Rhwng 28 Ebill–2 Mai, mynychodd Rheolwraig Gwerthiant a Marchnata’r Wasg, Eleri Lloyd-Cresci, Gynhadledd Gwerthiant Gwasg Prifysgol Chicago (UCP) ar gyfer Hydref 2015.

Mae UCP yn dosbarthu llyfrau ar ein rhan yng Ngogledd a De America, Awstralia a Seland Newydd. UCP yw gwasg fwyaf ac un oweisg prifysgol hynaf yr Unol Daleithiau.

Cynhelir dwy gynhadledd werthiant yn flynyddol i gyhoeddwyr gyflwyno cyhoeddiadau arfaethediggerbron tîm gwerthiant UCP.

Rydym yn edrych ymlaen at weld cyhoeddiadau Gwasg Prifysgol Cymru yng nghatalog UCP ar gyfer yr Hydref!