Partneriaid
Mae GPC yn hynod falch o’i hystod gyhoeddi a’i pherthynas ddiwylliannol ag amryw helaeth o gyrff a mudiadau yng Nghymru a thu hwnt, ac yn croesawu pob cyfle i sefydlu partneriaethau newydd. I drafod a datblygu’r posibiliadau o fentrau newydd ar y cyd, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Wasg, Natalie Williams.
Mae GPC yn werthfawrogol iawn o gefnogaeth y Prifysgolion canlynol i gyhoeddi ei llyfrau:
Cymru
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant http://www.uwtsd.ac.uk/cy/
Prifysgol Aberystwyth http://www.aber.ac.uk/cy/
Prifysgol Abertawe http://www.swansea.ac.uk/cy/
Prifysgol Bangor http://www.bangor.ac.uk/index.php.cy
Prifysgol Caerdydd http://www.caerdydd.ac.uk/
Prifysgol De Cymru http://www.southwales.ac.uk/cymraeg/
Y Brifysgol Agored yng Nghymru http://www.open.ac.uk/wales/
Lloegr a’r Alban
Prifysgol Edge Hill www.edgehill.ac.uk
Coleg Girton, Caergrawnt www.girton.cam.ac.uk
Prifysgol Greenwich www.gre.ac.uk/
Prifysgol Sheffield www.sheffield.ac.uk
Prifysgol Stirling www.stir.ac.uk/
Prifysgol Caerefrog www.york.ac.uk/
Gweddill y Byd
Prifysgol Leiden www.leiden.edu/
Coleg y Brifysgol, Cork www.ucc.ie/
Prifysgol Santiago de Compostela http://www.usc.es/en/index.html
Prifysgol Ottawa www.uottawa.ca/en
Prifysgol Tywysog Ynys Edward home.upei.ca
Mae GPC yn werthfawrogol iawn o gefnogaeth y mudiadau canlynol i gyhoeddi ei llyfrau:
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru gynt, yn gorff sy’n cynnwys naw o amgueddfeydd yng Nghymru wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru.
Cliciwch yma i fynd i dudalennau Amgueddfa Cymru.
Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru
Dylan Thomas, R. S. Thomas, Margiad Evans, Raymond Williams – dyma bedwar o awduron Saesneg mwyaf adnabyddus yn y Gymru fodern.
Cydnabyddir CREW fel arweinydd rhyngwladol y maes mewn astudiaeth lenyddol a diwylliannol, gyda rhaglen helaeth o addysgu a gwaith ymchwil. Cynhelir gwaith ysgolheigaidd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys hanes diwylliannol, diwylliant gweledol, cysylltiadau dros yr Iwerydd, astudiaethau ôl-drefedigaethol ac astudiaethau canoloesol.
Cliciwch yma i fynd i dudalennau CREW.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Prif nod y Coleg yw cynyddu, datblygu ac ehangu cyfleoedd astudio drwy’r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Mae’r Coleg yn adeiladu ar waith blaenorol y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg gan weithio gyda phrifysgolion i ddatblygu partneriaethau cydweithredol effeithiol, sicrhau mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg, hyfforddi cenhedlaeth newydd o ddarlithwyr i’r dyfodol, ynghyd â chyllido modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i’r sector addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Cliciwch yma i fynd i dudalennau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi ysgolheigaidd genedlaethol gyntaf Cymru. Fe’i sefydlwyd a’i lansio ym mis Mai 2010. Mae iddi dros dri chant o Gymrodyr, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd perthnasol. Ethos arweiniol y Gymdeithas yw Dathlu Ysgolheictod a Gwasanaethu’r Genedl: yn ogystal â dathlu, cydnabod, diogelu ac annog rhagoriaeth ym mhob un o’r disgyblaethau ysgolheigaidd, ei diben hefyd yw harneisio a sianelu talent y genedl, fel y’i hymgorfforir yn ei Chymrodyr, er budd, yn bennaf, Cymru a’i phobl.
Cliciwch yma i fynd i dudalennau Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cyngor Llyfrau Cymru
Corff cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cyngor Llyfrau Cymru, ac mae’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol (ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu) gyda’r nod o wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hefyd yn dosbarthu grantiau i gyhoeddwyr. Mae’r Cyngor Llyfrau’n ymroi i hybu darllen a llythrennedd yng Nghymru.
Cliciwch yma i fynd i dudalennau Cyngor Llyfrau Cymru.
Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Sefydlwyd y Ganolfan gan Brifysgol Cymru ym 1985, ac mae ganddi lyfrgell lawn sydd wedi tyfu’n adnodd hynod werthfawr ar gyfer Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd dros y blynyddoedd. Yr Athro R. Geraint Gruffydd oedd Cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan, a’i phrosiect cyntaf oedd paratoi argraffiad o waith Beirdd y Tywysogion, a gyhoeddwyd mewn saith cyfrol (1991–6).
Ym 1993, symudodd y Ganolfan i adeilad a godwyd yn bwrpasol nesaf at Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Penodwyd yr Athro Geraint H. Jenkins yn Gyfarwyddwyr yn yr un flwyddyn, ac ehangwyd y gweithgareddau’n sylweddol yn ystod y pymtheg mlynedd ganlynol. Yn fuan, gwelwyd tri phrosiect ymchwil ar waith ar yr un pryd.
Cliciwch yma i fynd i dudalennau’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Geiriadur Prifysgol Cymru
Geiriadur yr Iaith Gymraeg
Prosiect a ddechreuwyd ym 1921 gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru i gynhyrchu’r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol cyntaf. Cyhoeddwyd cyfrol olaf y Geiriadur yn 2002 wedi 82 o flynyddoedd o waith. Mae’r prosiect erbyn hyn yn ail-olygu a diweddaru’r testun fesul rhan.
Cliciwch yma i fynd i dudalennau Geiriadur Prifysgol Cymru.
Canolfan Paul Mellon ar gyfer yr Astudiaeth o Gelf Brydeinig
Mae Canolfan Paul Mellon ar gyfer yr Astudiaeth o Gelf Brydeinig yn elusen addysgiadol a sefydlwyd er mwyn hybu ymchwil gwreiddiol ar hanes celf a phensaernïaeth Brydeinig.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Canolfan Paul Mellon.
Cymdeithas Hanes Sir Gwent
Mae Cymdeithas Hanes Sir Gwent yn hyrwyddo’r astudiaeth o hanes Gwent.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Cymdeithas Hanes Sir Gwent.
Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Mae Ymddiriedolaeth Rhys Davies Trust yn coffáu gwaith Rhys Davies ac yn meithrin ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, yn arbennig yng nghymoedd de Cymru ac yn yr arddulliau yr ysgrifennodd Rhys Davies ynddynt.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Ymddiriedolaeth Rhys Davies.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion yn chwarae rhan flaengar mewn datblygu a hybu dealltwriaeth o dreftadaeth archeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ac mewn ymchwilio a churadu rhyngweithio pobl gyda thirwedd y wlad.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ymrwymo ers dros ganrif i wella amaethyddiaeth, cadwraeth a’r economi wledig yng Nghymru ac yn cynnal rhaglen flynyddol o sioeau a digwyddiadau mewn cydweithrediad â diwydiannau gwledig.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell adnau cyfreithiol ar gyfer llyfrau, cyfnodolion, delweddau, mapiau, llawysgrifau ac archifau sy’n ymwneud â hanes a diwylliant Cymru ac yn un o brif sefydliadau diwylliannol y byd.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw’r llywodraeth ddatganoledig ar gyfer Cymru, gyda chyfrifoldeb dros yr economi, addysg, diwylliant, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, a pholisi amgylcheddol.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Llywodraeth Cymru.
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn anelu i hybu dysgu a gweithredu ar faterion rhyngwladol gan bobl Cymru, ac yn darparu fforwm ar gyfer hawliau dynol, heddwch a chyfiawnder, cynaliadwyedd a datblygu rhyngwladol, yn ogystal ag ymgorffori Cyngor y Cenhedloedd Unedig Cymru.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Sefydliad Materion Cymreig
Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn felin drafod annibynnol, sydd â’r nod o hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau’r Sefydliad Materion Cymreig.
S4C
S4C yw’r unig sianel deledu iaith Gymraeg yn y byd, ac mae’n comisiynu cynhyrchwyr annibynnol ledled Cymru i greu ei rhaglenni ac yn darparu adnoddau, addysg ac adloniant i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau S4C.
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn gweithio i hybu’r gydnabyddiaeth o gyfraniad Cymru i gymdeithas gyfoes ac fe wnaeth gyfraniad blaenllaw i sefydlu nifer o sefydliadau diwylliannol a dysgedig y genedl.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)
Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru yw un o’r prif gyrff dyfarnu ym Mhrydain, yn darparu cymwysterau, hyfforddiant ac adnoddau addysgol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a gwledydd eraill.
Cliciwch yma i ymweld â thudalennau CBAC.