Mae Mynediad Agored (Open Access) yn bwnc sydd wedi ysgogi trafodaeth fywiog mewn cylchoedd academaidd ers cryn amser bellach, ac mae yna nifer o astudiaethau a phrosiectau peilot cyfredol sy’n ystyried y cwestiynau cymhleth a godir gan y model hwn o ledaenu gwaith ysgolheigaidd.

Mae Mynediad Agored yn golygu gweithiau academaidd sydd ar gael yn rhad ac am ddim mewn fformat digidol i unrhyw un sydd â defnydd o gyfrifiadur, h.y. gallwch eu darllen heb dalu ceiniog.

Serch hynny, nid yw cost cynhyrchu llyfr digidol lawer yn llai nag ydyw i gynhyrchu fersiwn print, yn enwedig pan ystyriwch y costau o gynnal a chadw fersiwn digidol ac ychwanegu’r elfennau sydd eu hangen i sicrhau bod y llyfr yn hawdd i’w ddarganfod. Mae Mynediad Agored yn troi’r dull traddodiadol o gyhoeddi – lle mae’r cyhoeddwr yn talu am y costau cyhoeddi ac mae’r cwsmer wedyn yn prynu’r llyfr – ar ei ben. Ond mae’n rhaid i’r costau gael eu talu yn rhywle, gan rywun, ar hyd y daith tuag at gyhoeddi. Mae canfod ateb cynaliadwy i gefnogi Mynediad Agored yn allweddol felly, yn arbennig i gyhoeddwyr bychan academaidd fel Gwasg Prifysgol Cymru (GPC), sy’n gweld gwasanaethu anghenion academaidd y farchnad Gymraeg a Chymreig fel ei phrif flaenoriaeth.

Un ateb posib yw prosiect OAPEN-UK, a ddechreuodd yn 2010 ac sy’n dirwyn i ben cyn hir. Mae GPC wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn o’r cychwyn fel aelod o’r grŵp llywio, ochr yn ochr â Gwasg Prifysgol Rhydychen a chyhoeddwyr academaidd eraill. Adnabyddir y prosiect hefyd o dan yr enw ‘Noah’, sy’n disgrifio ei amcanion yn gryno: mae dau lyfr, sydd mor debyg i’w gilydd â phosib o ran dyddiad cyhoeddi, pris a fformat, yn cael eu cyplu a’u rhoi ar gael naill ai ar blatfform mynediad agored (rhad ac am ddim), neu eu gwerthu yn y ffordd arferol (fel elfen ‘reolaeth’). Y syniad yw asesu pa effaith, os o gwbl, mae Mynediad Agored yn ei gael ar werthiant llyfrau.

Mae GPC wedi cyfrannu nifer o barau, yn cynnwys un pâr arloesol yn y Gymraeg: FfugLen: Y Ddelwedd o Gymru yn y Nofel Gymraeg o Ddechrau’r Chwedegau hyd at 1990 gan Enid Jones (y teitl Mynediad Agored) a Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog a olygwyd gan Nerys Ann Jones (y teitl ‘rheolaeth’). Mae GPC yn falch iawn o fod wedi creu hanes trwy gyfrannu’r cyhoeddiad iaith Gymraeg cyntaf i’r arbrawf arloesol hwn mewn cyfnod allweddol yn natblygiad Mynediad Agored, ac rydym yn argymell ein darllenwyr oll i gymryd golwg ar FfugLen,ac i fwynhau triniaeth arbennig Enid Jones o’i phwnc, yn rhad ac am ddim trwy’r dolenni canlynol: http://www.doabooks.org/doab?func=search&query=kw:%22Literatuur%22 a https://books.google.co.uk/books?id=VLnSTX11IE8C&printsec=frontcover#v=onepage&q&f=false

Eto, tra bod GPC a’r awdur gyda’i gilydd yn falch o fod wedi cyrraedd y garreg filltir hon mewn ysgolheictod Gymraeg, mae’n bwysig hefyd i ystyried beth fydd goblygiadau Mynediad Agored ar gyfer astudiaethau academaidd yn y Gymraeg. Sut fydd gweithiau Cymraeg yn cael eu hariannu mewn byd Mynediad Agored? Mae gweithiau Mynediad Agored yn Saesneg yn aml yn cael eu cefnogi gan brifysgol yr awdur/awdures, ond – fel y tanlinellodd Jasmine Donahaye yn ddiweddar yn y drafodaeth gyfredol ynghylch dyfodol ariannu astudiaethau Cymreig – a fydd prifysgolion Cymru yn fodlon talu am gyhoeddiadau yn yr iaith Gymraeg? Ymhellach, mae ysgolheictod Gymraeg yn denu ysgolheigion annibynnol dawnus – ond a fydd y rhain yn cael eu cloi allan o’r byd Mynediad Agored?

Un ddamcaniaeth yw y bydd gweisg academaidd yn gallu ennill y costau yn ôl trwy werthu fersiynau print a fersiynau electronig eraill o’r llyfr, ond nid yw’r ddamcaniaeth wedi ei brofi, ac fe allai beryglu GPC os nad yw’n medru adennill y costau trwy werthiant digonol.

Mae tiriogaeth dieithr Mynediad Agored yn y Gymraeg yn faes cymhleth sy’n galw am drafodaeth bellach ar frys. Bydd canlyniadau OAPEN ar gael cyn diwedd y flwyddyn, a bydd GPC yn eu harchwilio’n fanwl i’w trafod ymhellach ar ei gwefan.