Yn ystod un o gyfarfodydd cyntaf Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru yn gynnar ym mis Ebrill 1923, nodwyd bod aelodau’r Bwrdd wedi derbyn copïau o’r llyfr cyntaf un a gyhoeddodd GPC union ganrif yn ôl, sef The Poetical Works of Dafydd Nanmor.

Golygywd y gyfrol gan y diweddar Thomas Roberts o Borth-y-Gest ac fe’i chwblhawyd ar gyfer y Wasg gan ei ffrind a thiwtor yn Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, Yr Athro Ifor Williams. Fel yr eglura Williams yn ei ragair i’r gyfrol: ‘This work was submitted in 1909 by my friend Tom Roberts as a dissertation for the M.A. degree of the University of Wales, and was approved by the Examiners. Probably he had been attracted to Dafydd Nanmor as a subject by his interest in the historical associations of his native district, for Porth y Gest is only a few miles distant from Nanmor, the home of the poet.’ Â ymlaen i nodi bod Roberts wedi astudio Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o dan arweiniad Sir Edward Anwyl, un arall o ysgolheigion mwyaf blaenllaw yr oes. Bu’n athro Cymraeg yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, am gyfnod wedi hynny, cyn ymuno â’r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond fel yr eglura Williams, ysywaeth: ‘On the morning of October 11th, 1918, he was severely wounded in action, succumbing to his wounds on the same day. He lies in the British Cemetery, Bucquoi Road, near Arras.’

Teimlai Ifor Williams gyfrifoldeb i anrhydeddu dymuniadau olaf ei gyfaill: ‘In his will, drawn up on the battlefield, he left me his manuscript, to be used as I thought fit in the preparation of the Cywyddau series. I felt, however, that it would be fairer to his memory to publish his Collection of the Works of Dafydd Nanmor in full, as it was the only complete work he left behind him.’ Mae’n crybwyll pa mor anodd oedd paratoi’r llyfr yn sgil ei ‘unwillingness to tamper with the work as my friend had left it, but yet one was tempted to emend here and there, if not to recast radically’, cyn amlinellu y gwaith pwysig a wnaeth Roberts wrth gasglu cerddi Dafydd Nanmor at ei gilydd o gasgliadau llawysgrifau gwasgaredig. Cafodd cymorth ei gymrodyr academaidd ac aelodau o Fwrdd y Wasg,  i droi traethawd M. A. Roberts yn lyfr, a gyhoeddwyd yn ystod misoedd cynnar 1923. Argraffwyd y gyfrol gan Hugh Evans and Sons, Liverpool, y cyntaf o blith nifer o argraffwyr gwahanol o Gymru a dros y ffin a ddefnyddiodd GPC yn ei ddegawdau cynnar. Fel y dywed J. Gwynn Williams yn ei hanes o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru rhwng 1884 a 1927, ‘(Ifor Williams) performed this moving act of pietas with delicate care’. Aeth ymlaen i gyhoeddi amrywiaeth eang tu hwnt o gyfrolau arloesol i’r Wasg ar farddoniaeth gynnar a chanoloesol rhwng y 1920au a’r 1950au, gan wneud cyfraniad enfawr a pharhaol i’r astudiaeth o lenyddiaeth Gymraeg yn y broses.