Pleser yw cyhoeddi ein bod wedi cadarnhau tîm Golygyddion Cylchgrawn newydd Cylchgrawn Addysg Cymru: Gary Beauchamp o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Thomas Crick o Brifysgol Abertawe ac Enlli Thomas o Brifysgol Bangor.

Daw ein Golygyddion newydd â chyfoeth o brofiad addysgol, ac mae gan bob un hanes cryf mewn ymchwil addysgol a gyda’u harbenigedd cyfunol, eu hangerdd a’u meddylfryd arloesol, rwyf i’n edrych ymlaen yn fawr at bennod nesaf y cylchgrawn.

Mae Golygyddion y Cylchgrawn nawr yn chwilio am gyfraniadau newydd ar gyfer gwanwyn 2021. Cofiwch, gan fod y cylchgrawn bellach yn Fynediad Agored platinwm, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, does dim costau i ddarllen nac i gyfrannu at y cylchgrawn, a gallwch wneud hyn yn Gymraeg a/neu yn Saesneg. Mae Golygyddion y Cylchgrawn yn awyddus i glywed gan ymchwilwyr ac ymarferwyr sydd â chyfraniadau i’w gwneud – cysylltwch drwy ein cydweithiwr, Chris Richards, i gael rhagor o wybodaeth (chris.richards@press.wales.ac.uk), neu edrychwch ar dudalen Cylchgrawn Addysg Cymru.

Ac mae mwy o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill…

  • Yn ddiweddarach y mis hwn (Mai 2020), caiff y rhifyn dwyieithog Mynediad Agored cyntaf ei gyhoeddi. Mae hwn yn rhifyn mawr arbennig ar Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon fydd ar gael yn ddigidol (mynediad am ddim) a bydd fersiwn papur ar gael i’w brynu.
  • Dros yr wythnosau nesaf, caiff ein Bwrdd Golygyddol, corff hanfodol i gefnogi’r cylchgrawn, ei gyhoeddi. Yn fuan ar ôl hynny, caiff ein Bwrdd Ymgynghorol ei gyhoeddi.
  • Cadwch olwg am ragor o wybodaeth am yr elfennau yn y cylchgrawn sydd dan arweiniad ymarferwyr. Byddem yn falch iawn i glywed gan unrhyw un a hoffai ragor o wybodaeth am y cyfeiriad newydd cyffrous hwn.

Cysylltwch â ni drwy:

https://www.gwasgprifysgolcymru.org/
https://twitter.com/GwasgPrifCymru
https://www.facebook.com/gwasgprifysgol.cymru

Natalie Williams, Cyfarwyddwraig