Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf Prifysgol Caer ar Gymru a’r Mers, Contest and Collaboration, Chester Conference on the March of Wales, yn ystod Ebrill. Roedd y gynulleidfa o dros gant a fynychodd y diwrnod yn dyst i’r diddordeb cyfredol yn hanes Cymru a’r Mers yn y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar ymhlith haneswyr ac aelodau o’r cyhoedd. Cyflwynwyd deg o bapurau difyr a dadlennol yn y gynhadledd ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â’r Mers, gan gynnwys: enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yn yr ardal; y farddoniaeth mawl a ysgrifennwyd i glodfori arglwyddi blaenllaw fel Syr William Herbert yn y bymthegfed ganrif; y gyfraith yn y Mers; ac addurniadau a phensaernïaeth eglwysig yn y Mers. Roedd haneswyr a beirniaid llenyddol blaenllaw a disglair fel Yr Athro Helen Fulton a Dr David Stephenson ymysg y siaradwyr. Cyflwynodd Dr Sue Niebrzydowski bapur diddorol tu hwnt ar fersiwn yn y Gymraeg o’r unfed ganrif ar bymtheg o ddrama Troelus a Chresyd, stori a addaswyd yn Saesneg gan Shakespeare yn yr un cyfnod. Trefnwyd y gynhadledd gan Dr Sara Elin Roberts a Dr Rachel Swallow o Brifysgol Caer, ac o’r drafodaeth fywiog a ddilynodd pob sesiwn o bapurau gellir dyfarnu’n sicr ei fod wedi profi’n llwyddiant ysgubol.

Llion Wigley