Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn falch o dderbyn dau enwebiad ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019. Llongyfarchiadau i’n hawduron Gethin Matthews a Lisa Sheppard, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Categori Ffeithiol Greadigol gyda’u cyfrolau.

Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990

Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990

gan Lisa Sheppard

Dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae’n astudiaeth gymharol sy’n dod â gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd – gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae’n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am ‘aralledd’ – term sy’n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i’r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd â themâu megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma’r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol – cymdeithas lle y mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir â seilio hunaniaeth Gymreig ar allu’r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae’r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.

Mae’r llyfrau ar gael fel clawr meddal ac eLyfrau, £24.99

 

Having a Go at the Kaiser: A Welsh Family at War

Having a Go at the Kaiser: A Welsh Family at War

gan Gethin Matthews

This book is based on more than a hundred letters sent home by three Swansea brothers during the First World War, almost all of which relate to the period 1916–18 when Richard, Gabriel and Ivor Eustis were serving in different theatres. The run of letters written to different members of the family allow us to build a picture of what the brothers thought about a range of different issues as the war was being waged, and of how their beliefs and ideas evolved as situations changed. In common with other soldiers’ letters to their families, information on the battles fought is scarce – they are rather concerned with keeping the family bonds strong during the men’s absence. The dynamics of the family are revealed in letters full of sibling rivalry and affection.

Mae’r llyfrau ar gael fel clawr meddal ac eLyfrau, £14.99