Yn ei hunangofiant dadlennol, a gyhoeddwyd yn agos i’w ben-blwydd yn wythdeg, mae Kenneth O. Morgan yn adlewyrchu ar ei brofiadau o briodi a cholled, o ail-briodi a bod yn rhiant, cyfeillgarwch, crefydd a moesoldeb, a’i ymatebion i’r newidiadau hanesyddol mae wedi tystio iddynt, o fynychu ysgol bentref yng Nghymru wledig yn ystod yr ail ryfel byd, trwy ei flynyddoedd ysgol yn Hampstead ac yn y brifysgol yn Rhydychen, i’w fywyd yng Nghymru fel hanesydd ac yn fwyaf diweddar yn Nhŷ’r Arglwyddi. Er y profedigaethau mae wedi bod trwyddynt, mae’r hunangofiant yn cyfleu delfrydiaeth yr ysgolhaig blaenllaw hwn a’i optimistiaeth sylfaenol.

Teithiodd Helgard Krause a Catrin Harris i’r Reform Club ar Ddydd Iau’r 22ain o Hydref er mwyn mynychu lansiad ei hunangofiant, ac fe wnaeth y ddwy fwynhau noson lwyddiannus a difyr.

Agorodd Tony Ball, cadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru, y noson trwy longyfarch Kenneth O. Morgan ar ei gyflawniadau a thrwy adrodd y stori i’r gynulleidfa o sut yr achubodd y Wasg yn ystod ei gyfnod fel Is-ganghellor Prifysgol Cymru.

Darparwyd yr adloniant ar y noson gan yr Arglwydd Kinnock, a ddifyrrodd y dorf trwy adrodd yr helynt o sut ddechreuodd cyfeillgarwch y ddau (gweler Pennod Tri o’r llyfr), gan ddisgrifio’i ffrind bore oes fel “yr hanesydd llafur mwyaf treiddgar erioed”.

I gloi, talodd Ken deyrnged dwymgalon i’w deulu a’i gyfeillion am eu cariad a chefnogaeth trwy gydol ei yrfa hir, yn enwedig yn ystod y cyfnodau o alar yn ei fywyd. Fe wnaeth ddiolch Gwasg Prifysgol Cymru hefyd am gyhoeddi ei hunangofiant, hanner canrif ar ôl cyhoeddi ei lyfr cyntaf gyda GPC. Fel y mae’n ysgrifennu yn Rhagair y gyfrol: “after fifty-two years with our national press, I know I am with the almost perfect publishers”. Gallwn ddim ond obeithio y bydd ein perthynas yn parhau i flodeuo.