Mae Prifysgol Cymru yn falch iawn i gyhoeddi bod Natalie Williams wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr newydd ar Wasg Prifysgol Cymru.

Ganwyd a magwyd Natalie yng Nghaerdydd, a daw â dealltwriaeth eang o’r byd cyhoeddi i’r rôl. Graddiodd ag Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Southampton, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen. Yna symudodd i Nelson Thornes, lle bu’n Uwch Gyhoeddwr yn gyfrifol am y portffolio Mathemateg uwchradd a strategaeth gyhoeddi’r DU. Ers tair blynedd, mae Natalie wedi bod yn rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun, gan weithio i gyhoeddwyr gan gynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Hodder Education, Pearson Education a HarperCollins, yn ogystal ag ymgymryd â Gradd Meistr Gweithredol mewn Gweinyddiaeth Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sefydlwyd Gwasg Prifysgol Cymru yn 1922, ac mae iddi draddodiad balch o wasanaethu Cymru a’i phrifysgolion gyda chyhoeddiadau ysgolheigaidd rhagorol yn Gymraeg a Saesneg sy’n datblygu gwybodaeth ac yn ysbrydoli ysgolheigion a myfyrwyr. Mae gan y Wasg ymrwymiad creiddiol i gefnogi a lledaenu ysgolheictod o Gymru ac am Gymru i gynulleidfa fyd-eang.

Ers iddi gael ei sefydlu, mae’r Wasg wedi cyhoeddi dros 3,500 o deitlau, ac ar hyn o bryd mae’n cyhoeddi oddeutu 50 teitl y flwyddyn, yn bennaf ym meysydd astudiaethau Ewropeaidd, athroniaeth, llenyddiaeth, hanes, ac astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Ers 2009, mae rhestr cyhoeddi e-lyfrau cyfredol y Wasg wedi codi i oddeutu 300 o olygiadau digidol.

Dros y blynyddoedd, bu’r Wasg yn gyfrifol am gynhyrchu cyfeirlyfrau pwysig yn Gymraeg a Saesneg, ac ymhlith y mwyaf nodedig mae Geiriadur yr Academi (1995), y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1998), a chyflawniad ysgubol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008).

Wrth sôn am ei swydd newydd, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill, dywedodd Natalie:

“Rwy’n eithriadol falch i fod yn ymuno â Gwasg Prifysgol Cymru fel Cyfarwyddwr, ac yn falch iawn i gael y cyfle i arwain sefydliad sydd â threftadaeth a hanes Cymru’n graidd iddo. Mae’r Wasg yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a diogelu iaith, cymuned, diwylliant ac ymchwil Cymru, ac mae’n anrhydedd i mi gael ymuno â fy nghyd-eiriolwyr yn y gymuned Gymraeg i ddatblygu’r genhadaeth hon. Mae hwn yn gyfnod o newid o fewn prifysgolion a chyhoeddi, sy’n gosod heriau ond sydd hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i’r Wasg. Gan weithio gyda thîm angerddol ac ymroddgar, rwyf yn edrych ymlaen at barhau a thyfu rhagoriaeth addysgol y Wasg gartref a thramor.”

Mae’r Wasg mewn sefyllfa unigryw fel yr unig wasg academaidd ddim-er-elw yng Nghymru, a gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru mae wedi parhau’n driw i’w chenhadaeth wreiddiol.

Wrth groesawu Natalie i Wasg Prifysgol Cymru, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Medwin Hughes:

“Rwyf i’n falch iawn i groesawu Natalie i’r swydd hon ar ran y Brifysgol a’i chydweithwyr newydd i gyd. Dros y ganrif ddiwethaf, mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi darparu llwyfan i feddylwyr blaenllaw Cymru ac wedi cyfrannu at adeiladu Cymru fodern. Mae ei rôl yn datblygu dealltwriaeth o ddiwylliant, hanes, treftadaeth, iaith a gwleidyddiaeth unigryw Cymru’n hanfodol.”

Ychwanegodd Mr Tony Ball, Cadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru ac aelod o Gyngor y Brifysgol:

“Mae Natalie yn ymuno â Gwasg Prifysgol Cymru ar adeg gyffrous iawn. Yn ogystal â chryfhau ei henw da yn fyd-eang am gyhoeddi academaidd, bydd Natalie yn edrych am feysydd newydd yn dilyn uno Prifysgol Cymru â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn ogystal, bydd paratoadau’n dechrau i ddathlu canmlwyddiant arfaethedig y Wasg. Rydym yn hyderus ym mhrofiad Natalie, ac y bydd hi’n gaffaeliad mawr i arwain y Wasg dros y blynyddoedd nesaf.”