Bu Gwasg Prifysgol Cymru yn bresennol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol – a gynhaliwyd ym Modedern, Sir Fôn rhwng y 4ydd a’r 12fed o Awst – unwaith eto eleni. Agorodd y Wasg siop am yr wythnos ym mhabell Prifysgol Cymru, gyda channoedd o lyfrau Cymraeg a Chymreig ar werth. Roedd llawer o’n hawduron hefyd ar y maes, yn rhoi amrywiaeth o sgyrsiau a darlithiau difyr i gyflwyno eu llyfrau diweddaraf.

  • Trafododd Simon Brooks a Huw Lloyd Williams Brexit, Ewrop, sosialaeth a chenedlaetholdeb mewn sgwrs ar ddyfodol y genedl Gymreig. Cyhoeddodd y Wasg lyfr Simon Brooks, Why Wales Never Was: The Failure of Welsh Nationalism, ym mis Mehefin eleni.
  • Bu Anwen Jones, golygydd y gyfrol newydd Perfformio’r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards ac un o’r cyfranwyr, Roger Owen, yn trafod yr amrywiol agweddau o waith Hywel Teifi Edwards sy’n cael eu harchwilio yn y gyfrol hon.
  • Cadeiriodd M. Wynn Thomas sgwrs rhyngddo a Jason Walford Davies, Jerry Hunter a Sioned Williams ar ddwy lenyddiaeth Cymru, yn dilyn cyhoeddi ei gyfrol ddiweddaraf o draethodau, All that is Wales ym mis Mai.
  • Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, a ail argraffwyd gan GPC yn 2016 gyda rhagarweiniad manwl newydd D. Densil Morgan, oedd pwnc seiat rhwng Morgan, E. Wyn James, T. Robin Chapman a Thudur Hallam.
  • Lansiwyd Evan James Williams, cyfrol ddifyr a dadlennol ar un o ffisegwyr mwyaf pwysig Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Trafododd yr awdur, Rowland Wynne, y dyn a’i waith mewn sgwrs gydag un o olygyddion cyfres Gwyddonwyr Cymru, Gareth Ffowc Roberts.
  • Cyflwynodd awduron Cristnogaeth a Gwyddoniaeth eu cyfrol newydd a’i hymdriniaeth â rhai o’r cwestiynau dyrys a chymhleth o fewn diwinyddiaeth Gristnogol mewn perthynas â gwyddoniaeth gyfoes.
  • Cyflwynodd Rhiannon Heledd Williams ei llyfr newydd Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad: Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66, gyda E. Wyn James mewn trafodaeth ddiddorol ar y Wasg Gymreig yn yr Unol Daleithiau.

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o raglen Eisteddfod lwyddiannus arall, ac i bawb a ddaeth trwy’r mwd i ymweld â’n stondin.