Mae canlyniadau Prosiect Monograffau a Mynediad Agored Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, a arweiniwyd gan Yr Athro Geoffrey Cossick, wedi cael eu cyhoeddi wythnos diwethaf. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ac amserol i’r drafodaeth ar Fynediad Agored yn y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn cydnabod yr her a’r cyfleoedd posib mae Mynediad Agored yn cynnig. Caiff monograffau eu cydnabod fel rhan hanfodol bwysig o gyfathrebu ysgolheigaidd, ac mae’r adroddiad yn pwysleisio bod cael fersiwn printiedig o fonograff ar gael, yn ogystal â fersiwn ddigidol, yn hollbwysig. Cydnabyddir fod gan Fynediad Agored gryn dipyn i’w gynnig o ran cynyddu effaith monograffau, ond cynghorir gofal mewn sawl maes, yn cynnwys trwyddedu, hawliau trydydd parti, ystyriaethau polisi a’r angen am fodel busnes cynaliadwy. Trafodir rôl materoldeb y llyfr corfforol a chryfderau canfyddedig y fersiwn brint yn yr adroddiad hefyd. Mae’r adroddiad yn crynhoi ei chasgliadau ynghyd er budd i’r darllenydd, ac yn gwneud darllen delfrydol i unrhyw un sy’n dymuno deall y drafodaeth gymhleth o amgylch Mynediad Agored, a’r cyfleoedd posib yn ogystal â’r her mae’n cynnig. Bydd Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Lloegr yn ystyried argymhellion yr adroddiad, gan gydnabod y dylai unrhyw gam tuag at bolisïau ar fonograffau Mynediad Agored gael eu cymryd trwy broses drylwyr o drafod ac ymgynghori. Gellir darllen yr adroddiad llawn trwy wefan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr: http://www.hefce.ac.uk/pubs/rereports/year/2015/monographs/

Sarah Lewis a Llion Wigley