Amdanom ni
Rydym yn credu’n angerddol mewn cefnogi a lledaenu ysgolheictod o Gymru ac am Gymru i gynulleidfa fyd-eang. Mae’r Wasg wedi gwasanaethu Cymru a’r gymuned academaidd ryngwladol ers 1922 trwy gyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Rydym yn rhannu’r traddodiad cryf yng Nghymru o ddod ag addysg a dysg at yr holl bobl ac yn gweld mai ein rôl ni yw rhoi cymorth i bob agwedd o ddysgu a’r ymchwil gydol oes am wybodaeth a rhagoriaeth academaidd. Rydym yn chwarae rôl bwysig yn lledaenu’r ddealltwriaeth o ddiwylliant, hanes, iaith a gwleidyddiaeth unigryw Cymru. Dros y ganrif diwethaf rydym wedi rhoi llwyfan i feddylwyr mwyaf Cymru, gan gyfrannu at adeiladu Cymru fodern.
Rydym mewn safle unigryw fel yr unig wasg academaidd ddim er elw yng Nghymru a chyda chefnogaeth Prifysgol Cymru rydym wedi gallu aros yn driw i’n cenhadaeth.
Ar hyn o bryd rydym yn cyhoeddi oddeutu 50 o lyfrau newydd a chylchgronau’r flwyddyn yn bennaf ym meysydd Astudiaethau Ewropeaidd, Athroniaeth, Llenyddiaeth, Hanes, Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Rydym hefyd yn cynhyrchu llyfrau o ddiddordeb cyffredinol am Gymru fel rhan o’n cenhadaeth i ledaenu ymchwil a’i gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.
.
Bwrdd Ymgynghorol
Mae Mr Tony Ball yn gyn-athro a dirprwy ysgolion uwchradd yn ne Cymru, ac am ddegawd bu’n Uwch Is-lywydd (Adnoddau) yng Ngholeg Glan Hafren, Caerdydd. Roedd ganddo hefyd yrfa y tu allan i addysg fel Cyfarwyddwr Marchnata Clwb Criced Sir Forgannwg, a Chyfarwyddwr/Rheolwr Gweithgareddau CH Bailey. Wedi ei eni a’i addysgu yng Nghymru ac â gradd gwyddoniaeth o Brifysgol Cymru, Tony sy’n cadeirio Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru, sy’n fwrdd ymgynghorol i Gyngor Prifysgol Cymru.
Mae Mr Chris Burton-Brown yn gyfrifydd siartredig gyda 25 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddi, ac mae wedi dal nifer o swyddi fel cyfarwyddwr ariannol mewn amryw gwmnïau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwella gwybodaeth reoli i alluogi gwell penderfyniadau cyhoeddi, rheolaethau ariannol, caffaeliadau a diosgiadau, gweithrediadau systemau a mentora staff.
Mae’r Athro Helen Fulton yn aelod blaenllaw o’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Bryste, ac yn ymchwilio ar hanes a gwleidyddiaeth llenyddiaeth ganoloesol, Astudiaethau Celtaidd, llenyddiaeth Arthuraidd a’r gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a Lloegr yn yr Oesoedd Canol. Mae hi wedi cyhoeddi ym meysydd llenyddiaeth Cymraeg a Gwyddeleg yn yr ugeinfed ganrif, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfrol yn trafod barddoniaeth wleidyddol Gymraeg ganoloesol.
Ms Katy Jordan MA yw Llyfrgellydd Cymorth Cadwrfeydd Prifysgol Caerfaddon. Hi hefyd yw Llyfrgellydd Anrhydeddus Cymdeithas Frenhinol Caerfaddon a Gorllewin Lloegr.
Mae Richard Owen yn gyn-bennaeth ar Adran Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru.
Mae Clare Grist Taylor yn gyhoeddwr ac arweinydd gyda dros 30 mlynedd o brofiad dros amryw o sectorau cyhoeddi gwahanol – academaidd, gwerslyfr, proffesiynol a masnachol. Mae wedi cyhoeddi popeth o lyfrau masnachol i gynhyrchion cyfeirio ar-lein ar raddfa-eang, wedi’u gwerthu trwy’r fasnach, yn uniongyrchol i ddefnyddwyr a thanysgrifiad. Dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi gyda’r cyhoeddwr cyfnodolion, Pergamon Press, cyn mynd ymlaen i fod yn gyfarwyddwr golygyddol Ewropeaidd yn Prentice Hall, yn Rheolwr Gyfarwyddwr ICSA Publishing ac yn gyfarwyddwr busnes a gweithrediadau Profile Books.
Bwrdd Golygyddol
Helen Fulton, Cadair, Athro Saesneg yn Ysgol y Dyniaethau, Prifysgol Bryste (Astudiaethau Canoloesol)
Jane Aaron, Athro Astudiaethau Saesneg, Aelod Cyswllt o’r Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bychan, Prifysgol De Cymru (Llên Gymreig yn Saesneg)
Richard Griffiths, Athro Emeritws yn y Ffrangeg, King’s College, Llundain, ac aelod o’r Academi Gymreig (Astudiaethau Ffrengig)
Susan Harrow, Cadair Ashley Watkins mewn Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg a Ffrengig ym Mhrifysgol Bangor (Astudiaethau Ffrengig)
Ray Howell, Athro Hynafiaethau Cymreig a Chyfarwyddwr Canolfan De Cymru ar gyfer Ymchwil Hanesyddol a Rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol De Cymru (Archaeoleg)
Geraint Jenkins, Athro Emeritws yn Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth
Dafydd Johnston, cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Astudiaethau Celtaidd)
Montserrat Lunati, Darllenydd er Anrhydedd Prifysgol Sant Andreas (Astudiaethau Sbaenaidd)
Tatiana Patrone, Athro Cyswllt mewn Athroniaeth yng Ngholeg Ithaca, UDA (Athroniaeth)
Robert Pope, Cyfarwyddwr Astudiaethau Hanes ac Athrawiaeth Eglwysig yng Ngholeg Westminster, Caergrawnt (Astudiaethau Crefyddol)
Diana Wallace, Athro Llenyddiaeth Saesneg, Cyfadran Busnes a Chymdeithas, Prifysgol De Cymru
Chris Williams, Pennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg Prifysgol Cork (Hanes/Hanes Cymru)
Jonathan Wooding, Athro Warwick Fairfax mewn Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Sydney (Astudiaethau Celtaidd)