19eg-26ain o Fedi yw Wythnos Adolygiadau Cymar ‘Scholarly Kitchen’; fel mae’r cogyddion yn nodi yn eu blog ar y 19eg o Orffennaf, “Roedd wythnos Adolygu 2015 yn ddigwyddiad bach, arbrofol. Ond fe wnaeth daro nodyn gyda llawer o unigolion a sefydliadau.” Felly, ar ôl yr arbrawf cyntaf, rydym yn falch iawn yma yng Ngwasg Prifysgol Cymru i weld y digwyddiad yn cael ei ail-adrodd, a gobeithiwn y bydd yn dod yn rhan barhaol o fywyd academaidd. Pan ydwyf yn siarad gydag ymchwilwyr sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd am y broses gyhoeddi academaidd, rwyf bob amser yn nodi mai adolygwyr yw arwyr ac arwresau tawel y byd academaidd, sy’n gwario oriau gwerthfawr yn darllen ac adolygu ceisiadau a theipysgrifau trwy eu hymroddiad a’u brwdfrydedd dros eu pwnc, gydag ychydig iawn o gydnabyddiaeth na gwobr.
Mae’r adolygiad cymar yn chwarae rhan gwbl allweddol a chanolog yn yr ecoleg ysgolheigaidd, gan sicrhau safonau, ond gan hefyd gynnig adborth, cyngor ac arweiniad amhrisiadwy i awduron. I ymchwilwyr ifanc, mae adolygiad cymar yn gallu chwarae rhan allweddol mewn trawsffurfio doethuriaeth mewn i fonograff blaengar a chyfraniad pwysig i drafodaeth ysgolheigaidd, trwy ddatblygu ei botensial a chynnig llwybr i wneud y naid o draethawd doethurol i waith cyhoeddedig. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn haelioni ac arbenigedd ein hadolygwyr, ac ni ellir tanbrisio eu mewnbwn, sy’n gallu arwain at gytundeb llyfr, cynnig am swydd, swydd barhaol a llwyddiant REF. Mae academyddion cyhoeddedig, profiadol hefyd yn elwa o’r broses adolygu cymar, wrth gwrs, gyda’r sylwadau, awgrymiadau a gwrthrychedd hanfodol mae’r broses yn cynnig.
Mae’n galonogol i weld, felly, mecanwaith yn datblygu sy’n cydnabod cyfraniad adolygwyr cymar. Clywir llawer o son yn ddiweddar am adeiladu proffil academaidd, a gall dweud eu bod yn adolygu i weisg academaidd ddim ond helpu i wella proffil ymchwilwyr. Felly, diolch yn fawr adolygwyr GPC, ni fyddwn yn gallu cyhoeddi hebddo chi.
Sarah Lewis, Golygydd Comisiynu