Adran Gwerthiant a Marchnata
Sut fydd GPC yn marchnata fy llyfr?
Holiadur Awdur
Fel awdur gyda’r Wasg, ein cam cyntaf a phwysicaf yw anfon holiadur awdur atoch. Mae’r ddogfen gynhwysfawr hon yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn hyrwyddo a gwerthu eich llyfr i’r gynulleidfa briodol, yn ogystal ag hyrwyddo yn eang.
Mae allbwn yr holiadur yn ffurfio sail i’r cynllun marchnata a gwerthiant ar gyfer eich llyfr, felly gofynnir i chi ei lenwi’n ofalus a’i anfon yn ôl erbyn y dyddiad a bennwyd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol, cysylltwch â ni ar unwaith, a gwnawn ein gorau i’ch helpu.
Bydd eich cynllun marchnata unigol yn amrywio yn ôl y pwnc a’r gynulleidfa ar gyfer eich llyfr, ond bydd y prif weithgareddau’n cynnwys:
Post uniongyrchol
Rydym yn cynhyrchu nifer o wahanol gatalogau’r flwyddyn, sy’n argraffu 500–2,000 copi ac yn cael eu dosbarthu drwy’r farchnad lyfrau, llyfrgelloedd, sefydliadau academaidd ac unigolion sydd ar ein rhestrau postio. Yn ogystal, mae catalogau a thaflenni pwnc yn cael eu cynhyrchu a’u postio at gynulleidfaoedd a chynadleddau allweddol.
Rydym hefyd yn hapus i ddarparu taflenni unigol i chi eu dosbarthu mewn cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau hyrwyddo eraill. Rhowch wybod i ni mewn da bryd er mwyn i ni fedru neilltuo digon o amser i’w cynhyrchu a’u hanfon atoch.
Copïau adolygu
Byddwn yn anfon taflenni rhaghysbysu a chopïau adolygu o’ch llyfr at gysylltiadau perthnasol yn y wasg. Gall rhai cylchronau gymryd amser hir i adolygu cyhoeddiadau newydd, ac nid yw adolygiadau mewn cylchgronau’n cylchredeg yn hawdd. Ond gan fod y Wasg yn cyhoeddi testunau ar draws ystod amrywiol ac eang, mae eich argymhellion ar gyfer cylchgronau addas yn werthfawr i ni, yn enwedig os medrwch ddarparu enwau cyswllt a manylion.
Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo eich llyfr, ac mae croeso i chi ein hysbysu o unrhyw wybodaeth a all fod o ddefnydd.
Cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau
Rydym yn cynnal rhestr hir o gysylltiadau cyfryngol yn GPC, a byddwn yn anfon datganiadau i’r wasg, taflenni rhaghysbysu a ffurflenni eraill at gyrff perthnasol. Unwaith eto, byddwn yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth dargedu cynadleddau priodol a chymdeithasau proffesiynol neu ysgolheigaidd.
Hysbysebu
Rydym yn hysbysebu ym mhob cylchgrawn arbenigol perthnasol ble bo hynny’n addas.
E-farchnata
Byddwn yn hyrwyddo eich llyfr ar wefan GPC (gwasg-prifysgol-cymru.orgl) a gwefan Prifysgol Cymru (www.wales.ac.uk).
Mae dolenni uniongyrchol o wefan GPC at ein dosbarthwyr byd-eang yn sicrhau archebu rhwydd, ac mae’r dolenni at sefydliadau academaidd a phroffesiynol yn hybu defnydd o’r safle. Yn ogystal, bydd cyfres o gynlluniau hyrwyddo pwrpasol yn cael eu gweithredu ar gyfer cynulleidfaoedd targed.
Rydym yn defnyddio rhestrau trafod i hyrwyddo eich llyfr, a gofynnir am eich cymorth gyda hyn. Rydym hefyd yn hyrwyddo ein llyfrau drwy ebost, ac yn eu hanfon at rwydweithiau, sefydliadau a chymdeithasau perthnasol gyda dolenni archebu uniongyrchol i’n safle.
Gwerthiant
Dosbarthu
Mae ein dosbarthwr yn y Deyrnas Gyfunol, NBN International yn Plymouth, yn darparu gwasanaeth trwyadl ac effeithlon ar gyfer archebu a dosbarthu ein cyhoeddiadau’n fyd-eang, ac eithrio lle’r ydym eisoes wedi sefydlu cysylltiadau dosbarthu lleol mewn gwledydd tramor.
Yng Nghymru, dosberthir ein llyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru, sy’n gwerthu trwy dîm profiadol o gynrychiolwyr gwerthiant, yn ogystal â thrwy’r wefan www.gwales.com.
Yn ychwanegol at hyn, mae’r University of Chicago Press yn darparu gwasanaeth marchnata, gwerthiant a dosbarthu proffesiynol i gwsmeriaid yng Ngogledd a De America, Canada, Awstralia a Seland Newydd.
Cynrychiolaeth
Mae’r Wasg yn defnyddio cynrychiolwyr llyfrau sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Gyfunol i ymweld â chyfrifon masnach llyfrau allweddol.
Mae’r cynrychiolwyr profiadol hyn yn ymweld â siopau llyfrau ar y stryd fawr a siopau llyfrau academaidd, prif swyddfeydd a chyfanwerthwyr ledled y Deyrnas Gyfunol yn ogystal â chynnal rhaglen academaidd o werslyfrau perthnasol. Mae pob un o’r cynrychiolwyr yn derbyn pecynnau gwerthu GPC, sy’n cynnwys manylion llawn am gyhoeddiadau’r dyfodol, delweddau clawr a chynlluniau ar gyfer hyrwyddo cyhoeddiadau GPC yn y cynadleddau chwemisol, ac er mwyn cyflwyno teitlau i’w cwsmeriaid masnachol 4–6 mis cyn cyhoeddi er mwyn cynhyrchu archebion rhag-blaen.
Mae gwybodaeth rhaghysbysu hefyd yn cael ei hanfon at y prif gwmnïau sy’n darparu ar gyfer llyfrgelloedd yn y Deyrnas Gyfunol 4 mis cyn cyhoeddi.
Yn ogystal, rydym yn defnyddio Durnell Marketing Services ar gyfer cynrychiolaeth trwy Ewrop.
Dosbarthu taflenni rhaghysbysu
Fel y manylir uchod, rydym yn sicrhau bod gwybodaeth rhaghysbysu yn cael ei darparu i’r prif gysylltiadau masnach byd-eang ymhell cyn cyhoeddi. Yn ogystal, mae’r holl wybodaeth llyfryddiaethol yn cael ei anfon at yr asiantaethau data allweddol, gan gynnwys Nielsen Bookdata.
Cynadleddau
Mae gennym amserlen gynadleddau gynhwysfawr sy’n ein galluogi i hyrwyddo eich llyfr mewn digwyddiadau perthnasol. Yn ogystal â’r cynadleddau mwy, lle bydd gennym ein harddangosfa ein hunain, gallwn yn aml ddarparu deunydd hyrwyddo ar gyfer cyfarfodydd llai i’w ddosbarthu i’r sawl sy’n bresennol. Nodwch yn yr holiadur i awduron unrhyw gynadleddau perthnasol yr ydych yn bwriadu ymweld â nhw.
Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi unrhyw alwadau sydd gennych i siarad yn gyhoeddus trwy ddarparu deunydd marchnata. Rhowch wybod i ni mewn da bryd os ydych yn bwriadu mynychu unrhyw ddigwyddiadau lle gellid hyrwyddo eich cyfrol.
Dewisiadau cwrs
Rydym yn darparu copïau prawf i diwtoriaid cyrsiau am ddim, lle bo hynny’n briodol. Mae hysbysiadau rheolaidd yn cael eu hanfon at academyddion perthnasol a llyfrgelloedd academaidd.
Gwasanaeth ar ôl gwerthu
Nid yw ein gwasanaeth marchnata a gwerthiant yn gorffen wedi i lyfr gael ei gyhoeddi. Mae gennym bolisi parhaus o hyrwyddo trwy daflenni a chatalogau sy’n seiliedig ar bynciau. Os gwyddoch am unrhyw bosibiliadau newydd o ran hyrwyddo’ch llyfr, gofynnir i chi gysylltu â ni.
Prynu copïau o’ch cyhoeddiad
Mae awduron, golygyddion a chyfranwyr y Wasg yn derbyn gostyngiad o 35% ar bris cyhoeddiadau GPC pan fyddant yn cael eu harchebu trwy ein gwefan neu’n uniongyrchol dros y ffôn.Byddwn yn anfon cyfarwyddyd i chi ar sut i hawlio’ch gostyngiad, sydd at eich defnydd chi yn unig.
Gall cwsmeriaid hefyd archebu eich llyfr oddi wrth ein dosbarthwyr. Gweler y manylion isod:
Archebion yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop
NBN International
Cyngor Llyfrau Cymru
Gogledd a De America
University of Chicago Press
Chicago Distribution Center
11030 South Langley Avenue
Chicago, IL 60628 USA
Ffôn: 1-773 702 7000
Ebost: custserv@press.uchicago.edu
E-lyfrau
Ble mae hawliau’n caniatáu, rydym yn gwerthu e-lyfrau ledled y byd, a hynny drwy ystod o werthwyr e-lyfrau ar-lein: NBN Fusion
Hawliau cyfieithu
Byddwn yn marchnata eich llyfr i amrywiaeth o gyhoeddwyr tramor, weithiau trwy wasanaeth asiantau hawliau. Os oes gennych syniadau ar gyfer ieithoedd y dylem eu hystyried neu gysylltiadau gyda chyhoeddwyr tramor, rhowch wybod i ni.
Datganiad breindal
Bydd eich datganiad breindal yn cynnwys manylion gwerthiant eich llyfr, os yn berthnasol. Mae breindaliadau’n daladwy ar dderbyniadau net (y cyfansymiau gwirioneddol a dderbyniwyd, ar ôl i unrhyw ostyngiad gael ei dynnu). Caiff datganiadau eu hanfon allan yn flynyddol 3–4 mis wedi diwedd y flwyddyn ariannol (31 Gorffennaf).
Rydym yn eich annog i gadw mewn cysylltiad â ni wedi i’ch gwaith gael ei gyhoeddi. Byddwn bob amser yn falch o dderbyn eich cynigion ar gyfer unrhyw brosiect newydd. Rhowch wybod i ni hefyd am unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt (gan gynnwys enw, cyfeiriad, teitl swydd) er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cysylltu â chi.