
Croeso i Calon!
Calon yw gwasgnod ffeithiol Gwasg Prifysgol Cymru sy’n cyflwyno straeon amrywiol a chyfareddol niferus Cymru i ddarllenwyr ledled y byd. Mae ein llyfrau’n cwmpasu ystod eang o bynciau; os oes gennych chi ddiddordeb mewn bwyd neu lên gwerin, cerddorion neu atgofion, ysgrifennu taith neu ysgrifennu am natur, yna mae llyfrau Calon i chi.
.
..
Cyflwyno
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: Abbie Headon, Cyhoeddwr: abbie.headon@gwasg.cymru.ac.uk
Gellir dod o hyd i’n canllawiau ar gyfer cynigion yma.
Rydym ar hyn o bryd yn croesawu ceisiadau gan asiantau ac awduron. Rydym ni’n edrych am lyfrau ffeithiol wedi’u hanelu at y darllenydd cyffredinol, gyda chyswllt â Chymru a/neu hanes a diwylliant Cymru. Fodd bynnag, nid oes rhaid i lyfrau Calon ganolbwyntio’n llwyr ar Gymru ac rydym yn croesawu cyflwyniadau gan awduron o bob cenedl a chefndir.
Ddim yn siŵr a fyddai eich syniad yn addas? Rydym yn hapus i gael sgwrs gychwynnol am eich syniadau cyn i chi gyflwyno cynnig. Cysylltwch ag Abbie i drafod ymhellach.
.

Gay Aliens and Queer Folk
How Russell T Davies Changed TV
gan Emily Garside
Medi 2023 / £9.99 CC / 9781915279224
Mae Gay Aliens and Queer Folk yn cymryd naid ddofn i grombil y straeon cwiar a ddygodd Russell T Davies i’n sgriniau. Archwilir sut y gwnaethnat greu gofod fel y gallai straeon LGBTQ+ gael mynediad i’n hystafelloedd byw, ac edrychir ar eu dylanwad ar bersonau a welsant eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar deledu prif ffrwd, a hynny am y tro cyntaf.

The Folklore of Wales
gan Delyth Badder a Mark Norman
Medi 2023 / £14.99 CC / 9781915279507
Yn The Folklore of Wales; Ghosts, mae’r chwedleuwyr enwog Delyth Badder a Mark Norman yn cyflwyno detholiad cyfareddol a chynhwysfawr o adroddiadau am ysbrydion, gan uwcholeuo’r themâu allweddol sy’n llifo drwyddynt, a chan gynnig mewnwelediad i hanes a diwylliant gwahanol rannau a chymunedau yng Nghymru.

Enchanted Wales
Myth and Magic in Welsh Storytelling
gan Miranda Aldhouse-Green
Hydref 2023 / £20.00 CC / 9781915279187
Mae’r gyfrol Enchanted Wales yn wahoddiad i deithio trwy straeon allweddol llenyddiaeth fytholegol Gymraeg, gan archwilio, nid yn unig destunau canoloesol ond wreiddiau hynafol hefyd, a hynny trwy gipluniau o gerfluniau, cerfiadau ac arteffactau eraill sydd hyd at ddwy fil o flynyddoedd oed.
.
.

A Map of Love
Twelve Welsh poems of romance, desire and devotion
gan M. Wynn Thomas
Chwefror 2023 / £9.99 CC / 9781915279439
Casgliad o ddwsin o gerddi Saesneg gan feirdd Cymreig yn edrych ar gariad o bob math. Chwaer-gyfrol i The History of Wales in Twelve Poems.

Shaping the Wild
gan David Elias
Ebrill 2023 / £18.99 CC / 9781915279347
Yn aml, ystyrir dulliau ffermio yn rhai niweidiol i fyd natur a’r amgylchedd, yn creu gwrthdaro rhwng y rhai sydd am warchod bywyd gwyllt a ffermwyr sy’n dibynnu ar y tir. Yn ei gyfrol gyntaf, afaelgar, mae’r cadwriaethwr David Elias yn archwilio fferm unigol yn Eryri i ddarganfod yr hyn y gellir ei ddysgu am wironedd anodd cyfuno ffermio mynydd a gofalu am fyd natur.

Escape to Gwrych Castle
gan Andrew Hesketh
Mehefin 2023 / £18.99 CC / 9781837600069
Yn 1939, cludwyd nifer o ffoaduriaid o blant Iddewig, Almaenig gan y Kindertransport i Abergele. Eu cartref dros dro oedd Castell Gwrych, lle sefydlwyd Hachshara, sef canolfan hyfforddi a anelai at baratoi’r plant i fywyd mewn kibbutz yn Israel, lle roeddent yn gobeithio ailymuno â’u teluoedd.
Cyhoeddiadau Calon a gyhoeddwyd yn 2022
.

Welsh Food Stories
gan Carwyn Graves
Mai 2022 / £14.99 CC / 9781915279002
Archwiliad atgofus a dadlennol o orffennol, presennol a dyfodol bwyd yng Nghymru. Mae Carwyn Graves yn teithio Cymru i ddarganfod bwydydd traddodiadol y wlad ac yn adrodd straeon unigryw a chyfareddol y bobl sy’n eu gwneud heddiw.

Return to my Trees
Notes from the Welsh Woodlands
gan Matthew Yeomans
Medi 2022 / £18.99 CC / 978-1-915279-14-9
Pryd a sut y collodd pobl ein cysylltiad â natur – a sut allwn ni ddod o hyd iddo unwaith eto? Matthew Yeomans sy’n ceisio ateb y cwestiynau hyn wrth iddo gerdded dros 300 milltir drwy goedwigoedd hynafol a modern Cymru, gan ymgolli yn eu straeon (gydag ambell i ddargyfeiriad annisgwyl).

Rock Legends at Rockfield
gan Jeff Collins
Medi 2022 / £16.99 CC / 978-1-91527-904-0
Ewch y tu ôl i’r llenni yn y stiwdio recordio fyd-enwog ym Mynwy, lle recordiwyd albymau a chaneuon fel What’s the Story (Morning Glory) Oasis a Bohemian Rhapsody Queen. Cyhoeddwyd y llyfr am y tro cyntaf yn 2007, ac mae’r argraffiad hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru’n llawn gyda chyfweliadau, hanesion a delweddau newydd cyffrous.

An Indigo Summer
gan Ellie Evelyn Orrell
Hydref 2022 / £14.99 CC / 978-1-91527-907-1
Yn ystod haf 2020, dychwelodd Ellie Evelyn Orrell i fro ei mebyd yng ngogledd Cymru, lle dysgodd gelfyddyd llifo indigo gan ei mam oedd mewn galar. Mae’r atgofion hiraethus hyn gan awdur newydd yn plethu myfyrdodau ar dirwedd, teulu a phwerau iachaol celfyddyd.

Wales on this Day
366 Facts You Probably Didn’t Know
gan Huw Rees a Sian Kilcoyne
Hydref 2022 / £12.99 CC / 978-1-915279-11-8
Beth yw’r cysylltiad rhwng Jurassic Park a chwisgi Jack Daniels a Chymru? Beth oedd y cymhelliad dros yr ornest pistolau olaf erioed i’w chofnodi yng Nghymru? A pha dref oedd â cheffyl yn brif weinidog ar un adeg (o fath)? Mae’r gyfrol hwyliog hon yn cynnig 366 o straeon difyr, ysbrydoledig ac adloniannol am hanes a diwylliant Cymru nad ydynt i’w gweld yn y rhan fwyaf o lyfrau hanes.
Cefnogir Calon gan Gyngor Llyfrau Cymru.