Cynhaliwyd noson Lansio Tueddiadau Ieithoedd Cymru ac Arddangosiad Llwybrau at Ieithoedd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar 2 Mehefin, a drefnwyd gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Addysg CfBT, UCML Cymru a CILT Cymru. Cadeiriodd yr Athro Claire Gorrara, cyd-olygydd cyfres Ffrengig a Ffrangeg GPC, rhan gyntaf y noson i grynhoi canfyddiadau adroddiad Tueddiadau Ieithoedd 2014/15. Tanlinellodd yr adroddiad bod angen gwneud mwy i gynyddu’r niferoedd sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Fel yr unig genedl ym Mhrydain lle mae dwyieithrwydd yn ffordd o fyw, roedd yn siomedig i glywed nad yw Cymru wedi gwneud y mwyaf o’r fantais ddiwylliannol hon i ddatblygu polisi ieithoedd modern a allai ei gwneud yn arweinydd mewn amlieithedd a chynnal iaith. Mae safon dysgu ieithoedd modern fel Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn aml yn uchel iawn yng Nghymru, ond mae’r gostyngiad mewn oriau dysgu, a’r nifer o opsiynau eraill sy’n wynebu disgyblion TGAU a Lefel-A wedi golygu bod y nifer sy’n dewis eu hastudio yng Nghymru wedi disgyn yn gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae cyrsiau Lefel-A yn arbennig yn dioddef, gyda llond llaw o ddisgyblion yn unig yn dewis astudio ieithoedd ar y lefel hon, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt deithio milltiroedd yn rheolaidd i ysgol arall er mwyn astudio’r iaith o’u dewis. O fewn marchnad yrfaoedd fyd eang lle mae graddedigion sy’n medru sawl iaith yn ddeniadol iawn i gyflogwyr, mae’n siomedig iawn mai Cymru sydd a’r nifer isaf yn y Deyrnas Unedig o ddisgyblion eilradd sy’n astudio ieithoedd modern. Mewn cyferbyniad llwyr, cyflwynodd ail hanner y noson yr ochr llawer mwy positif o’r darlun trwy ddangos rhai o’r syniadau cyffrous sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd o fewn ysgolion Cymreig o ran dysgu ieithoedd modern. Mae’r rhain yn cynnwys mwy o gyfleoedd i ddechrau dysgu ieithoedd modern mewn ysgolion cynradd, sy’n paratoi disgyblion ar gyfer dysgu pynciau eraill fel celf, cerddoriaeth, hanes a daearyddiaeth trwy iaith arall ar lefel eilradd, sef Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig (Content and Language-Integrated Learning). Gall gysylltu ieithoedd yn y modd hwn helpu ysgolion i gyrraedd eu targedau llythrennedd a rhifedd, fel y dangosir yn wych yn llyfr Gareth Ffowc Roberts Count Us In: How to Make Maths Real for All of Us, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir gan GPC. Mae prosiectau eraill yn cynnwys prosiect Mamiaith, Ail Iaith, cystadlaethau sillafu a chenhadon iaith sy’n gyfrifol am annog eu cyd-ddisgyblion trwy weithgareddau iaith – o ddangos ffilmiau tramor yn yr ysgol, i gynnal cyfrifon cyfryngau cymdeithasol amlieithog a rhedeg Diwrnodau Rhyngwladol yn eu hysgolion (clywsom am ddathliad diweddar o Ddiwrnod y Meirw Mecsico mewn un ysgol yn Ne Cymru a brofodd yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion). Mae’r cynllun Mabwysiadu Dosbarth wedi bod yn llwyddiannus iawn hefyd, sy’n cysylltu dosbarth blwyddyn 9 gyda disgybl o ysgol dramor ac yn sefydlu cyfathrebiad cyson gyda hwy trwy fideo, cardiau post, llythyron ac ymweliadau. Mae’r prosiectau llwyddiannus hyn, a gefnogir gan drefnwyr y noson ar y cyd, yn hanfodol bwysig er mwyn datblygu Cymru yn genedl o ieithyddion talentog ac er mwyn agor drysau diwylliannol i bobl ifanc, ffyrdd newydd o feddwl a chyfleodd busnes. Ond yn yr un ffordd ag y mae dysgu iaith yn siwrne gydol oes, mae angen polisi hir dymor ar gyfer ieithoedd modern yng Nghymru i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r cyfle i fynegi eu hunain trwy sawl gwahanol iaith. Mae’r gwaith pwysig a gyflawnir gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru yn cynrychioli camau cyntaf pwysig ar hyd yr hewl hon. Dal ati! Vive la langue! Si, se puede! #MFL Cymru

Dr Llion Wigley