Gwnaeth Meic Stephens, a fu farw yr wythnos hon, gyfraniad enfawr ac hollbwysig i hanes Gwasg Prifysgol Cymru fel awdur a golygydd. Ynghyd ag R. Brinley Jones, sylfaenodd Meic y gyfres arloesol ‘Writers of Wales’ ym 1970, a bu’n olygydd arni am dros ddeugain mlynedd – cyfnod a welodd gyhoeddi dros gant o gyfrolau. Ymhlith y nifer toreithiog o weithiau a ysgrifennodd neu a olygodd Meic ei hun, un o’r pwysicaf yw’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1986, gyda’r fersiwn Saesneg – The New Companion to the Literature of Wales – yn ymddangos ym 1998. Mae’r gyfrol yn gampwaith sy’n parhau’n ffynhonnell hanfodol bwysig i ymchwilwyr a darllenwyr yn ymddiddori yn nwy lenyddiaeth Cymru. Cyhoeddodd Meic hefyd gasgliadau o ddyfyniadau, blodeugerddi a chyfrolau wedi’u golygu am awduron Cymreig ar gyfer Gwasg Prifysgol Cymru, gweithiau a oeddent oll yn adlewyrchu ei ddealltwriaeth dreiddgar a’i wybodaeth helaeth am hanes a llenyddiaethau Cymru.