John Tudno Williams yn cyflwyno ei lyfr, Diwinyddiaeth Paul: Gan Gynnwys Sylw Arbennig i’w Ddehonglwyr Cymreig.

Cysylltir enw’r Apostol Paul â thri ar ddeg o Epistolau’r Testament Newydd a gyfeiriwyd at eglwysi neu unigolion gwahanol. Buont dan drafodaeth ymysg Cristnogion ac eraill am yn agos i ddwy fil o flynyddoedd, a chwaraeodd eu cynnwys ran allweddol yn natblygiad athrawiaethau’r Eglwys Gristnogol. Roedd hyn yn arbennig o wir adeg y Diwygiad Protestannaidd bum canrif yn ôl.

Mae hon yn gyfrol arloesol yn y Gymraeg: ni chafwyd erioed o’r blaen drafodaeth mor fanwl a chynhwysfawr o rychwant diwinyddiaeth Paul yn yr iaith. Mewn un bennod ar ddeg, mae’r gyfrol yn trafod ei berthynas â Iesu a’i ddysgeidiaeth yntau; bywyd cynnar yr Apostol a’i gefndir meddyliol; yna holir ai tröedigaeth ynteu alwad a gafodd ar y ffordd i Ddamascus; ystyrir ei agwedd at y Gyfraith Iddewig; ei Soterioleg, sef olrhain gwaith achubol Duw yng Nghrist; Cristoleg, sef ei gyflwyniad o berson Crist; Anthropoleg, sef ei ddealltwriaeth o’r natur ddynol a’i ddarlun o weithgarwch yr Ysbryd Glân mewn pobl ac yn yr eglwys; ei ddysgeidiaeth foesol; ei ddarlun o’r Eglwys; ei Eschatoleg, sef ei ddysgeidiaeth am y pethau olaf, sydd hefyd â’i effaith ar fywyd presennol y credadun; ac yn y bennod olaf, rhoddir sylw i gyfraniad arbennig y llythyrau hynny y mae amheuaeth ai Paul ei hun yw eu hawdur.

Drwy gydol y gyfrol trafodir y modd y trawsnewidiwyd llawer agwedd ar ddiwinyddiaeth Paul gan astudiaethau trylwyr wedi’r Ail Ryfel Byd. Cyfraniad unigryw y gyfrol hon yw’r sylw arbennig a roddir i waith ysgolheigion Cymreig ynghyd ag ysgolheigion eraill a fu’n llafurio yng Nghymru. Yr amlycaf o’r rhain oedd C. H. Dodd a W. D. Davies, a phwysleisir yn gyson pa mor arloesol oedd eu cyfraniadau at astudiaethau Paulaidd.

Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw’r awdur. Bu’n darlithio ym meysydd yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, am gyfnod helaeth, ac mae’n awdur esboniadau ar dri o lythyrau’r Apostol Paul. Bu’n Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr 1990–1.