Ar 15 Mawrth 2016, mynychodd tri ohonom o GPC gwrs undydd XML, sef ‘Extensible Markup Language’, wedi’i drefnu gan John Normansell o Wasg Prifysgol Manceinion. Ymunodd cynrychiolwyr o Wasg Prifysgol Caeredin a Gwasg Prifysgol Lerpwl gyda ni mewn ystafell yn Adeilad Renold. Mae’r adeilad hwn hefyd yn gartref i swyddfa GPM ar gampws y Brifysgol, gyda golygfa drawiadol o adeilad Stryd Sackville gyferbyn.

Mae XML yn bwnc sydd wedi codi’i ben droeon mewn trafodaethau ynghylch cyhoeddi academaidd, ac mae’r ymwybyddiaeth symlaf wedi profi’n ddefnyddiol wrth baratoi ffeiliau i’w ‘haddasu yn y dyfodol’, delio gyda Metadata, ONIX a DOI.

Cyflwynwyd hanes, termau allweddol a chategorïau, a’r cysyniad o XML sydd ‘wedi’i ffurfio’n dda’ ac yn ‘ddilys’ gan Nic Gibson o ‘Corbas Consulting’ (@nic_gibson). Wedi iddo’n sicrhau nad oedd cwestiynau twp yn bod pan yn trafod XML, roedd yna awyrgylch cartrefol trwy gydol y dydd, a hynny gyda digon o hiwmor ac anecdotau am amrywiol bethau.

Astudiwyd Unicode, dilysu, DTDau a manion eraill yn drwyadl, a dysgwyd am bwysigrwydd Schematron gan orffen trwy gysidro lle XML ym myd cyhoeddi a’r camau cywir i’w cymryd pan yn delio gyda chyflenwyr. Roedd yn gwrs trylwyr a chafwyd cyngor di-flewyn-ar-dafod ar sefyllfaoedd pan na ddylid defnyddio XML (a pha bethau i gadw mewn cof pan yn dewis – neu’n osgoi! – cyflenwyr).

Diolch i John Normansell a GPM am eu croeso cynnes, ac i Nic am gynnal y cwrs.

Robin