaf.

Rydym yn cadw llygad barcud ar ganlyniad ymgynghoriad hydref 2013 ar Fynediad Agored o ran papurau cynhadledd ar gyfer y REF nesaf, a byddwn yn diweddaru’r adran hon mor gynted ag y byddwn yn clywed y newyddion.
Mae fersiynau PDF o dri o’n llyfrau ar gael am ddim mewn mynediad agored drwy’r llwyfan Llyfrgell OAPEN, www.oapen.org. Cliciwch yma i lawrlwytho:

FfugLen : Y Ddelwedd o’r Nofel Gymraeg o Ddechrau’r Chwedegau tan 1990
Los Invisibles A History of Male Homosexuality in Spain, 1850-1940
Ancrene Wisse : From Pastoral Literature to Vernacular Spirituality