Llun: Yr Athro R. Geraint Gruffydd a’r Athro J.E. Caerwyn Williams

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA, yn ei gartref yn Aberystwyth brynhawn Mawrth, 24 Mawrth, yn 86 oed. Ef oedd Cyfarwyddwr cyntaf Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, o 1985, pan fabwysiadwyd y Ganolfan yn ffurfiol yn rhan o Brifysgol Cymru, hyd at ei ymddeoliad yn 1993. Cyn hynny bu’n Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol (1980–1985) ac yn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth (1970–79).

Ceir ysgrif ddadlennol iawn am ‘Yr Athro Robert Geraint Gruffydd’ gan ei gyfaill, y diweddar J.E. Caerwyn Williams, ar ddechrau’r gyfrol a gyflwynwyd iddo ar achlysur ei ymddeoliad: Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban, gol. Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (Caerdydd ac Aberystwyth, 1996). Nid yn unig y mae’r ysgrif hon yn crynhoi gyrfa’r Athro Gruffydd, ond mae hefyd yn esbonio llawer am ei ddiddordeb dwfn yn iaith, diwylliant, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru, a hefyd ei wir ddiddordeb a’i gariad at bobl yn gyffredinol. (Ceir yma gopi o’r ysgrif ar lun PDF, trwy ganiatâd Gwasg Prifysgol Cymru.) Hoffwn innau rannu ychydig o’m hatgofion mwy personol am yr Athro, ac yn arbennig am y cyfnod hapus iawn y bûm i’n cydweithio ag ef ar brosiect Beirdd y Tywysogion ar ddechrau fy ngyrfa yn y Ganolfan.

Deuthum ar draws yr Athro Gruffydd gyntaf yn fyfyriwr ar fy nhrydedd flwyddyn yn yr Adran Gymraeg yn Aberystwyth, yn ceisio dewis pwnc ar gyfer doethuriaeth. Cawswn fy ysbrydoli gan ddarlithoedd Marged Haycock am y Cynfeirdd a Beirdd y Tywysogion, ac ar ôl paratoi traethawd iddi ar Gynddelw Brydydd Mawr o Bowys (‘A yw Cynddelw Brydydd Mawr yn fardd da?’), tybiwn fy mod i wedi dod o hyd i bwnc addas yn y bardd hwn, yn enwedig gan mai yn Llangollen, yn yr hen Bowys, yr oedd fy nghartref innau ar y pryd. Rwy’n gwrido erbyn hyn wrth feddwl i mi fod mor hy â chysylltu â’r Athro, a oedd yn Llyfrgellydd Cenedlaethol ar y pryd, i ofyn a fyddai’n hapus i drafod fy syniad ymchwil gyda mi, ond roeddwn wedi fy swyno ar y pryd gan ei ysgrifau ar farddoniaeth ganoloesol: hoffwn yn fawr y modd y trafodai’r hen gerddi fel barddoniaeth yn bennaf, ac nid fel cyfres o broblemau ieithyddol a chystrawennol (er ei fod, wrth gwrs, yn ddigon parod i fynd i’r afael â’r problemau hynny pan fyddai angen). Roedd ei bennod ar y gerdd ‘Cyntefin Ceinaf Amser’ o Lyfr Du Caerfyrddin yn Ysgrifau Beirniadol IV yn ffefryn gennyf ar y pryd, fel y mae wedi bod ers hynny. Yn gwbl nodweddiadol ohono, rhoddodd ei amser a’i gyngor yn hael iawn i mi, a dysgais innau fod ganddo nid yn unig ddiddordeb mawr ond gwybodaeth ddofn am y bardd hwn a’i gyfoeswyr.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, nid oedd yn syndod i mi o gwbl, felly, fod yr Athro Gruffydd wedi ei benodi i arwain tîm ymchwil yn y Ganolfan, gyda’r bwriad o olygu a chyhoeddi holl waith Beirdd y Tywysogion. Penodwyd pump ohonom i ymgymryd â’r gwaith: Morfydd E. Owen yn gymrawd ymchwil hŷn; Nerys Ann Jones, Peredur I. Lynch a minnau’n gymrodyr ymchwil; a Llinos Young (Roberts-Young erbyn hyn) yn gynorthwyydd personol i’r Athro (ond mewn gwirionedd roedd ei dyletswyddau hi’n llawer ehangach na hynny); ac ychydig yn ddiweddarach penodwyd Mary Olwen Owen yn llyfrgellydd. Drws nesaf, mewn ystafell yn llyfrgell yr Adran Gymraeg yn yr Hen Goleg, roedd yr Athro J.E. Caerwyn Williams, yn olygydd mygedol i’r prosiect, yn cadw golwg tadol drosom i gyd ac yn sicrhau cywirdeb ein gwaith.

Cawsom ein cartref cyntaf, trwy garedigrwydd Prifysgol Aberystwyth, mewn tŷ Sioraidd rhwng y Coleg Diwinyddol a’r Hen Goleg, tŷ a fu’n gartref cyn hynny i ran o Adran Gerdd y Coleg. Pan gyrhaeddasom y gwaith ar y bore cyntaf, 1 Hydref 1985, diflannodd pob nerfusrwydd yn ddigon buan. Nid oedd dim byd yn y tŷ, dim ond waliau glân newydd eu peintio a charped newydd sbon: dim desg, dim cadair, dim celfi o gwbl a dim ffonau. Dim byd! O edrych yn ôl, hawdd y gellid credu bod hyn wedi bod yn gwbl fwriadol, yn sail i ymarfer ‘bondio’ (cyn bod y fath gysyniad wedi dod yn gyffredin!). Rhoddodd yr Athro gyfrifoldeb ymarferol i bob un ohonom, ac roedd yn rhaid cydweithio fel tîm o’r cychwyn cyntaf er mwyn gwneud ein cartref newydd yn addas ar ein cyfer. I Peredur Lynch, er enghraifft, rhoddwyd y cyfrifoldeb o ddod o hyd i gelfi dros dro, a bu Nerys a minnau gydag ef yng nghrombil seler yr Hen Goleg yn ceisio dod o hyd i ddesgiau a chadeiriau addas dros dro nes bod rhai newydd yn cael eu harchebu. Nid yn unig y daethom i adnabod ein gilydd yn dda, ond bu’r cyfnod hwn hefyd yn gyfle i greu cysylltiadau pwysig rhyngom a staff y Coleg yn gyffredinol (er enghraifft, porthorion yr Hen Goleg, staff Geiriadur Prifysgol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, yr Adran Gymraeg, yr Adran Hanes, yr Uned Gyfrifiaduron a hyd yn oed rhai o staff yr Adran Ffiseg!), cysylltiadau a ddeuai gydag amser yn hanfodol i lwyddiant ein prosiect ymchwil.

Mater cymharol hawdd oedd trosglwyddo’r sgiliau cydweithio hyn i’n gwaith ymchwil. Er bod pawb ohonom wedi derbyn bardd neu feirdd penodol i weithio arnynt, sicrhaodd yr Athro ein bod ni i gyd yn manteisio ar gryfderau ein gilydd, a rhan bwysig o’r gwaith oedd darllen gwaith cydweithwyr a chyd-drafod. Gwaith tîm oedd hwn i fod, a hynny ar adeg pan oedd gweithio mewn tîm yn brin yn y dyniaethau yn gyffredinol, ac yn enwedig yng Nghymru. I ymchwilwyr ifainc fel Nerys, Peredur a minnau ar y pryd, roedd hyn yn beth cyffrous iawn. Roedd arweiniad yr Athro yn gwbl gadarn: roedd pwyslais mawr ar drylwyredd yr ymchwil. Rhaid oedd siecio ystyr pob un gair yn y testun yn Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (J. Lloyd Jones) a Geiriadur Prifysgol Cymru (gan ymweld â’u casgliad o slipiau os nad oedd y gair hwnnw wedi ei gyhoeddi erbyn hynny); wedyn roedd rhaid siecio gwaith ysgolheigion eraill (yn enwedig golygiadau gan Ifor Williams, Thomas Parry, &c.), ac roedd rhaid dod yn gwbl gyfarwydd â Grammar of Middle Welsh gan D. Simon Evans, a Treigladau a’u Cystrawen gan T.J. Morgan. Dim ond ar ôl gwneud y gwaith ymchwil manwl hwn y byddem wedyn yn mentro ar ddehongli ac aralleirio’r testun. Byddai’r Athro Gruffydd a Morfydd Owen yn trafod ein hymdrechion yn fanwl gyda ni – roedd dawn sythweledol gan yr Athro Gruffydd i weld ystyr llinell a fyddai’n edrych yn gwbl dywyll i ni; ac yr oedd gwybodaeth eang Morfydd Owen am lenyddiaethau Celtaidd yn addysg ac yn rhoi cefndir heb ei ail i ni. Pan fyddem yn barod i gynhyrchu ein drafft cyntaf   (ein ‘copi meistr 1’ fel y bydd fy nghyd-weithwyr yn cofio), yr orchwyl nesaf fyddai gyrru’r gwaith at yr Athro Caerwyn, a byddai ef yn mynd drwyddo gyda chrib mân, cyn bod yr alwad yn dod i fynd draw i’w swyddfa yn yr Hen Goleg. Nid anarferol fyddai treulio cwpl o oriau gydag ef ar un llinell!

Un o nodweddion amlwg yr Athro Gruffydd oedd ei natur gwbl ddiymhongar, a hynny nid yn unig yn ei ymwneud â phobl yn gyffredinol, ond hefyd yn ei ysgolheictod. Roedd llawer o benderfyniadau anodd i’w gwneud ynglŷn â methodoleg yn ystod cwrs y prosiect, ac yr oedd yn barod iawn i alw ar gyngor arbenigwyr cyn dod i unrhyw benderfyniad: pobl fel Mr Daniel Huws, Mr Gareth Bevan, yr Athro J. Beverley Smith, Dr Huw Owen, yr Athro Bobi Jones a Dr Roy Stephens i enwi ond ychydig. (Bu farw Dr Stephens yn fuan wedi i’r prosiect gychwyn, ond ef a fuasai’n cynghori’r Athro ynglŷn â materion cyfrifiadurol, a derbyniodd yr Athro ei gyngor cwbl arloesol ar y pryd fod pob ymchwilydd i gael cyfrifiadur i baratoi testunau yn ddigidol er mwyn hwyluso’r cysodi terfynol.) Felly dyma wers bwysig arall i ni, ymchwilwyr ifainc ar y pryd – pwysigrwydd gofyn a derbyn cyngor gan arbenigwyr.

Efallai mai’r hyn y byddaf yn ei gofio fwyaf am yr Athro Gruffydd yw ei garedigrwydd eithaf a’i wir ddiddordeb a’i ofal drosom bob un. Roedd llawer o hwyl a chwerthin i’w gael hefyd yn ei gwmni – a bydd fy nghyd-weithwyr yn cofio’n gynnes am y tripiau aml i’r Caban am goffi a bisged Club, ambell drip i’r Belle Vue os oedd galw am ddathlu go iawn, y fforymau hwyliog, y seminarau wythnosol yng nghwmni nifer o gyfeillion o’r dref a’r ciniawau Nadolig hael yn Eirianfa yn ei gwmni ef a Mrs Gruffydd. Rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig i fod wedi cael adnabod dyn mor hyfryd, ac un yr oedd ei ddull o ymwneud ag eraill yn batrwm i ni i gyd ei ddilyn, fel ysgolheigion ac fel pobl yn gyffredinol.

Pan oedd yr Athro yn dathlu ei ben blwydd yn 80 ychydig flynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd Peredur Lynch gerdd ar fesur rhupunt iddo, sy’n crynhoi yn wych yr hyn yr wyf innau wedi defnyddio llawer gormod o eiriau wrth geisio ei fynegi:

Cân Disgyblion i’w Hathro

Ben athrawon,

Ni dy gywion,

A ry’r awron

Dy arwyrain.

I’n diwyllio

Daethom gantro

A, do, heidio

Dan dy adain.

Ag amynedd

Rhoddaist allwedd

Inni i fawredd

Heniaith firain,

A heb untro

Fyth ein dwrdio,

Ein cywiro

Mewn modd cywrain.

Da fu canfod

Cariad hynod

Un diamod

Ym mhob damwain,

A chael swcwr

A chyfnerthwr –

Di, oreugwr

Pedwar ugain!