Cymraeg yn y Gweithle gan Rhiannon Heledd Williams

Gan Rhiannon Heledd Williams, awdur Cymraeg yn y Gweithle.

Pan astudiais i am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dros ddegawd yn ôl, doedd dim sôn am ‘Gymraeg Proffesiynol’ na ‘Chymraeg yn y gweithle.’ Roedd yr un peth yn wir am brifysgolion eraill yng Nghymru. Ond yn y blynyddoedd diweddar, wrth i adrannau wynebu argyfwng recriwtio myfyrwyr i astudio’r Gymraeg fel pwnc gradd, enillodd y teitlau hyn eu plwyf wrth i’r trywydd newydd ddod yn rhan annatod o’r ddisgyblaeth.

Defnyddiwyd y term yn wreiddiol gan brifysgol Morgannwg ychydig flynyddoedd yn ôl wrth sefydlu cwrs ‘Cymraeg Proffesiynol’ yn canolbwyntio ar Gymraeg cyfoes mewn cyd-destun galwedigaethol. Ei fwriad oedd arfogi myfyrwyr â sgiliau cyflogadwyedd, o ystyried y galw cynyddol am unigolion dwyieithog a allai ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol. Dyma’r cwrs a etifeddais gan fy rhagflaenydd wrth fy mhenodi’n ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru maes o law. Gyda Phrifysgol Aberystwyth yn sefydlu cwrs ‘Cymraeg Proffesiynol’ hefyd, penderfynwyd y dylem ddilysu cwrs newydd sbon yn dwyn y teitl ‘Cymraeg yn y gweithle.’ Yn yr un modd, ei nod oedd paratoi myfyrwyr at y byd gwaith trwy ddatblygu sgiliau iaith ymarferol. Fodd bynnag, wrth imi ddechrau llunio maes llafur ar gyfer y gwahanol fodiwlau, buan y sylweddolais mai prin iawn oedd yr adnoddau yn y maes hwn ac, yn sgil strategaethau iaith Llywodraeth Cymru a’r safonau iaith, credais felly bod angen llawlyfr yn cynnig canllawiau iaith a fyddai’n cyd-fynd â’r twf mewn swyddi yn gofyn am sgiliau dwyieithog.

Prif nod y gyfrol yw dangos bod y Gymraeg yn hyfyw ac yn addas i’w defnyddio mewn ystod eang o swyddi. Wedi’r cwbl, mae hyd yn oed siaradwyr Cymraeg cynhenid weithiau’n dioddef o ddiffyg hyder gyda Chymraeg ffurfiol. Rwy’n nabod sawl un sy’n dweud pethau fel ‘Mae’n rhaid imi ddarllen y llythyr yma’n Saesneg achos dw i ddim yn ei ddeall yn Gymraeg.’ O’r herwydd, teimlais fod angen cyfrol i ddangos y Gymraeg fel endid deinamig y gellir ei defnyddio mewn sefyllfaoedd a sectorau amrywiol. Roedd ymchwil gyda chyflogwyr hefyd yn awgrymu bod graddedigion yn aml yn dechrau eu gyrfaoedd heb y sgiliau priodol. Y gobaith yw y bydd y gyfrol yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i gyflogwyr, megis dadansoddi, cyfathrebu, gweithio’n annibynnol a chydweithio. Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfarwyddiadau, tasgau, pwyntiau trafod ac enghreifftiau mewn penodau sy’n edrych ar y broses recriwtio, y byd gwaith ac ymarfer proffesiynol.

Mae Rhiannon Heledd Williams yn Arbenigwraig Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin. Hi yw awdur y gyfrol Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad? a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.