Hoffai Wasg Prifysgol Cymru ymestyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Robin Okey yn eu profedigaeth ddiweddar.

Ganwyd Robin Okey yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei addysg uwch ym Mhrifysgol Rhydychen cyn mynd ymlaen i ddarlithio hanes modern ym Mhrifysgol Warwick am dros ddeugain mlynedd. Roedd yn Athro Emeritws gyda’r Brifysgol wedi iddo ymddeol yn 2007. Cyhoeddodd amryw o gyfrolau pwysig ar hanes dwyrain a chanolbarth Ewrop yn y cyfnod modern, gan gynnwys Eastern Europe 1740-1980.  Feudalism to Communism (1982), a  Taming Balkan Nationalism. The Habsburg ’Civilizing Mission’ in Bosnia, 1878-1914 (2007). Bu hefyd yn ymchwilio agweddau o hanes Cymru ers degawdau, gan gyhoeddi erthyglau arloesol mewn cyfnodolion fel Y Traethodydd a Planet. Fe’i ddisgrifiwyd yng nghampwaith John Davies Hanes Cymru (1990) fel y ‘mwyaf cyffrous o’n haneswyr’. Cyhoeddwyd ei gyfrol olaf, Towards Modern Nationhood:Wales and Slovenia, c. 1750-1918 gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Tachwedd eleni, penllanw ei ymchwil dros gyfnod maith yn cymharu datblygiad hanesyddol Cymru fodern gyda chenhedloedd bychain eraill yn Ewrop. Mae’r llyfr wedi derbyn canmoliaeth uchel oddi wrth haneswyr eraill fel Dr Simon Brooks a’i ddisgrifiodd fel: ‘An astonishing book that argues, despite much noise to the contrary, that Wales was, is and will be a nation. However, the way it became a nation differed from the continental European model, and by comparing Wales with Slovenia, Robin Okey shows that while nationalism is a singular noun it is indeed a plural experience’.