All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas 

Hoffai’r Wasg longyfarch yr Athro M. Wynn Thomas ar ennill Gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2018 gyda’i gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas. Cyflwynir gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg, a chyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar nos Fawrth, y 26ain o Fehefin.

Yn ffrwyth ugain mlynedd o waith, mae’r gyfrol arobryn hon yn bwrw golwg ar waith rhai o’n llenorion amlycaf yn ogystal â rhoi sylw i rai llai adnabyddus, gan ddadlau bod Cymru’n ‘wlad meicro-cosmopolitaidd’. Fel un sydd wedi cyhoeddi dros ugain o lyfrau, mae cyfraniad sylweddol M. Wynn Thomas i feirniadaeth lenyddol ar ddwy lenyddiaeth Cymru yn amhrisiadwy, ac fel Gwasg rydym yn hynod falch o’i gyfri ymhlith ein  hawduron. Melys iawn, felly, yw ei weld yn derbyn clod cenedlaethol wrth ennill y wobr.

Dywed Sarah Lewis, Pennaeth Comisiynu Gwasg Prifysgol Cymru:

Mae’n anrhydedd cael ein cysylltu â’r Athro M. Wynn Thomas, a braint y Wasg yw cael cyhoeddi ei waith. Fel beirniad llenyddol blaenllaw sydd wedi ennill bri anrhydeddus yn y byd academaidd, mae Wynn yn cyflwyno syniadau cymhleth mewn modd cain a hygyrch, ac yn cyfoethogi diwylliant deallusol Cymru ar gyfer cynulleidfa eang. Mae All That Is Wales yn crisialu’r cyfan – hynny yw, er bod Cymru’n wlad fechan, mae ei diwylliant yn gyfoethog. Llongyfarchiadau mawr, Wynn, oddi wrth eich ffrindiau yng Ngwasg Prifysgol Cymru.’ 

I brynu copi o’r gyfrol, dilynwch y linc.