gan Rhiannon Heledd Williams, awdur Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad?

Pennod goll yn hanes Cymru yw’r un am y Cymry a ymfudodd i Ogledd America yn y 19eg ganrif. Erbyn 1850, credir bod tua 30,000 o Gymry wedi ymgartrefu ar y cyfandir – mwy o lawer nag i Batagonia – er i’r Wladfa ennyn llawer mwy o sylw. Nid yw’n syndod felly iddynt sefydlu papurau a chylchgronau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cynefin newydd. Mae’r gyfrol hon yn edrych ar hunaniaeth rhai o’r cymunedau hynny drwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Yn y penodau sy’n trafod crefydd, gwleidyddiaeth, iaith, llenyddiaeth a diwylliant, edrychir ar oes aur y cyfnodolion rhwng 1838 ac 1866.  Yn y cyfnod hwn, roedd y wasg brint yn gyfrwng cyfathrebu allweddol, ac yn rhoi llwyfan i’r Cymry drafod pynciau’r dydd yn eu mamiaith.

Sefydlwyd Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn Efrog Newydd yn 1838 gan Fethodist Calfinaidd o’r enw William Rowlands, a goroesodd yn rhyfeddol tan 1933. Dyma’r ymgais gyntaf o ddifrif i greu cylchgrawn a fyddai’n gwasanaethu’r Cymry ar hyd ac ar led America. Teimlais ei bod yn bwysig rhoi hanes yr arloeswr hwn a chymwynaswr mawr i draddodiad llenyddol Cymraeg America ar gof a chadw. Edrychir hefyd ar gylchgronau eraill megis y Cenhadwr, y Seren a’r Drych, gan gymharu profiad yr ymfudwyr gyda newyddiaduraeth Cymru o bryd i’w gilydd.

Wrth ymchwilio i hanes Cymry America ar gyfer fy noethuriaeth ym mhrifysgol Bangor, sylweddolais fod cyfoeth aruthrol yn llechu’n y ffynonellau cynradd hyn gan eu bod yn fynegiant cryf o genedligrwydd eu cynulleidfa. Wedi imi dderbyn ysgoloriaeth i dreulio cyfnod ym mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau, cefais gyfle i bori rhagor yn y cylchgronau Cymraeg yn y llyfrgelloedd yno. Des i ddeall sut yr oedd y deunydd hwn yn cynrychioli ffordd o fyw a safbwyntiau’r darllenwyr a’r cyfranwyr. Teithiais o amgylch rhai o’r sefydliadau gynt, a sylweddoli bod cymdeithasau Cymreig ledled y cyfandir yn ffynnu wrth i ddisgynyddion Cymry America ddathlu eu gwreiddiau.

Dyma gyfle felly i ninnau ddysgu am eu hanes hwythau, ac am y wasg Gymraeg a wasanaethodd y Cymry yn eu gwlad fabwysiedig fel rhan bwysig o’n hetifeddiaeth lenyddol.

Mae Rhiannon Williams yn ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Harvard yn ymchwilio ac yn ymddiddori ym maes ymchwil Cymry America a Chymraeg proffesiynol/byd gwaith.