Ar Ddydd Gwener 16 Hydref mynychais gynhadledd ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llên Gwerin a’r Sefydliad Anthropolegol Brenhinol yn Llundain. Cynlluniwyd y gynhadledd er mwyn hybu cydweithrediad rhwng y ddwy ddisgyblaeth. Yn hanesyddol, mae aelodaeth y Gymdeithas a’r Sefydliad wedi gorgyffwrdd, sy’n tystio i’r agosatrwydd rhwng y ddau faes. Dangoswyd hynny’n glir yn y papurau a draddodwyd gan ysgolheigion yn ystod y gynhadledd – rhai o gefndir llên gwerin, ac eraill o faes anthropoleg, a hyd yn oed rhai o faes archaeoleg.

Traddododd Dr Tina Paphitis, archeolegydd, bapur cyfareddol ar  lên gwerin a gysylltir â chwedl Arthur. Trafododd ei phapur yr astudiaeth o Archaeoleg Gyhoeddus, sy’n edrych ar sut y gall archaeoleg gael ei ail-ddyneiddio (er enghraifft trwy weithgareddau cyrraedd allan), a gwerth ymdrin â chwedlau gwerin sy’n gysylltiedig â safleoedd archeolegol neu dreftadaeth, yn hytrach na hepgor straeon o’r fath oherwydd anghywirdeb tybiedig.

Cyflwynodd Yr Athro Florentina Badalanova Geller ddarlith ddadlennol ar y Beibl Gwerin, yn enwedig mewn perthynas â Dwyrain Ewrop, gan daflu golau ar y risg i lên-gwerinwyr sydd ynghlwm wrth gasglu deunydd. Yn ystod ail hanner y diwrnod, cafwyd sgyrsiau ar ddawnsio ‘morris’ modern i ferched, y bobl ‘Chewa’, a gwybodaeth werinol, lafar o’r corff benywaidd.

Byddai diddordeb mawr gyda’r Wasg mewn clywed oddi wrth ysgolheigion sy’n gweithio ar lên gwerin neu anthropoleg ddiwylliannol, felly cysylltwch â ni os ydych yn ymchwilio’r meysydd hyn.

Catherine Jenkins, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol