gan Noel A. Davies a T. Hefin Jones, awduron Cristnogaeth a Gwyddoniaeth
Noel A. Davies
Fy wythnos gyntaf yn Ysgol Ramadeg Llambed. Ar yr amserlen: ‘science’. A doeddwn i ddim wedi clywed y gair o’r blaen! Mynd i’r wers gynta (ffiseg, os wy’n cofio’n iawn). Ffeindio’r cyfan braidd yn annisgwyl, ond roeddwn yn dda mewn mathemateg ac felly fe lwyddais i fynd i’r afael â’r pynciau newydd hyn yn raddol bach. Dilyn llwybr gwyddonol drwy’r cwricwlwm ar gyfer lefel ‘O’ a lefel ‘A’ wedi symud i Ysgol Ramadeg y Garw, ym Mhontycymer, a chael y dasg mewn gwers Swoleg o ddadlau – braidd yn anfoddog – dros stori’r creu yn Genesis ac yn erbyn Damcaniaeth Esblygiad Darwin! Dyna ddechre arni!
Yna mynd i Fangor i astudio Cemeg, gyda Biocemeg a Gwyddor y Pridd. Tra yno, ymdeimlo â galwad i’r weinidogaeth Gristnogol, a derbyn cyfarwyddyd cadarn iawn gan y Prifathro Gwilym Bowyer mai glynu at y pynciau gwyddonol y dylwn wneud gan fod angen gweinidogion, meddai’r Prifathro, a fyddai’n deall y meddwl gwyddonol cyfoes.
Wedi graddio ym Mangor, mynd i Goleg Mansfield yn Rhydychen i astudio Diwinyddiaeth, ac yn ystod fy ail flwyddyn dilyn cwrs ar ‘Contemporary Problems of Christian Belief’, cwrs yn canolbwyntio’n bennaf ar gwestiynau athronyddol a gwyddonol canol y 1960au.
Felly, bu’r berthynas rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth yn y cefndir ar hyd y blynyddoedd, er imi deimlo nad oeddwn yn rhoi cymaint o sylw ag y dylwn i’r materion hyn yn fy mhregethu a’m haddysgu. Y ddau sbardun pennaf i gywiro hyn oedd gwahoddiadau yn 1998 gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin (drwy Tom Evans) ac yn 2000 gan Brifysgol Caerdydd (drwy’r Athro Paul Ballard) i ddysgu cyrsiau ar yr union bynciau – felly gorfod meddwl yn fwy trefnus a deallus, darllen yn ehangach (a darganfod prinder affwysol deunydd Cymraeg ar y pwnc) a cheisio gosod trefn ar fy meddwl fy hun. Gwahoddais Hefin Jones i gyfrannu at y cyrsiau hyn, a dyma eni’r syniad am y gyfrol hon. Yn gefndir i’r cyfan y mae’r ymwybyddiaeth fod llawer iawn o’r ysgrifennu a’r dadlau cyhoeddus am Gristnogaeth a gwyddoniaeth yn dangos diffyg gwybodaeth am wyddoniaeth ar y naill law, ac am ddiwinyddiaeth Gristnogol ar y llall. Ar un olwg, mae’r penodau sy’n trafod agweddau diwinyddol ar bynciau gwyddonol yn arwain at y bennod olaf, ‘Credwn yn Nuw’, a hynny er mwyn ceisio ateb y cwestiwn, nid yn gymaint ‘A ellir credu yn Nuw heddiw?’, ond ‘Beth mae’n ei olygu i gyffesu “Credwn yn Nuw” heddiw?’ Gobeithio y bydd y gyfrol bresennol yn gyfraniad at drafodaeth ddeallus ac at y dystiolaeth Gristnogol yn y Gymru Gymraeg gyfoes.
Mae Noel A. Davies yn academydd a diwinydd sydd bellach wedi ymddeol.
T. Hefin Jones
‘Pam wyt ti am wneud yr hen science ’na?’ Wncwl Defi (er nad oedd yn ewythr go iawn i mi!), un o aelodau hŷn a hoelion wyth Eglwys y Tabernacl, Pencader, ofynnodd hyn i mi nôl yn 1975, wrth i mi ddewis fy nhestunau Lefel O. Dyna, mae’n debyg, oedd y tro cyntaf i mi wynebu’r amheuaeth sydd wedi bodoli dros y degawdau rhwng gwyddoniaeth a Christnogaeth. Blodeuodd hyn yn y cyfnod wedi i Charles Darwin gyhoeddi ei Origins of the Species yn 1859. O ran magwraeth, bûm yn hynod ffodus – rhieni oedd yn arddel y Ffydd, ac am ei throsglwyddo i Bethan, fy chwaer, a minnau. ‘Pobl y tir’ oeddent, yn ymhyfrydu yn y byd o’n cwmpas ac am i ni holi a deall sut roedd pethau yn gweithio. Fe’m cefnogwyd felly, gant y cant, i ddilyn trywydd fy niddordeb. O dan athrawon ymroddedig gwyddonol yn Ysgol Ramadeg Llandysul, ac o dan weinidogaeth ysbrydoledig y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn y Tabernacl, ffurfiwyd cyw wyddonydd (sŵolegydd, fel mae’n digwydd) a fentrai ddadlau yn nosbarth ieuenctid bore Sadwrn Guto Prys nad oedd yna ddim byd yn rhyfedd mewn credu tra hefyd arbrofi. Yng Ngholeg y Brenin, bu i’r ymdeimlad nad oedd yna mewn gwirionedd frwydr rhwng y ddwy garfan (y gwyddorau a chrefydd) aeddfedu, a buan gwawriodd y sylweddoliad mai dwy ffenestr oeddynt, y naill fel y llall yn fodd i geisio deall y byd a’r bydysawd yr ydym yn rhan ohonynt. Mawr fy nyled i ddau o’m darlithwyr, Dr Gillian Sales a Dr Bryan Turner, am eu hamynedd. Dau Gristion sŵolegol a fu’n barod iawn i sôn am eu profiadau a’u deall o’r berthynas rhwng y ddau ‘gredo’. Nid heb ei ddylanwad bu dilyn, yng Ngholeg y Brenin, fy nghwrs gradd a diploma’r AKC o dan adain Adran Ddiwinyddiaeth y Coleg.
Do, bu yna gyfnodau digon anodd. Cofiaf droi ar ddiwedd oedfa yng nghapel Coleg y Brenin at y Deon, y Parchedig Richard Harries, Esgob Rhydychen yn ddiweddarach a’r Barwn Harries o Bentregarth erbyn hyn, ar ôl clywed y Dr Richard Dawkins (fel yr oedd bryd hynny) yn dadlau yn Undeb y Myfyrwyr ar ffolineb ffydd. Anos fu datgan fy mod yn grediniwr wedi symud i Goleg Imperial. Ond, wrth fagu hyder, hyd yn oed wrth weithio mewn sefydliad gyda chysylltiad uniongyrchol â T. H. Huxley (‘Ci Tarw Darwin’), deuthum yn fwy parod i gymryd rhan mewn sgyrsiau rhwng staff a myfyrwyr ar esblygiad a Chreadaeth, ffwndamentaliaeth a’r Selfish Gene. Trwy fy ymwneud â’r Gymdeithas Ecolegol Brydeinig, deuthum ar draws yr Athro Sam Berry, arbenigwr mewn geneteg, Cristion oedd yn reit flaenllaw fel lleygwr yn Eglwys Loegr, ac awdur nifer o lyfrau ar y berthynas rhwng y ddwy ddisgyblaeth, gan gynnwys Adam and the Ape a God and the Biologist: Personal Exploration of Science and Faith. Gyda throad y mileniwm, symud wedyn i Gaerdydd a dysgu yn gyflym iawn nad oedd yna thema drafodaeth a fyddai’n ennyn cymaint o ddiddordeb a pharodrwydd i ddatgan barn, y naill ffordd neu’r llall, mewn tiwtorial na gwyddoniaeth a chrefydd.
Pam mynd ati felly i gyd-weithio gyda’r Parchedig Ddr Noel Davies ac ysgrifennu llyfr? Nifer o resymau – yn sicr, roedd y ddau ohonom yn frwdfrydig i gydweithio ar brosiect o’r fath. Roeddwn i, efallai yn fwy na Noel, am geisio cofnodi a chywiro rhai o’r pethau roeddwn yn eu clywed yn cael eu dweud o bulpudau ein heglwysi – ni ddywedodd Darwin erioed ein bod wedi disgyn o fwncïod, a phryd fu Darwin (neu Wallace o ran hynny) yn ‘pedlera’ eu syniadau? Teimlo hefyd bod angen i Gristion o wyddonydd, yn y gymdeithas Gymreig a Chymraeg sydd ohoni, ddatgan ei fod yn credu yng Nghrist a hefyd yn arddel Darwin, Newton, Marie Curie, Einstein, Watson, Crick, Rosalind Franklin a Dorothy Hodgkin, ac yn methu’n lân a gweld beth oedd y broblem! Mae diffyg dealltwriaeth o wyddoniaeth gan grefyddwyr wedi bod mor ddamniol i drafodaeth gall a chwrtais rhwng gwyddonwyr a chredinwyr ag yw’r dallineb gan ambell wyddonydd i beth yn union yw hanfodion ffydd.
Ymgais yw’r llyfr i ysgogi trafodaeth. Nid yw’n fwriad gan yr un ohonom (rwy’n credu y medraf siarad ar ran Noel) i droi unrhyw Gristion yn anffyddiwr o wyddonydd, nac unrhyw wyddonydd yn Gristion efengylaidd. Ein bwriad, hyd y gwelaf i, yw sbarduno trafodaeth fel bod y berthynas rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth yn derbyn y chwarae teg dyladwy. Hynny yn y gobaith y gall y ddwy garfan, os carfannau ydynt mewn gwirionedd, ddod i ddeall ei gilydd yn well … a phwy a ŵyr, efallai sylweddoli, nad dau begwn cwbl ar wahân sydd gennym ond dau lwybr yn ceisio, yn ymdrechu, yn eu ffyrdd eu hunan, i ateb yr un cwestiwn.
Mae T. Hefin Jones yn uwch ddarlithydd mewn Biowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.