Tra bod llawer o academyddion yn mwynhau eu gwyliau haf dros y moroedd, mae cwmwl ar ffurf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf yn prysur agosáu i’r lan.

O gymryd y bydd yr amserlen yn dilyn un REF 2014, byddwn yn anelu i gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion ar gyfer REF 2020 erbyn Medi 2019 – pedair blynedd yn unig i ffwrdd! Fel gwasg academaidd rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau REF o ddifrif, ac yn sylweddoli pa mor bwysig ydyw fod llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion yn cael eu cyhoeddi cyn y dyddiad cyfrifiad, sef y 31ain o Hydref yn achos REF 2014.

Rydym yn falch i chwarae rhan yn y digwyddiad hanfodol hwn o fewn bywyd academaidd ym Mhrydain, a byddwn yn gwneud popeth gallwn i gyhoeddi’r gweithiau perthnasol ar amser. Ond mae hyn yn ddibynnol ar gynllunio gofalus a chydweithrediad awduron. Mae’n bosib wrth gwrs eich bod ar ben ffordd eisoes o ran eich gofynion REF, ond os nad ydych, fe fyddwn yn eich annog i ddechrau’r broses heb unrhyw oedi pellach. Cofiwch fod angen ichi ysgrifennu cais, ei gyflwyno, ac i’r cais hwnnw wedyn fynd trwy brosesau comisiynu arferol GPC cyn bod y gwaith anoddach o ysgrifennu a chymhenni’r deipysgrif yn dechrau. Fe fydd eich gwaith yn cael ei adolygu yn ei gyfanrwydd, gyda chyfnod ychwanegol wedi’i gynnwys yn yr amserlen er mwyn gwneud unrhyw newidiadau a argymhellwyd yn yr adolygiad, cyn i’r broses o gynhyrchu’r llyfr ei hun gychwyn. Yn gyffredin â’r gweisg academaidd eraill, fe fyddwn yn gofyn i awduron gyflwyno eu gwaith yn gyflymach nag arfer – nid yw hyn yn golygu ei fod yn cymryd yn hirach o reidrwydd inni gyhoeddi llyfr, ond fe fyddwn yn wynebu toreth o gyhoeddiadau i’w paratoi ar gyfer yr un dyddiad, a bydd hyn yn rhoi pwysau mawr ar bawb yn y gadwyn gynhyrchu: awduron, penaethiaid adran, staff GPC a’n golygyddion copi llaw rydd, prawf ddarllenwyr, cynllunwyr cloriau ac argraffwyr.

Felly y wers yw i gyflwyno eich teipysgrifau yn gynnar: i gadw ni a’ch cyfarwdyddwr ymchwil yn hapus!

Yn naturiol, ni allwn drafod REF heb grybwyll Mynediad Agored. Cyhoeddodd cyrff addysg uwch y DU bolisi newydd ym Mawrth 2014 ar gyfer y REF wedi 2014:  fe fydd Mynediad Agored yn rheidrwydd ar gyfer deunydd a dderbynnir ar ôl Ebrill 2016 (erthyglau mewn cyfnodolion a thrafodion cynadleddau, nid monograffau a chyfrolau wedi’u golygu): naill ai Aur, hynny yw Mynediad Agored yn syth ar ôl cyhoeddi trwy Daliad Prosesu Awdur (Author Processing Charge); neu Wyrdd, trwy adnau mewn llyfrgelloedd prifysgolion, gyda chyfnod embargo. Mae hyn yn cydnabod efallai y bydd angen i sefydliadau ddechrau sustemau newydd er mwyn gweithredu’r polisi; serch hynny, bydd angen i ddeunydd a dderbynnir ar ol y 1af o Ebrill 2017 gael eu adnau o fewn 3 mis i’w dderbyn. Gwelwch www.hefcw.ac.uk ar gyfer mwy o fanylion.