Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi cyfnodolyn rhyngddisgyblaethol newydd, The Journal of Religious History, Literature and Culture, o 2015 ymlaen. Bydd y cyfnodolyn, sy’n olynu The Welsh Journal of Religious History a Trivium, yn cynnwys erthyglau ar bob agwedd o hanes, llenyddiaeth a diwylliant crefyddau o bob rhan o’r byd. Saesneg bydd iaith y cyfnodolyn, a bydd yn ymddangos ddwywaith y flwyddyn fel un rhifyn arferol ac un
rhifyn thema.

Nod y cyfnodolyn yw i drafod yr agweddau hynny o ddiwylliant crefyddol sy’n goleuo ac yn enghreifftio syniadau ac arferion crefyddol. Mae’r golygyddion yn awyddus i gyhoeddi erthyglau sy’n ymdrin â’r modd y mae hanes, crefydd a diwylliant yn rhyngweithio; croesewir hefyd erthyglau sy’n ymdrin â hanes, llenyddiaeth neu ddiwylliant crefyddol ar wahân.

Mae’r weledigaeth olygyddol o hanes, llenyddiaeth a diwylliant crefyddol yn eang ac yn cynnwys agweddau ar gelf, pensaernïaeth, diwylliant materol, a hanes pob cyfnod a llenyddiaeth yng nghyfoeth eu hamrywiaethau, wrth fynd i’r afael â ‘chrefydd’ a phob math o fynegiad crefyddol yn y modd mwyaf cynhwysfawr. Bydd y cyfnodolyn hefyd yn cynnwys adolygiadau o lyfrau.

Bydd y cyfnodolyn wedi’i adolygu’n llawn gan gymheiriaid, a bydd ar gael fel fersiwn print ac ar-lein (via Ingenta).

Cyhoeddir y rhifyn cyntaf o The Journal of Religious History, Literature and Culture yn ystod haf 2015, gyda rhifyn thema i ddilyn yn ystod hydref 2015.

ISSN print 2057 4517 ISSN ar-lein 2057 4525

Mae’r prisiau canlynol ar gyfer y ddau rifyn i’w cyhoeddi’n flynyddol, sef rhifyn arferol y cyfnodolyn a’r rhifyn thema:

Sefydliadau:                   Unigolion:
Print yn unig £95          Print yn unig £25
Ar-lein yn unig £85      Ar-lein yn unig £20
Y ddau £140                    Y ddau £40

Er mwyn tanysgrifio, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Turpin
+44 (0) 1767 604 4951 • custserv@turpin-distribution.com

Golygydd Cynorthwyol:
Dr Thomas Smith, Ludwig-Maxmillians-Universität München

Golygydd Adolygiadau :
Dr Nicky Tsougarakis, Prifysgol Edge Hill

Bwrdd Golygyddol:
Yr Athro David Bebbington, Prifysgol Stirling
Yr Athro Stewart J. Brown, Prifysgol Caeredin
Dr James J. Caudle, Prifysgol Yale
Dr Robert G. Ingram, Prifysgol Ohio
Yr Athro Geraint H. Jenkins, Prifysgol Aberystwyth
Dr David Ceri Jones, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro J. Gwynfor Jones, Prifysgol Caerdydd
Dr Frances Knight, Prifysgol Nottingam
Yr Athro Kenneth E. Roxburgh, Prifysgol Samford
Dr Robert Pope, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Yr Athro Huw Pryce, Prifysgol Bangor
Y Gwir Barchedig ac Anrhydeddus Arglwydd Williams Ystumllwynarth, Coleg Fair Fadlen, Caergrawnt
Yr Athro Jonathan Wooding, Prifysgol Sydney
Dr Eryn M. White, Prifysgol Aberystwyth

Dylai awduron sydd â diddordeb mewn cyfrannu i’r cyfnodolyn anfon eu herthyglau at un o’r golygyddion:
Yr Athro William Gibson: wgibson@brookes.ac.uk
Dr John Morgan-Guy: j.morgan-guy@tsd.uwtsd.ac.uk