Lansiwyd menter bwysig ym myd addysg yng Nghymru ar y 15fed o Fehefin yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Mae arbenigwyr rhyngwladol blaengar ym myd addysg wedi estyn eu cefnogaeth i sefydlu Comisiwn Addysg Cymru i weithio ochr yn ochr â’r Athrofa: Institute for Education, a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn trawsffurfio addysg yng Nghymru. Mynychodd llawer o bobl y digwyddiad, yn cynnwys sbectrwm eang o rhanddeiliaid mewn addysg, er mwyn clywed ystod o gyflwyniadau arbenigol.

Mae sicrhau eich bod yn tanysgrifio i Gylchgrawn Addysg Cymru, a ail-lansiwyd yn ddiweddar mewn partneriaeth â Chanolfan Cydraddoldeb Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ffordd ddelfrydol i ddathlu’r rhaglen bwysig hon. Mae’r cyfnodolyn yn anelu i apelio at ymchwilwyr, gweithwyr polisi ac athrawon sy’n rhannu’r un nod o gyrraedd safonau mor uchel â phosib mewn addysg yng Nghymru.

Ar gyfer manylion ynglŷn â sut i danysgrifio, cysylltwch â custserv@turpin-distribution.com

Sarah Lewis, Pennaeth Comisiynu, GPC