Gan Rhianedd Jewell, awdur Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Pan es i am gyfweliad i astudio Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen, rhoddwyd dau fersiwn o’r un testun imi eu darllen ymlaen llaw: y naill yn y Ffrangeg a’r llall yn y Saesneg. Roedd yn rhaid imi benderfynu pa un oedd y gwreiddiol a pha un oedd y cyfieithiad. Darganfyddais yn y pen draw mai darnau gan Samuel Beckett oedd y ddau ac felly, mewn ffordd, doedd dim ateb cywir i’r cwestiwn hwn gan fod Beckett wedi ailysgrifennu nifer o’i weithiau ei hun yn y ddwy iaith. Nid cyfieithiadau oedden nhw mewn gwirionedd, ond testunau newydd. Dydw i ddim yn cofio pa un y dewisais i, ond rwy’n gwybod fy mod wedi newid fy meddwl wrth drafod y pwnc yn ystod y cyfweliad, a dyma oedd dechrau fy niddordeb mewn astudiaethau cyfieithu – ac, mewn ffordd, dechrau’r prosiect hwn. Yn fy mlwyddyn olaf ar y cwrs, dywedodd yr un darlithydd wrthyf fod Saunders Lewis wedi cyfieithu drama enwocaf Beckett i’r Gymraeg, a lluniais astudiaeth o’r cyfieithiad Wrth Aros Godot ar gyfer fy nhraethawd estynedig. Dyma agor drws ar agwedd hollol newydd i’r dramodydd, gwleidydd ac awdur a oedd eisoes mor adnabyddus yng Nghymru, a theimlais reidrwydd arnaf i ddatblygu’r gwaith ymhellach.

Er mai Doctor er ei Waethaf, drama Molière, yw’r unig gyfieithiad cyflawn arall a luniodd Saunders, wrth ymchwilio gwelais fod cyfieithu ac addasu yn ffurfio rhan hanfodol bwysig o’i ddatblygiad fel llenor ac fel unigolyn. Mae ei ddiddordeb yn niwylliant a llenyddiaeth Ffrainc yn ganolog i hyn, wrth gwrs, ac mae dylanwad ei waith darllen yn y Ffrangeg i’w weld drwy lawer o’i waith ysgrifennu gwreiddiol. Ond am hynny, mae hi’n anodd iawn tynnu llinell daclus rhwng gwaith ‘gwreiddiol’ Saunders a’i waith cyfieithu ac addasu. Mae’r gyfrol hon yn archwilio pwysigrwydd cyfieithu i Saunders ac i’r theatr Gymraeg, ac mae’n ystyried cwestiynau am y ffin aneglur sy’n bodoli rhwng cyfieithu a chyfansoddi. I ba raddau, tybed, y byddwn i wedi baglu mewn cyfweliad wrth dderbyn cyfieithiad gan Saunders Lewis? Un peth sy’n sicr yw bod Saunders y cyfieithydd yn haeddu sylw’r gynulleidfa Gymraeg.

Ieithydd ac academydd yw Rhianedd Jewell. Mae ei chefndir ym maes ieithoedd modern, ac mae hi’n darlithio mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Os hoffech brynu’r gyfrol hon, ewch i dudalen y llyfr yma: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/her-a-hawl-cyfieithu-dramau-paperback/ 

-
+

Stondin Rithiol Cynhadledd IMC Leeds

Manteisiwch ar hyd at 50% oddi ar ein llyfrau astudiaethau canoloesol!