Gall canol Hydref feddwl un peth yn unig: Ffair Lyfrau Frankfurt! Mae’r Frankfurter Buchmesse bron mor hen â’r llyfr printiedig, ac mae’n parhau i fod yn un o uchafbwyntiau calendr cyhoeddwyr pob blwyddyn. O’r 14-18 Hydref roedd Gwasg Prifysgol Cymru yn rhan o stondin yr ‘Independent Publishers Guild (IPG)’, gydag ein cyfeillion o weisg prifysgolion Caeredin, Lerpwl a Manceinion. O’r cyfle i ddal lan ym mharti stondin yr IPG, i’r cyfarfodydd gyda chwsmeriaid newydd o ar draws y byd – yn cynnwys Pacistan, Twrci a Thaiwan – roedd ein ffair Frankfurt eleni yn gynhyrchiol iawn o ran meithrin perthnasau newydd, yn ogystal ag adnewyddu hen rai. O gyfuno hynny gydag ystod o gyflwyniadau diddorol gan arweinwyr o fewn y diwydiant, roedd y Ffair yn gymaint o ysbrydoliaeth ag erioed. Gyda stondinwyr o dros 100 o wledydd gwahanol, a chyfanswm o fwy na 200,000 o ymwelwyr, mae ffair Frankfurt yn parhau i fod yn ganolbwynt ar gyfer y diwydiant cyhoeddi a’r cyfle perffaith inni gyflwyno Cymru i’r byd.