Gan Rowland Wynne, awdur Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom

Un bore, tra ar wyliau yn Copenhagen, penderfynodd ffrind a minne osgoi llwybrau poblogaidd y twristiaid ac ymweld ag archif ym mhrifysgol y brifddinas. I’r rhai sy’n ymddiddori mewn gwyddoniaeth, mae’r archif yn Copenhagen yn un hynod iawn oherwydd ei bod yn gartref i bapurau a gohebiaeth y cawr o ffisegydd Niels Bohr, hwn a fu’n un o arweinwyr y chwyldro ddigwyddodd yn ystod degawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf ym myd ffiseg. Clywsom i Niels Bohr ohebu gyda thri Cymro, a buom yn ddigon ffodus i gael gweld y llythyron. O’r tri Cymro, roedd gohebiaeth un ohonynt gryn dipyn yn fwy swmpus na’r ddau arall, a hynny oherwydd iddo dreulio blwyddyn gyfan yn gweithio gyda Bohr yn y brifysgol yn Copenhagen. Ei enw oedd Evan James Williams – a’r bore hwnnw i mi oedd dechrau’r daith a arweiniodd at gyhoeddi’r cofiant ohono eleni.

Pwy oedd Evan James Williams? Yn ôl Syr John Meurig Thomas, y cemegydd enwog o Gymro, E. J. Williams oedd un o’r bobl mwyaf galluog a gynhyrchodd Cymru erioed – a hawdd deall hynny o ddod i wybod am ei yrfa. Yn ystod y 1920au a’r 1930au, bu’n gweithio  gyda rhai o brif ffisegwyr y cyfnod, a daeth yn arbenigwr rhyngwladol ar wrthdrawiadau atomig. Trwy ei allu fel damcaniaethwr ac arbrofwr bu ar flaen y gad yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd, cam hollbwysig yn natblygiad syniadau ynghylch y grymoedd sydd y tu mewn i’r nwiclews. Yna, ym 1940, fe’i gwahoddwyd i ymuno yn yr ymgyrch ryfel i wrthsefyll bygythiadau llongau tanfor yr Almaen. Yn wahanol i ymchwil  sylfaenol y ffisegydd, ei gyfrifoldeb adeg y rhyfel oedd datblygu strategaethau ar gyfer ymosod ar y llongau tanfor trwy gyfrwng dulliau ystadegol. O ganlyniad, daeth yn un o arloeswyr cynnar gwyddor ymchwil gweithredol (operational research). Llwyddwyd i orchfygu’r llongau tanfor ond, ag yntau ar fin ailgydio yn ei waith ymchwil ar ddiwedd y rhyfel, cafodd ei daro’n wael a bu farw yn ddwy a deugain mlwydd oed.

Yn ymhlyg â stori E. J. Williams mae cyffro’r cyfnod a’r newidiadau pellgyrhaeddol oedd ar droed ym myd ffiseg, a’r cymeriadau hynod a symbylodd y cyffro hwnnw. Mae’r cofiant yma iddo nawr yn gyfle i ddathlu bywyd athrylith o Gymro o gefn gwlad Ceredigion, crwt direidus, gŵr bywiog a hoffus ac un a arhosodd yn driw i’w fro a’i febyd.

Mae Rowland Wynne yn ysgolhaig annibynnol gyda chefndir mewn ffiseg. Sbardunwyd ei ddiddordeb yn Evan James Williams gan ymweliad ag Archif Niels Bohr ym Mhrifysgol Copenhagen.

Os hoffech brynu’r gyfrol hon, ewch i dudalen y llyfr yma: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/evan-james-williams-paperback/