Simon Brooks yn cyflwyno Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg.

Pwy yw’r Cymry? Wel, yn sicr, nid cenedl fonoethnig ydyn nhw. Roedd yr hen Gymry yn dathlu eu bod yn Frythoniaid, ac eto ar yr un gwynt byddent yn dweud eu bod yn blant i Rufain.

Hyd yn oed heddiw, mae’r myth yn rhan o ymwybod y Cymry fel y gwelwn yng nghân enwog Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’. Mae’n ein hatgoffa fod yr ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus wedi ein ‘gadael yn genedl gyfan’ pan adawodd Brydain yn y flwyddyn 383. Er bod y Cymry yn synio amdanynt hwy eu hunain fel cenedl frodorol, roeddynt yn cydnabod mai cymysg oedd honno o’r cychwyn. Iaith a diwylliant yw sail eu gwahanrwydd, nid purdeb hil.

Mewn athroniaeth Gymraeg, dadleuid fod y pwyslais hwn ar iaith yn hybu cynhwysedd. Nid oedd hynny’n wir bob tro, ar lawr gwlad yn enwedig, ond termau ieithyddol oedd geiriau fel ‘Cymro’ a ‘Chymraes’ gan amlaf, a gellid cyfrif fel Cymry y sawl nad oeddynt o dras Gymreig os oeddynt yn rhugl eu Cymraeg. Ac am iddynt gredu mai hwy oedd brodorion gwrthodedig Ynys Prydain, cydymdeimlai’r Cymry â phobloedd ddarostyngedig eraill.

Yn Hanes Cymry, rhoddir y damcaniaethau Cymraeg hyn yn y glorian efo profiadau go-iawn lleiafrifoedd ethnig. Hwyrach mai’r brif wers ydi fod profiad lleiafrif bob tro yn dibynnu ar gyd-destun. Mae amlddiwylliannedd mewn diwylliant ieithyddol lleiafrifol yn wahanol i’r amlddiwylliannedd a geir mewn diwylliant mwyafrifol.

Mae’r ffaith fod lleiafrifoedd y diwylliant Cymraeg (pobl ddu ac Asiaidd, y Roma, Iddewon, Gwyddelod, Eidalwyr, a phob math o grwpiau eraill – ac, ie, y Saeson hefyd) wedi ymwneud â’r diwylliant Cymraeg yn bwysig. Mae a wnelo profiadau lleiafrifoedd yn aml â grym y mwyafrif, a phur wahanol oedd grym y diwylliant Cymraeg a grym y diwylliant Saesneg.

Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe yw Simon Brooks. Hanes y diwylliant Cymraeg yw maes ei arbenigedd, ac mae ei weithiau blaenorol yn cynnwys O dan lygaid y Gestapo (2004), Yr Hawl i Oroesi (2009), Pa beth yr aethoch allan i’w achub? (2013), Pam na fu Cymru (2015) ac Adra (2018).