Ben Screen yn cyflwyno ei lyfr newydd, Sylfeini Cyfieithu Testun: Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol.
Gwlad ddwyieithog yw Cymru, er bod dealltwriaeth simsan o’r dwyieithrwydd hwnnw yn bell o fod anghyffredin ymysg ei phoblogaeth ei hun. Gall hyn fod ar ei fwyaf amlwg yn achos cyfieithu; oni all unrhyw un gyfieithu os yw’n ddwyieithog? Rhaid oedi am ennyd yma fodd bynnag ac ystyried yn ddwysach ddau gwestiwn arwyddocaol i’r Gymru gyfoes a safon gwasanaethau cyhoeddus: Beth yw cyfieithu, a beth yw dwyieithrwydd? Un o nodau’r gyfrol hon yw ceisio gwella dealltwriaeth pobl o gyfieithu testun a’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i’w wneud yn iawn. Gwneir hynny trwy drafod yr ymchwil berthnasol ynghylch cymhwysedd cyfieithwyr (yn ôl ymchwil, y sgiliau a’r wybodaeth hynny sydd gan gyfieithwyr proffesiynol da nad ydynt ym meddiant pawb arall), a thrwy drafod y broses gyfieithu fesul cam er mwyn taflu goleuni ar bob rhan o’r broses amlweddog hon. Mae cyfieithu yn broffesiwn sy’n haeddu rhagor o gydnabyddiaeth ac mae cyfieithwyr da yn brin. Dyma ymgais yn y gyfrol hon i ddangos hynny.
Y brif gynulleidfa, fodd bynnag, yw myfyrwyr a’r rhai sydd â’u bryd ar ddod yn gyfieithwyr. Prin iawn yw’r deunydd cyhoeddedig yn y Gymraeg sy’n egluro hanfodion cyfieithu testun, ac er bod hen ddigon o ddeunydd yn y Saesneg ac mewn ieithoedd eraill, nid yw’r llyfrau hyn wedi eu hysgrifennu o safbwynt ieithoedd lleiafrifedig. Nod arall felly oedd unioni hynny, nid yn unig o safbwynt academaidd ond hefyd o safbwynt y byd cyfieithu proffesiynol yma yng Nghymru. Mae’r technegau a’r strategaethau sydd eu hangen ar gyfieithwyr wedi eu hegluro, i’w cynorthwyo trwy gydol y broses o lunio cyfieithiad, ac mae trafodaeth hefyd am ystyr mewn iaith a sut mae ieithoedd yn cyfleu hynny. Mae dealltwriaeth ddofn o ystyr yn hanfodol wrth gyfieithu, ac felly rhaid mynd ymhellach na’r hyn a geir yn aml wrth roi adborth i gyw cyfieithwyr, ac yn hytrach nag ymadroddion fel ‘ergyd y darn’, ‘taro tant’, ‘colli’r ystyr’, ‘brawddegu da’ a ‘clogyrnaidd’, rhaid cyfuno hyn â’r gallu i egluro pam nad yw cyfieithiad yn gywir ar lefel fwy technegol. Gobeithir y bydd trafodaeth am sut y gellir categoreiddio mathau o ystyr yn fanwl ac am dechnegau cyfieithu penodol yn fuddiol yn hynny o beth. Gobeithir hefyd y bydd y dadansoddiad o’r gwallau a wnaed amlaf yn arholiadau aelodaeth Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru rhwng 2012 a 2019, a’r ymhelaethu ar y gwallau hynny trwy egluro gwelliannau posibl ar sail cynnwys y gyfrol, hefyd o fudd i gyfieithwyr newydd.
Mae ysgrifennu am y byd cyfieithu cyfoes wrth gwrs yn golygu trafod cyfieithu peirianyddol a thechnoleg cyfieithu yn ehangach gan fod technoleg cyfieithu wedi chwyldroi’r proffesiwn dros y blynyddoedd. Mae cyfieithu peirianyddol yn neilltuol yn cael sylw manwl yn y gyfrol, er mwyn chwalu’r mythau amdano a’i gyflwyno fel arf pwysig i gyfieithwyr proffesiynol. Trafodir hefyd le cyfieithu peirianyddol o fewn ‘Llythrennedd Digidol’ hefyd, a dadleuir bod lleoli’r dechnoleg o fewn corlan sgiliau llythrennedd digidol yn dod â llu o fanteision. Mae trafod hefyd ar y mathau o ystyr a’r elfennau hynny o gyfieithu na all peiriannau cyfieithu ddelio â hwy yn ddigon da eto. Mae’r meta-iaith angenrheidiol i egluro pam na all cyfieithu peirianyddol ddelio’n dda â rhai elfennau o’r broses gyfieithu ar goll yn y disgwrs cyhoeddus, a dibynnir ar ystrydebau ac ymadroddion gwag yn rhy aml, megis ei anallu i ‘ddarllen rhwng y llinellau’ neu i ddeall ‘ysbryd’ y testun gwreiddiol. Mae modd bod yn fwy manwl na hyn pan ddaw i egluro doniau a ffaeleddau peiriannau cyfieithu, a gobeithir y bydd y drafodaeth yn y gyfrol yn cyfrannu at ddisgwrs sydd ychydig yn fwy trylwyr a chysáct yn hynny o beth.
Dyma ymdriniaeth o grefft y cyfieithydd a’r byd cyfieithu cyfoes yn y Gymraeg, o safbwynt academaidd ac o safbwynt ymarferol, a’r gobaith yw y bydd yn gynhorthwy i unrhyw gyfieithydd wrth ddechrau ar yrfa yn y maes hollbwysig hwn sydd wrth galon darparu gwasanaethau dwyieithog.
Rheolwr Cyfieithu yw Ben Screen yn GIG Cymru. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth ym maes cyfieithu a thechnoleg iaith yn 2018, ac enillodd ei radd yn y Gymraeg yn 2014, ill dwy yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.