Mynychais gynhadledd undydd yn ddiweddar wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, er mwyn trafod dyfodol Astudiaethau Cymreig. Roedd y trefnwyr wedi casglu rhestr nodedig o siaradwyr a chynadleddwyr ynghyd, yn cynnwys academyddion blaenllaw o feysydd hanes a llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Croesawodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas Ddysgedig, bawb i leoliad hardd y gynhadledd yng Ngregynog, cyn i’r Athro M. Wynn Thomas – sydd wedi gweithio’n ddiflino i geisio sicrhau fod y ddarpariaeth ar gyfer Astudiaethau Cymreig yn cael ei gyllido’n ddigonol – amlinellu’r peryglon posib sy’n wynebu’r maes o ganlyniad i doriadau diweddar mewn cyllid ac ymddeoliadau arfaethedig nifer o academyddion pwysig yng Nghymru. Pwysleisiodd yr angen dirfawr i greu Cymdeithas Astudiaethau Cymreig a fyddai’n dod â phobl at ei gilydd yng Nghymru er mwyn lobïo’n effeithiol ar gyfer normaleiddio a hybu Astudiaethau Cymreig yn ein hysgolion a’n prifysgolion – rhywbeth sydd heb gael ei wneud yn systematig hyd yma.

Dilynodd Dr Susan Hodgett, cymdeithasegydd o Brifysgol Ulster sydd hefyd yn Gadeirydd Cyngor y DU er Cymdeithasau Astudiaethau Ardal, araith angerddol Wynn Thomas gyda golwg cymharol a diddorol yn manylu ar ei phrofiadau fel academydd yng Ngogledd Iwerddon a Chanada a’r ffordd y mae’r profiadau hyn yn dangos sut y gall astudiaethau ardal fod o gymorth i ni ddeall yn well y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn mewn gwahanol rannau o’r byd, ac hefyd i ganiatáu i academyddion weithio ar draws ffiniau disgyblaethol ac ehangu eu methodoleg wrth wneud. Yn y cyflwyniad nesaf ategodd Helgard Krause, Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru (a welir uchod), pa mor gadarn yw ymrwymiad y Wasg i Astudiaethau Cymreig – ymrwymiad sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn sail i’w gyhoeddiadau ers yn agos at ganrif.

Cyflwynodd Mari Fflur, Swyddog Cyhoeddiadau newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, drosolwg cynhwysfawr o waith y Coleg a’r camau breision y mae ei staff wedi’u cymryd i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer yr astudiaeth o ystod o bynciau academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg mewn cyfnod byr o amser ers 2011. Cyflwyniad Rob Humphreys a’r Athro Trevor Herbert o’r Brifysgol Agored ddaeth nesaf, yn amlinellu’r adnoddau poblogaidd ym maes Astudiaethau Cymreig y mae’r Brifysgol wedi’u datblygu dros gyfnod o ddau ddegawd, e.e. mae’r cwrs ar-lein Welsh History and its sources, a seiliwyd ar gyfres o gyfrolau a gyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru yn yr 1980au a’r 1990au, wedi derbyn clod mewn arolygon adborth myfyrwyr, y mwyafrif ohonynt o’r tu allan i Gymru.

Dilynodd cyfres o weithdai ar ôl cinio, gyda grwpiau yn llunio syniadau defnyddiol ar sut y dylai unrhyw Gymdeithas Astudiaethau Cymreig gael ei drefnu a’i redeg, a thrafodwyd y syniadau hynny ar y cyd yn sesiwn olaf y dydd. Ffactor bwysig yn hyn oll yw’r adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru y mae Syr Ian Diamond wrthi’n ei gwblhau ar ran Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Gellir anfon tystiolaeth o blaid Astudiaethau Cymreig at Lywodraeth Cymru gan defnyddio’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/highereducation/review-of-he-funding-and-student-finance-arrangements/?skip=1&lang=cy

Llion Wigley