Mynychais gynhadledd flynyddol Canolfan Richard Burton ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe ar yr 8fed o Fehefin. Roedd safon y papurau a gyflwynwyd trwy gydol y diwrnod yn uchel iawn. Llên Saesneg Cymru oedd pwnc y sesiwn gyntaf, maes y mae Abertawe’n gryf iawn ynddo o ran staff ac ôl-raddedigion. Dechreuodd Liza Penn Thomas y diwrnod trwy drafod datblygiad y theatr yng Nghymru’r 1920au a 1930au, gan ddangos sut yr effeithiodd sensoriaeth gaeth y cyfnod ar waith awduron Cymreig fel Richard Hughes a Jack Jones. Cawsom gip diddorol ar waith ymchwil cyfredol Clare Davies (a oedd hefyd wedi trefnu’r gynhadledd) ar gyfer ei doethuriaeth ar ddeallusion Cymreig o’r ugeinfed ganrif mewn papur ar agweddau T. S. Eliot a Saunder Lewis tuag at y canon llenyddol, a lle llenyddiaeth Saesneg o Gymru o fewn y canon. I gloi’r sesiwn gyntaf, trafododd Kieron Smith sut mae agweddau beirniadol tuag at waith Caradoc Evans wedi newid dros y ganrif ers cyhoeddiad ymfflamychol ei gyfrol o straeon byrion My People ym 1915.

Hanes oedd pwnc y sesiwn nesaf, yn arbennig hanes llafur yng Nghymru ac yn benodol hanes llafur Abertawe a’r cyffiniau. Cynigiodd Bleddyn Penny olwg newydd ar hanes llafur Cymreig trwy’r ymchwil mae wedi’i gyflawni ar gyfer ei ddoethuriaeth am weithfeydd dur Port Talbot yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Dadleuodd bod angen rhoi llawer mwy o sylw i brofiadau carfanau o weithwyr – fel gweithwyr swyddfa, rheolwyr a gweithwyr amaethyddol – sydd wedi cael eu hesgeuluso o fewn hanesyddiaeth Gymreig hyd yn hyd. Gweithwyr o ardal Abertawe oedd pwnc papur Matthew Small hefyd, sef y gweithwyr copr a oedd yn byw yn Nhrevivian yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg (sy’n rhan o ardal yr Hafod yn Abertawe heddiw). Llwyddwyd i gyfleu’r gymysgedd o haelioni a hunan-les a oedd wedi cymell y diwydiannwr a’r gwleidydd lleol Henry Hussey Vivian i sefydlu Trevivian. Ar ddiwedd y sesiwn, edrychodd Alex Jones ar y mewnwelediadau y mae llenyddiaeth hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn gallu cynnig i hanes yr ardaloedd glofaol yn ne Cymru, yn arbennig nofelau a gweithiau hunangofiannol glowyr a chyn-lowyr fel Sid Chaplin a Bert Coombes.

Cafwyd sesiwn arbennig yn y Gymraeg ar ôl cinio gyda dau bapur diddorol tu hwnt gan Meilyr Powel a Catrin Heledd Richards. Yn gyntaf, trafododd Meilyr rai o’r rhesymau a roddwyd yn y Wasg Gymreig, yn fwyaf arbennig gan The Welsh Outlook, er mwyn cyfiawnhau’r brwydro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dangosodd bod crefydd wedi cael ei ddefnyddio’n rheolaidd i gyfiawnhau’r rhyfel ar sail y bygythiad honedig i’r gwareiddiad Cristnogol yr oedd camddeongliadau ar athroniaeth Nietzscheaidd yn yr Almaen yn ei gynrychioli. Fe’n hatgoffwyd pa mor anacronistig a chamarweiniol y gall fod i edrych ar y rhyfel trwy lygaid cyfoes yn unig, heb o leiaf ystyried y cymhellion a yrrai’r sawl a’i cefnogodd. Yn ail, cawsom olwg newydd ym mhapur Catrin ar nofel Gymraeg arbrofol a phwysig, sef ‘nofel gerdd’ Dafydd Rowlands Mae Theomemphus yn Hen (1977). Trwy graffu’n ofalus ar deitl y nofel, llwyddodd Catrin i ddangos y gwead cymhleth o gyfeiriadaeth rhyng-destunol a chyd-destunol at weithiau William Williams Pantycelyn, Kate Roberts ac eraill, ac at brofiadau plentyndod yr awdur a geir yn y nofel. Gellir dadlau nad yw gwaith Dafydd Rowlands wedi derbyn y sylw beirniadol mae’n haeddu hyd yn hyn, felly roedd yn braf iawn i glywed papur a oedd yn gyfraniad i lanw’r bwlch.

Symudodd ffocws y gynhadledd yn ôl i hanes Cymru unwaith eto yn y sesiwn olaf, y tro hwn mewn cyd-destun rhyngwladol. Trafododd Mark Rhodes, myfyriwr ôl-raddedig ar ymweliad o Brifysgol Kent State yn yr Unol Daleithiau, yr amryfal ffyrdd y mae Paul Robeson wedi cael ei goffáu ar draws ystod eang o sefydliadau treftadaeth yng Nghymru. Ymweliad Éamon de Valera â Chaerdydd ym 1948 i siarad mewn cyfarfod o’r ‘Anti-Partition League’ oedd pwnc difyr papur Syd Morgan, rhan o’i ymchwil doethur ar y berthynas rhwng Plaid Cymru a Fianna Fáil rhwng 1926 a diwedd y 1940au. Yn olaf, cyflwynodd Sam Blaxland ddarlun ar agweddau cymhleth, ac annisgwyl efallai, y Blaid Geidwadol tuag at Gymru a Chymreictod rhwng 1945 a’r ail refferendwm datganoli ym 1997.

Diweddglo’r diwrnod oedd trafodaeth anffurfiol rhwng Simon Brooks a Daniel Williams, dau awdur sydd wedi cyhoeddi cyfrolau newydd gyda Gwasg Prifysgol Cymru yn ddiweddar, Pam na fu Cymru a Wales Unchained. Roedd y ddadl fywiog a ddilynodd unwaith i’r gynulleidfa ymuno yn dystiolaeth glir bod y ddamcaniaeth radical a gyflwynir yn Pam na fu Cymru i egluro methiant mudiad cenedlaethol cryfach i ymddangos yng Nghymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn codi cwestiynau pwysig ac anodd ar adegau. Cadeiriwyd y sesiwn yn gelfydd gan yr hanesydd Daryl Leeworthy, a wnaeth ei gyfraniadau craff ei hun i’r drafodaeth. Diwrnod llawn trafod a darganfod, a oedd yn brawf o lefel uchel yr ymchwil sy’n digwydd o fewn Prifysgol Abertawe yn gyfredol ar draws yr adrannau Cymraeg, Hanes a Saesneg.

Dr Llion Wigley