Dissonant Neighbours: Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry, gan David Callander

Gan David Callander, awdur Dissonant Neighbours: Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolheigion wedi dangos diddordeb cynyddol yn amlieithrwydd yr Oesoedd Canol. Mae astudio llyfrau a thestunau amlieithog, sy’n nodwedd gyffredin ddigon o lawysgrifau canoloesol, wedi esgor ar lawer o waith newydd a chyffrous, ac wedi braenaru’r tir ar gyfer astudiaethau pellach. Mae ymchwil rhyng-ieithyddol yn gallu awgrymu bod traddodiadau llenyddol yn cael eu llunio gan agosrwydd daearyddol yn ogystal â iaith. Mae barddoniaeth gynnar yn Gymraeg a Saesneg yn herio’r model hwn ac yn gwneud inni feddwl ymhellach am y berthynas rhwng iaith, daearyddiaeth a llenyddiaeth. Er eu bod nesaf at ei gilydd ar y map, mae’r traddodiadau barddonol hyn yn wahanol mewn ffyrdd aneirif, ac mae hyn yn arbennig o glir yn y gwahanol ffyrdd y mae barddoniaeth Gymraeg a Saesneg yn rhoi naratif ar waith yn yr Oesoedd Canol cynnar. Dyma y mae Dissonant Neighbours yn ceisio ei astudio a’i esbonio.

Yn draddodiadol, tybir nad oes unrhyw naratif o gwbl mewn barddoniaeth gynnar Gymraeg, ond rwy’n dangos bod naratif i’w gael yn y cerddi hyn – er efallai nad yr union fath o naratif y disgwyliem. Mae barddoniaeth Hen Saesneg, mewn gwrthgyferbyniad, yn gyforiog o naratif, ac felly hefyd farddoniaeth Saesneg Canol cynnar, er nad yw’r tuedd naratif yr un mor gyson yno. Ond nid oes undod i’r naratif Saesneg hwn. Mae barddoniaeth Hen Saesneg yn cynnwys naratifau dyfodol sy’n hollol wahanol i’w naratifau gorffennol; yn wir, mae’r amrywiaeth naratif yma yn ddibynnol ar bwnc y farddoniaeth yn y ddwy lenyddiaeth, yn nodwedd y mae’r llyfr yn ceisio ei datgelu. Mae beirdd Cymraeg a Saesneg ill dau yn y cyfnod hwn yn creu barddoniaeth sy’n dra gwahanol (er nad o reidrwydd yn agosach i’w gilydd) o ran arddull os ydyn nhw’n disgrifio brwydrau neu’n darlunio Dydd y Farn. Mae’r astudiaeth gymharol hon, yn hytrach na cheisio uno’r traddodiadau, yn anelu at gynnig gwell trosolwg o briod nodweddion y ddau.