Ysbryd Morgan
Adferiad y Meddwl Cymreig
Huw L. Williams
‘Sut mae bod yn athronyddol ac yn ddychmyglawn, yn eangfrydig ac yn genedlgarol, yn ddadansoddol ac yn angerddol – y cyfan, a rhagor, ar yr un pryd? I gael yr ateb, darllenwch tour de force diweddaraf Huw L. Williams – cewch eich hysbrydoli yn y fargen.’
- Cynog Dafis

Darllen y Dychymyg
Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Siwan M. Rosser
‘Cyfrol wefreiddiol o arloesol yw hon am lên plant Cymraeg gan y brif arbenigwraig yn y maes. Mae’n olrhain y cychwyn yn ôl i’r llyfrau a’r cylchgronau crefyddol, addysgol a bucheddol ar gyfer yr ieuainc a gyhoeddwyd gan yr enwadau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A dengys inni sut I werthfawrogi’r cynnyrch hwn o’r newydd trwy ddeall bydolwg “estron” y cyfnod. Dyma astudiaeth sy’n cyfoethogi ein hadnabyddiaeth o’n gorffennol.’
- Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe

MYNEDIAD AGORED
Cylchgrawn Addysg Cymru
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cylchgrawn Addysg Cymru yn gyhoeddiad Mynediad Agored platinwm llawn. Mae hyn yn golygu fod y cylchgrawn ar gael i’w ddarllen am ddim, yn ddwyieithog, mewn fformat digidol, ar draws y byd, heb unrhyw gostau i awduron gyhoeddi.
Mae Cylchgrawn Addysg Cymru yn trafod agweddau cyfoes a datganoledig ar addysg, ynghyd ag ymdrin ag addysg o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r drafodaeth yn amlinellu safbwyntiau o Gymru a thu hwnt sydd yn esgor ar feysydd ymchwil newydd, gan gynnwys astudiaethau cymariaethol a chyfraniadau rhyngwladol, ac o 2020 ymlaen erthyglau dan arweiniad ymarferwyr.
Mae rhifyn diweddaraf Cylchgrawn Addysg Cymru nawr ar gael i'w ddarllen am ddim! Dilynwch y ddolen i ddarllen erthyglau rhifyn 22.2 Rightwards arrow https://bit.ly/3i6XGmR

Y Dychymyg Ôl-Fodern
Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan
Rhiannon Marks
‘O’r diwedd, dyma astudiaeth gynhwysfawr o gyfraniad enfawr Mihangel Morgan i ffuglen fer yn y Gymraeg, un sy’n gosod ei waith mewn cyd-destunau Ewropeaidd cyfoes. Mae cyfrol Rhiannon Marks nid yn unig yn ymdriniaeth ddadlennol â gwaith yr awdur, ond hefyd yn ymateb creadigol cyfaddas iddo – yn ddychmygus, deallus ac yn cynnig difyrrwch di-ben-draw i’r darllenydd. Ardderchog!’
-Yr Athro Angharad Price, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

Cyfri’n Cewri
Hanes Mawrion ein Mathemateg
Gareth Ffowc Roberts
‘Petawn i wedi cael Gareth Ffowc Roberts yn athro, rwy’n grediniol y byddai fy myd-olwg yn wahanol. Mae ganddo’r ddawn brin o egluro “rhyfeddod y cread” mewn dull hynaws ac agos atoch. Gwnaeth i fathemateg Cymru yr hyn a wnaeth Peter Lord i gelf Cymru – cryfhau ein ymwybyddiaeth o gewri ein gwlad, ac ymfalchïo ynddynt.’
- Angharad Tomos, awdures

‘Iaith Oleulawn’
Geirfa Dafydd ap Gwilym
Dafydd Johnston
Astudiaeth sy’n dadansoddi’r elfennau hen a newydd yng ngeirfa barddoniaeth Dafydd ap Gwilym. Trwy ganolbwyntio ar ei ddefnydd creadigol o eiriau, cynigir golwg newydd ar rai o gerddi mwyaf yr iaith Gymraeg. Bydd y gyfrol hon yn apelio at bawb sy’n hoff o farddoniaeth ac yn ymddiddori yn hanes geiriau.

MYNEDIAD AGORED
Cylchgrawn Addysg Cymru
Rhifyn 22.1 Rhifyn Arbennig: Addysg Athrawon yng Nghymru – y daith i ddiwygio ar gael ddiwedd Mai 2020
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn falch iawn o gyhoeddi mae Cylchgrawn Addysg Cymru yn gyhoeddiad Mynediad Agored platinwm llawn. Mae hyn yn golygu fod y cylchgrawn ar gael i’w ddarllen am ddim, yn ddwyieithog, mewn fformat digidol, ar draws y byd, heb unrhyw gostau i awduron gyhoeddi.
Mae Cylchgrawn Addysg Cymru yn trafod agweddau cyfoes a datganoledig ar addysg, ynghyd ag ymdrin ag addysg o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r drafodaeth yn amlinellu safbwyntiau o Gymru a thu hwnt sydd yn esgor ar feysydd ymchwil newydd, gan gynnwys astudiaethau cymariaethol a chyfraniadau rhyngwladol, ac o 2020 ymlaen erthyglau dan arweiniad ymarferwyr.
Cynhelir Cylchgrawn Addysg Cymru ar-lein gan Ingentaconnect: http://ingentaconnect.com/content/uwp/wjed
ISSN Ar-lein: 2059-3716 ISSN Print: 2059-3708
Pris agraffu ar alw: £20 + cludiant fesul rhifyn

Creu Dinasyddiaeth i Gymru
Mewnfudo Rhyngwladol a’r Gymraeg
Gwennan Higham
‘Mae’r gyfrol hon yn cyfuno dadansoddi polisi craff ag asesiadau realistig o’r heriau a wynebir gan fewnfudwyr a ffoaduriaid wrth geisio cael eu hintegreiddio i’r gymdeithas leol yng Nghymru. Y canlyniad yw triniaeth wreiddiol, heriol a gwerthfawr o ddehongliad newydd ar ddinasyddiaeth. Gan ddefnyddio profiad rhyngwladol, megis Québec a Gwlad y Basg, cyniga’r drafodaeth ystyriaethau newydd trawsnewidiol o fudd i asiantaethau a chymdeithas sifil wrth iddynt geisio gwella profiad beunyddiol trigolion newydd yn eu plith. Mae profiad personol ac argyhoeddiad yr awdur o werth, ac urddas pob unigolyn yn goleuo pob rhan o’r dadansoddiad rhagorol hwn.’
- Yr Athro Colin H. Williams

Diwinyddiaeth Paul
Gan Gynnwys Sylw Arbennig i’w Ddehonglwyr Cymreig
John Tudno Williams
‘Dyma ffrwyth ymchwil manwl a thrylwyr i wahanol agweddau ar fywyd a diwinyddiaeth Paul gan un sy’n awdurdod yn y maes. Mae dadansoddiad yr awdur o ddiwinyddiaeth yr Apostol yn feistrolgar, a bydd y gyfrol yn anhepgor i weinidogion ac, yn wir, i bawb sy’n ymddiddori ym maes y Testament Newydd.’
- Yr Athro Emeritws Eryl W. Davies, Prifysgol Bangor

Yr Anymwybod Cymreig
Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol
Llion Wigley
‘Mae’r gyfrol gyfoethog hon yn egluro apêl seicdreiddiad i Gymry Cymraeg canol yr ugeinfed ganrif. Gan fynd i’r afael â chyffro deallusol y cyfnod, dangosir bod y diwylliant Cymraeg yn fwy blaengar nag y tybir yn aml, ac mae yma wersi amserol iawn i ni heddiw.’
- Yr Athro Dafydd Johnston, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Y Gyfraith yn ein Llên
R. Gwynedd Parry
‘Cyfrol ddiddorol a dysgedig, sy’n dangos pwysigrwydd dealltwriaeth o’r gyfraith wrth ddarllen elfennau o’n llenyddiaeth fel cenedl – ac hefyd bwysigrwydd gwybodaeth o’n llenyddiaeth, yn enwedig ein barddoniaeth, er mwyn cyrraedd gwir ddealltwriaeth o’n cyfraith yn ei chyd-destun cymdeithasol. Mae’r gwaith yn llunio ac yn creu maes ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ar Gymru a’r Gymraeg.’
- Yr Athro Thomas Glyn Watkin CF

Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’
Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990
Lisa Sheppard
‘Dyma feirniadaeth lenyddol ar ei gorau – yn heriol a phryfoclyd ac yn gwbl berthnasol i’r byd sydd ohoni. Yn wyneb y cynnwrf gwleidyddol a’r pryderon presennol ynghylch Prydeindod a mewnfudo, mae’r gyfrol arloesol hon yn gofyn inni ailystyried pwy ydym “ni” a “nhw” (neu’r “hunan” a’r “arall”) drwy archwilio’r modd y mae ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes yn cynnig gofod amgen i fynegi llithrigrwydd a chymhlethdod hunaniaethau diwylliannol Cymru.’
- Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd

Cymraeg yn y Gweithle
Rhiannon Heledd
‘Cyfrol anhepgor i bawb sy’n defnyddio neu’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg ym myd gwaith. Mae’r pwyslais ymarferol ynghyd â’r tasgau pwrpasol yn tywys y darllenydd yn hwylus o’r broses ymgeisio – trwy amrywiaeth o orchwylion nodweddiadol byd gwaith – i ymarfer proffesiynol.’
- Dr Steve Morris, Prifysgol Abertawe

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr