Dymuna Gwasg Prifysgol Cymru dalu teyrnged i Geraint H. Jenkins, a wnaeth gyfraniad enfawr i’w hanes cyhoeddi ac i’r astudiaeth o hanes Cymru yn gyffredinol. Ysgrifennodd a golygodd Geraint doreth o gyfrolau arloesol i’r Wasg, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar hanes modern cynnar Cymru yn arbennig – o’i astudiaeth Thomas Jones yr Almanaciwr (1980); ei gyfrol gynhwysfawr Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar, 1530–1760 (1983); ei fywgraffiad o ‘Doc Tom’ Thomas Richards yng nghyfres ‘Dawn Dweud’ (1999); i olygu’r gyfrol Ceredigion County History Volume II mor ddiweddar â 2019.

Fel cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru rhwng 1993 a 2008, arweiniodd Geraint amrywiaeth o brosiectau ymchwil y cyhoeddwyd eu canfyddiadau gan y Wasg – yn eu plith nifer o gyfrolau ar Iolo Morganwg, gan gynnwys ei lyfr ei hun Bard of Liberty: The Political Radicalism of Iolo Morganwg (2012), a chyfres o gyfrolau wedi’u golygu ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Bu’n aelod o Fwrdd y Wasg am flynyddoedd lawer, a bu’n gyfaill a chydweithiwr cyson.

Geraint hefyd fu’n gyfrifol am gychwyn a golygu’r gyfres flynyddol bwysig o ysgrifau ar hanes Cymru, Cof Cenedl (a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer), a chyfrannodd y gyfrol ar hanes y cyfnod modern cynnar i gyfres Gwasg Prifysgol Rhydychen ar hanes Cymru. Yn ogystal, bu’n gyfrifol am lunio sawl llyfr difyr iawn yn adlewyrchu ei gariad at bêl-droed Cymru, a chlwb Abertawe yn arbennig, ac at hanes Ceredigion a’i chymeriadau unigryw.

-
+

SÊL BLWYDDYN NEWYDD! 70% o Ostyngiad