Rydym yn hynd o falch i gyhoeddi’r Bwrdd Ymghynghorol newydd ar gyfer Cylchgrawn Addysg Cymru. Ffurfir y Bwrdd Ymgynghorol o gynrychiolwyr allweddol ar hyd y sector addysg yng Nghymru, a byddant yn chwarae rhan bwysig mewn eirioli ar ran y Cylchgrawn yn ei gyfnod Mynediad Agored newydd, gan ymwneud yn agos â chyfeiriad y Cylchgrawn er mwyn hybu ei dyfiant a lledaenu ei gynulleidfa yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth yr aelodau canlynol o’r Bwrdd:
- Sally Llewellyn, ERW
- Ruth Thackray, GWE
- Louise Muteham, Consortiwm Canolbarth y De
- James Kent, Gwasanaeth Cyflawni Addysg
- Jassa Scott, Estyn
- Hayden Llewellyn, Cyngor y Gweithlu Addysg
- Chris Lewis, Yr Academi Genedlaethol ar Gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
- Tom Anderson, Cymwysterau Cymru
- Sally Power, WISERD
- Rachel Bowen, Colegau Cymru
- Alyson Thomas, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Ioan Matthews, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Dr John Graystone
- Dr Russell Grigg
- Anne Keane
- Yr Athro David Reynolds
- Alwyn Ward, Partneriaeth AGA Aberystwyth
- Jeremy Griffiths, CaBan
- Anna Bryant, Partneriaeth Caerdydd
- Sarah Stewart, Partneriaeth y Brifysgol Agored
- Lisa Taylor, Prifysgol De Cymru
- Helen Lewis, Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe
- Anna Brychan, Yr Athrofa
Mae Cylchgrawn Addysgu Cymru yn gyhoeddiad Mynediad Agored platinwm llawn, sy’n golygu ei fod ar gael i’w ddarllen yn rhad ac am ddim ledled y byd, heb unrhyw danysgrifiadau a heb ofyn i’r awduron wneud taliadau. Mae’r Cylchgrawn yn gwbl ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg, gyda dau rifyn yn cael eu cyhoeddi yn flynyddol. Gellir darllen y rhifyn mwyaf diweddar trwy’r ddolen hon: https://doi.org/10.16922/wje.22.2